Wynne Evans yn meddwl fod 'pawb yn ei gasáu' ar ôl sylw negyddol Strictly
- Cyhoeddwyd
Mae'r darlledwr a'r canwr opera, Wynne Evans, wedi sôn am y sylw negyddol a gafodd yn y wasg yn ystod ei gyfnod ar Strictly Come Dancing.
Y Cymro, 52, oedd yr wythfed cystadleuydd i adael y sioe deledu boblogaidd nos Sul.
Ar ôl treulio dros ddeufis ar y gyfres, dywedodd fod y "lazy journalism" yn ystod y cyfnod hwnnw wedi ei synnu.
"Yn y gorffennol, dwi wedi darllen rhywbeth yn y papur a [wedi meddwl] 'there’s no smoke without fire', ond dros y broses yma, mae’r wasg wedi ysgrifennu lies trwy’r amser," meddai.
"Pan ti yng nghanol y storm, ti jyst yn gweld y papur, [dyw] pobl ar y stryd ddim yn darllen popeth, ond dwi’n darllen popeth, a dwi’n [meddwl] 'everybody hates me' neu rywbeth fel hwn."
Yn gynharach yn y gyfres, bu rhai yn feirniadol o "ymddygiad lletchwith" rhyngddo ef a'i bartner Katya Jones.
Mae Wynne a Katya wedi mynnu mai "jôc fewnol" a gafodd ei "gamddehongli'n llwyr" oedd y digwyddiad.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Tachwedd