Pump ger bron llys wedi llofruddiaeth Tonysguboriau

Joanne PenneyFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd teulu Joanne Penney ei bod yn "ferch, mam, chwaer ac wyres a oedd yn cael ei charu'n fawr"

  • Cyhoeddwyd

Mae pump o bobl wedi bod ger bron llys mewn cysylltiad â llofruddiaeth dynes 40 oed mewn bloc o fflatiau yn Rhondda Cynon Taf ddydd Sul.

Cafodd Joanne Penney, 40, ei chanfod ag anafiadau difrifol mewn fflat yn Nhonysguboriau tua 18:10. Bu farw yn y fan a'r lle.

Mae pedwar o'r rhai - tri dyn ac un ddynes - a fu ger bron Llys Ynadon Caerdydd fore Sadwrn wedi'u cyhuddo o lofruddiaeth.

Y pedwar oedd Marcus Huntley, 20 oed o Laneirwg, Caerdydd, Melissa Quailey-Dashper, 39 oed o Gaerlŷr, Joshua Gordon, 27 oed o Oadby, Sir Gaerlŷr a Tony Porter, 68, o Braunstone Town, Sir Gaerlŷr - mae e hefyd wedi'i gyhuddo o fod â rhan yng ngweithgareddau troseddol grŵp troseddau wedi'u trefnu.

Mae Kistina Ginova, 21, o Oadby, Sir Gaerlŷr, wedi'i chyhuddo o gynorthwyo troseddwr.

Clywodd Llys Ynadon Caerdydd fore Sadwrn ei bod wedi'i chyhuddo o gael gwared ar dystiolaeth a oedd yn gysylltiedig â'r lofruddiaeth.

Cafodd cais mechnïaeth ar ei rhan ei wrthod.

Cafodd y pum diffynnydd eu cadw yn y ddalfa ac mae disgwyl iddyn nhw ymddangos ger bron Llys y Goron Caerdydd ar 18 Mawrth.

Yn ogystal cafodd dyn 32 oed ei arestio nos Wener yn Suffolk fel rhan o ymchwiliad yr heddlu.

Llys Illtyd
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddigwyddodd y saethu mewn cyfeiriad yn Llys Illtyd, meddai'r heddlu

Dywedodd y Ditectif Brif Uwcharolygydd Ceri Hughes: "Mae ein tîm o dditectifs a staff arbenigol yn parhau i ymchwilio i farwolaeth drasig Joanne Penney.

"Rydym yn dal i annog unrhyw un sydd â gwybodaeth, naill ai am ei marwolaeth neu beth ddigwyddodd yn yr eiddo yn Llys Illtyd nos Sul, i gysylltu â ni – gallai'r darn lleiaf o wybodaeth fod yn hollbwysig."

Mewn teyrnged i Joane Penney ddydd Iau, dywedodd ei theulu ei bod yn "ferch, mam, chwaer ac wyres a oedd yn cael ei charu'n fawr gan bawb oedd yn ei hadnabod".

Pynciau cysylltiedig