Dyn yn y llys wedi'i gyhuddo o lofruddiaeth Tonysguboriau

Dywedodd teulu Joanne Penney ei bod yn "ferch, mam, chwaer ac wyres a oedd yn cael ei charu'n fawr"
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 32 oed wedi ymddangos yn Llys Ynadon Merthyr Tudful wedi'i gyhuddo o lofruddio menyw yn Rhondda Cynon Taf.
Bu farw Joanne Penney, 40, mewn bloc o fflatiau yn Nhonysguboriau ar ddydd Sul, 9 Mawrth, ar ôl cael ei saethu.
Cafodd Jordan Mills-Smith o Bentwyn, Caerdydd, ei arestio brynhawn Gwener, 14 Mawrth yn ardal Suffolk.
Fe gerddodd i mewn i'r llys yn dal ei gefn ac yn gwisgo tracwisg lwyd.
Siaradodd i gadarnhau ei enw, ei ddyddiad geni a'i gyfeiriad yn unig.
- Cyhoeddwyd7 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd2 ddiwrnod yn ôl
- Cyhoeddwyd4 o ddyddiau yn ôl
Dywedodd y barnwr rhanbarthol Neale Thomas fod natur y cyhuddiad mor ddifrifol y byddai angen ei anfon i Lys y Goron.
Mae disgwyl i Mills-Smith ymddangos yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Mawrth.
Ni chafodd cais ei wneud am fechnïaeth.
Mae pedwar person arall eisoes wedi cael eu cyhuddo o lofruddiaeth mewn cysylltiad â'r digwyddiad, ac un ddynes wedi cael ei chyhuddo o gynorthwyo troseddwr.
Mae disgwyl iddyn nhw hefyd ymddangos o flaen Llys y Goron Caerdydd ddydd Mawrth.
Apêl am wybodaeth
Dywedodd y Ditectif Brif Uwch-arolygydd, Ceri Hughes, bod swyddogion yn parhau i geisio cadarnhau amgylchiadau'r farwolaeth.
"Hoffwn annog unrhyw un sydd gyda gwybodaeth am ei marwolaeth, neu am yr hyn ddigwyddodd yn yr adeilad yn Llys Illtyd ar brynhawn Sul, i ddod ymlaen.
"Gallai'r wybodaeth leiaf fod hefo'r pwysigrwydd mwyaf sylweddol."
Ychwanegodd ei fod yn ddiolchgar i'r gymdeithas: "Hoffwn ddiolch i'r gymuned leol am eu cefnogaeth yn yr ymchwiliad hyd yn hyn, ac i bawb sydd wedi siarad gyda ni ac wedi darparu gwybodaeth."
Dywedodd Heddlu'r De fod teulu Ms Penney wedi cael gwybod, ac yn parhau i gael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol.