Comisiynwyr heddlu: Ethol y menywod cyntaf yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae’r menywod cyntaf wedi’u hethol yn gomisiynwyr heddlu a throsedd yng Nghymru wrth i Lafur ddal y swyddi yng Ngwent, Gogledd a De Cymru.
Cafodd arweinydd Cyngor Casnewydd, Jane Mudd o'r blaid Lafur, ei hethol yn Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent brynhawn Gwener.
Funudau yn ddiweddarach, daeth cyhoeddiad bod Emma Wools wedi ei hethol yn ardal y de.
Mae Dafydd Llywelyn wedi cael ei ailethol ar ran Plaid Cymru yn Nyfed-Powys.
Yng ngogledd Cymru, mae Andy Dunbobbin o'r blaid Lafur wedi cadw ei swydd.
Fel yn yr etholiadau diwethaf yn 2021, cafodd ymgeiswyr Llafur eu hethol yng Ngwent, Gogledd Cymru a De Cymru, ac ymgeisydd Plaid Cymru yn Nyfed-Powys.
Y ganran a bleidleisiodd yng Nghymru oedd 17%.
Enillodd Ms Mudd gyda 28,476 o bleidleisiau, yn erbyn 21,919 i'r Ceidwadwyr, 9,864 i Blaid Cymru ac 8,078 i'r Democratiaid Rhyddfrydol.
Roedd y ganran a bleidleisiodd yn 15.63% yng Ngwent.
Dywedodd Ms Mudd wrth BBC Cymru: "Mae yna waith i'w wneud i barhau i godi ymwybyddiaeth o rôl comisiynydd heddlu a throsedd."
Enillodd Ms Wools, oedd yn ddirprwy i'w rhagflaenydd Alun Michael, gyda 73,128 o bleidleisiau.
Cafodd y Ceidwadwyr 43,344, Plaid Cymru 27,410 a'r Democratiaid Rhyddfrydol 17,908.
Roedd y ganran a bleidleisiodd yn y rhanbarth sy’n ymestyn o Abertawe i Gaerdydd a llawer o gymoedd y de, yn 16.58%.
Dywedodd Ms Wools ei fod yn "gyfle pwerus i greu newid, hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant, ac eirioli dros gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol".
Cafodd Dafydd Llywelyn 31,323 o bleidleisiau, yn erbyn 18,353 i Lafur, 19,134 i'r Ceidwadwyr a 7,719 i'r Democratiaid Rhyddfrydol.
Dywedodd Mr Llywelyn y “bydd tryloywder, atebolrwydd a chydweithio yn parhau i fod ar flaen fy ymdrechion i sicrhau y gallwn wella ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd mewn plismona".
Cafodd Andy Dunbobbin ei ailethol yn y gogledd gyda 31,950 o bleidleisiau.
Yn gyffredin â rhannau eraill o Gymru, roedd y ganran a bleidleisiodd yn isel gyda 17.19% o bleidleiswyr yn cymryd rhan.
Cafodd y Ceidwadwyr 26,281 o bleidleisiau, Plaid Cymru 23,466 tra bod 7,129 wedi pleidleisio i'r Democratiaid Rhyddfrydol.
Dywedodd Mr Dunbobbin: "Rwy’n gobeithio fy mod wedi dangos i’m hetholwyr dros y tair blynedd diwethaf y byddaf yn gwrando arnynt, y byddaf yn eirioli drostynt, ni fyddaf yn cilio rhag yr heriau sy’n ein hwynebu, a byddaf yn gweithio’n galed drostynt bob dydd.”
Mae comisiynwyr heddlu a throsedd yn swyddogion etholedig sy'n gosod blaenoriaethau, cyllidebau ac yn craffu ar berfformiad yr heddlu ar ran y cyhoedd.
Nhw sy'n gyfrifol am benodi a diswyddo prif gwnstabliaid, ond dydyn nhw ddim yn gyfrifol am benderfyniadau plismona o ddydd i ddydd.
Roedd gan y pedair prif blaid yng Nghymru - Llafur, y Ceidwadwyr, Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol - ymgeiswyr ym mhob ardal yn yr etholiadau eleni.
Fe ddigwyddodd y pleidleisio ddydd Iau - yr etholiadau cyntaf yng Nghymru ble roedd angen dangos cerdyn adnabod gyda llun arno er mwyn pleidleisio.
Roedd dau o’r comisiynwyr Llafur presennol yn rhoi’r gorau i’w swyddi eleni - Alun Michael yn Ne Cymru a Jeff Cuthbert yng Ngwent.
- Cyhoeddwyd24 Ebrill
- Cyhoeddwyd30 Ebrill
- Cyhoeddwyd26 Ebrill
Roedd pryderon y gallai'r niferoedd sy'n pleidleisio fod yn isel eleni am nad oedd unrhyw etholiadau eraill yn digwydd yng Nghymru yr un pryd.
Roedd y ddau etholiad comisiynwyr heddlu diweddaraf yn cyd-fynd ag etholiadau'r Senedd, ac yng Nghymru fe bleidleisiodd 39% o'r rheiny a oedd yn gymwys yn 2016, a 51% yn 2021.
Ond pan gynhaliwyd yr etholiadau comisiynwyr heddlu am y tro cyntaf yn 2012, doedd dim etholiadau eraill yn cael eu cynnal ar yr un pryd, a dim ond 14.9% o'r rheiny a oedd yn gymwys i bleidleisio wnaeth hynny.
Roedd 'na bryder hefyd y gallai dryswch ynglŷn â'r angen am gerdyn adnabod gyda llun arno arwain at ostyngiad yn nifer y pleidleiswyr eleni hefyd.