Saethu Rhondda Cynon Taf: Chwech yn llys y goron

Dywedodd teulu Joanne Penney ei bod yn "ferch, mam, chwaer ac wyres a oedd yn cael ei charu'n fawr"
- Cyhoeddwyd
Mae chwech o bobl wedi ymddangos yn y llys mewn cysylltiad â llofruddiaeth menyw a gafodd ei saethu yn Rhondda Cynon Taf.
Bu farw Joanne Penney, 40, ar ôl cael ei saethu mewn fflat yn Llys Illtyd, Tonysguboriau, nos Sul 9 Mawrth.
Mae Marcus Huntley, 20 o Laneirwg, Caerdydd; Melissa Quailey-Dashper, 39 o Gaerlŷr; Joshua Gordon, 27 o Oadby, Sir Gaerlŷr; Jordan Mills-Smith, 32 o Bentwyn, Caerdydd; a Tony Porter, 68, o Braunstone Town, Sir Gaerlŷr wedi'u cyhuddo o lofruddiaeth.
Mae Mr Porter hefyd yn wynebu cyhuddiad o gymryd rhan mewn gweithgareddau troseddol grŵp troseddu (organised crime gang).
Mae Kristina Ginova, 21 o Oadby, Sir Gaerlŷr, wedi'i chyhuddo o gynorthwyo troseddwr.

Joshua Gordon, Marcus Huntley a Tony Porter yn cyrraedd y llys fore Mawrth
Mewn gwrandawiad byr yn Llys y Goron Caerdydd, fe gadarnhaodd y diffynyddion eu henwau a'u dyddiadau geni.
Cafodd y chwech eu cadw yn y ddalfa, tan y gwrandawiad nesaf ar 7 Gorffennaf.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd5 o ddyddiau yn ôl