Uwch-arolygydd heddlu wedi'i gyhuddo o greu diwylliant 'misogynistig'

Gary Davies
Disgrifiad o’r llun,

Mae Gary Davies yn gwadu bod ei weithredoedd yn gyfystyr â chamymddwyn difrifol

  • Cyhoeddwyd

Mae uwch-arolygydd heddlu sydd wedi ei gyhuddo o gyffwrdd cydweithiwr yn amhriodol hefyd wedi ei gyhuddo o greu diwylliant "misogynistig" o fewn Heddlu Dyfed-Powys.

Mae'r uwch-arolygydd Gary Davies wedi ei gyhuddo o bum achos o gamymddygiad o fewn y llu rhwng 2017 a 2021.

Fe glywodd gwrandawiad yn Llangynnwyr gan weithwyr benywaidd, gan gynnwys un sy'n honni iddo ei chyffwrdd yn amhriodol mewn parti Nadolig.

Mae Mr Davies yn gwadu bod y cyhuddiadau yn gyfystyr â chamymddwyn difrifol ac iddo greu awyrgylch o "glwb bechgyn" o fewn y gwaith.

Clywodd gwrandawiad disgyblu ddydd Mawrth bod Mr Gary Davies wedi ymddwyn mewn ffordd amhriodol tuag at fenywod o fewn Heddlu Dyfed-Powys.

Mae'r honiadau'n cynnwys creu grŵp Whatsapp i gydweithwyr gwrywaidd yn unig i drafod materion gwaith a chymharu menywod o fewn y gwaith â cheir moethus fel "Porsche" a "Rolls Royce".

Wrth roi tystiolaeth gerbron y gwrandawiad, fe wnaeth un cydweithiwr benywaidd honni bod yr uwch-arolygydd wedi rhoi ei ddwylo ar ei chanol mewn parti Nadolig yn 2017 neu 2018.

Dywedodd y fenyw fod "edrychiad yn ei lygaid" a'i bod yn meddwl fod yr uwch-arolygydd yn "fflyrtio" gyda hi.

"Fe osododd ei ddwy law ar fy nghanol a thynnodd fi yn ôl tuag ato, roedd fy nghefn i ar ei flaen e," meddai.

Clywodd y panel ei bod wedi teimlo'n anghyfforddus ac fe symudodd hi ei ddwylo o'i chorff yn syth.

Esboniodd y tyst fod cydweithwyr o fewn y swyddfa yn cyfeirio at Mr Gary Davies fel "the octopus" ac fe wnaeth hi ei ddisgrifio fel dyn "cyffyrddol" [tactile].

'Clwb i fechgyn'

Mewn cyfweliad yn dilyn y digwyddiad fe ddywedodd Mr Davies ei fod dan ddylanwad alcohol yn y parti ac fe ymddiheurodd am ei ymddygiad.

Mae'r uwch-arolygydd hefyd wedi ei gyhuddo o wneud sawl sylw rhywiol am gydweithwyr benywaidd gan gynnwys eu cymharu â cheir moethus.

Fe glywodd y panel gan gyn-weithiwr benywaidd wnaeth ddisgrifio tîm o fewn Heddlu Dyfed-Powys fel "clwb i fechgyn", wrth iddi gael ei holi gan Mr Gerrard Boyle KC.

Disgrifiodd diwylliant ei thîm ar y pryd fel un "misogynistig" a'i bod yn teimlo fod y diwylliant ar y pryd yn cael ei reoli gan yr uwch-arolygydd Gary Davies.

Fe wnaeth hi honni fod Mr Gary Davies wedi dechrau grŵp Whatsapp gydag uwch arweinwyr gwrywaidd yn unig, o'r enw 'Boom!', lle'r oedd materion gwaith yn cael eu trafod.

"Y diwylliant oedd 'cadwch y merched allan'", meddai.

"Cawsom ein cau allan o lawer iawn o wybodaeth a sgyrsiau yr oedd yr holl ddynion o fewn y tîm yn eu cael."

Gary Davies
Disgrifiad o’r llun,

Mae un cydweithiwr wedi honni i'r uwch-arolygydd ei chyffwrdd yn amrhiodol mewn parti Nadolig

Clywodd y panel fod e-bost wedi ei ddanfon i weithwyr benywaidd yn dweud y dylen nhw gyfeirio at Mr Gary Davies fel 'syr' wedi iddo gael ei ddyrchafu i fod yn uwch-arolygydd, er i rai a dderbyniodd yr e-bost fod mewn swydd uwch na Mr Davies.

Dywedodd un cyn-weithiwr benywaidd: "Roeddwn i wir yn meddwl ei fod yn jôc pan welais i hi (y neges) gyntaf."

Yn ôl y llu, os caiff y cyhuddiadau yn erbyn Mr Davies eu profi, byddai'r ymddygiad yn gyfystyr â thorri'r safonau ymddygiad proffesiynol.

Mae Gary Davies yn gwadu iddo feithrin neu achosi awyrgylch o 'glwb bechgyn' ac mae'n gwadu bod ei weithredoedd yn unigol yn gyfystyr â chamymddwyn difrifol.

Mae'r gwrandawiad yn parhau.

Pynciau cysylltiedig