Defnyddio llysenwau ar lefydd 'ddim am ddisodli enwau Cymraeg'
- Cyhoeddwyd
Mae gwasanaeth mapio wedi mynnu na fydd ymgais i hwyluso gwaith y gwasanaethau brys yn digwydd ar draul enwau Cymraeg.
Mae llysenwau lleoliadau a thirnodau dros Gymru wedi cael eu hychwanegu i gronfa ddata newydd gan yr Arolwg Ordnans (OS).
Bydd yr Offeryn Enwau Gwerinol yn cael ei ddefnyddio gan y gwasanaethau brys yn unig, mewn ymgais i leoli a chyrraedd galwadau brys yn gynt.
Mae'r OS yn mynnu na fydd yr enwau'n cael eu gwneud yn gyhoeddus na chwaith yn cael effaith ar enwau Cymraeg.
Ond mae'r digrifwr Tudur Owen yn dweud ei bod yn "drist ac yn dorcalonnus" fod gwasanaeth mapio swyddogol yn defnyddio llysenwau Saesneg ar lefydd Cymraeg.
'Dim disodli enwau Cymraeg'
Mae dros 9,000 o leoliadau dros y DU eisoes ar y rhestr, gan gynnwys y llysenwau am Borth Dafarch (Smoggy Point), Porth Ruffydd (Soup Dragon Cave) a'r Cribinau (Church in the Sea) ar Ynys Môn - a sawl safle arall dros y wlad.
Mae'r Arolwg Ordnans yn awyddus i bwysleisio y bydd yr enwau answyddogol yma "byth am ymddangos ar ein mapiau", ac na fydd "unrhyw enw Cymraeg yn cael ei ddisodli".
"Mae hwn yn gronfa ddata cudd i helpu'r gwasanaethau brys ymateb i ddigwyddiadau'n gynt, ac rydym yn gwahodd defnyddwyr i fewnbynnu llysenwau Cymraeg yn ogystal â rhai Saesneg.
"Os mae rhywun yn gwneud galwad brys ac yn defnyddio llysenw am leoliad, bydd y gwasanaethau brys wedyn yn gallu croesgyfeirio'r gronfa ddata a dod o hyd i'r lleoliad yn gynt."
Bydd yr wybodaeth yn cael ei defnyddio gan yr heddlu, y gwasanaeth ambiwlans, a'r gwasanaeth tân ar draws Cymru.
Dywedodd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri eu bod yn "derbyn yr angen i ddefnyddio banciau gwybodaeth gan y gwasanaethau brys er mwyn eu galluogi i ymateb yn brydlon i argyfyngau.
"Gan nad yw’r gronfa ddata o lysenwau a gesglir gan yr Arolwg Ordnans yn wybodaeth gyhoeddus mae’n annhebygol o ddylanwadau ymhellach ar y defnydd o’r llysenwau hynny."
Yn 2022 fe wnaeth yr awdurdod benderfynu y byddai'n defnyddio'r enwau Cymraeg yn unig ar gyfer lleoliadau.
Ychwanegodd llefarydd: "Mae’r ffaith bod y llysenwau yma’n bodoli yn y lle cyntaf yn atgyfnerthu’r angen i godi ymwybyddiaeth o arwyddocâd a phwysigrwydd enwau lleoedd hanesyddol Cymraeg yn Eryri a thu hwnt er mwyn sicrhau eu parhad.
"I’r perwyl hwn, mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol a Chomisiynydd y Gymraeg yn parhau i gydweithio’n agos gyda’r Arolwg Ordnans i gofnodi enwau lleoedd hanesyddol Cymraeg ar eu mapiau cyhoeddus."
Ond nid pawb sy'n hapus am y gronfa newydd, hyd yn oed os nad yw'n un fydd ar gael i'r cyhoedd.
Mae'r cyflwynydd a'r digrifwr Tudur Owen wedi bod yn ymgyrchu i amddiffyn enwau Cymraeg ar leoliadau.
"Un o'r rhei [ardaloedd] mwya' enwog, a un o'r rhei sy'n sticio yn y gwddw - yn sicr - i mi ydy 'The Nameless Cwm'," meddai.
"Cwm Cneifion ydy'r enw hynafol arno fo a ma' hwnnw, dwi'n meddwl, yn esiampl berffaith o be' sy'n digwydd pan mae pobl sydd ddim yn siarad Cymraeg a ddim yn gwybod yr hanes a ddim yn gwerthfawrogi'r hanes, yn penderfynu defnyddio enwa' sydd yn haws iddyn nhw - enwa' sydd, i bob pwrpas, yn enwa' arwynebol iawn, iawn.
"Ac yn sydyn reit, oherwydd niferoedd y bobl sy'n symud mewn i'r ardal, ac oherwydd mai'r Cymry sy'n y lleiafrif, mae'r enwau yma yn cymryd gafael.
"A fel 'da ni'n gweld, mae'r gwasanaeth mapio yn swyddogol wedyn yn defnyddio'r enwa' 'ma, a dwi'n meddwl fod hynna'n drist ac yn dorcalonnus i fod yn onest."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Tachwedd 2023
- Cyhoeddwyd16 Tachwedd 2022
- Cyhoeddwyd13 Mehefin 2018