Chwaraewyr ifanc clybiau Cymru 'o fudd enfawr' i'r tîm cenedlaethol

Ronan Kpakio yn dathlu sgorio i GaerdyddFfynhonnell y llun, Huw Evans Picture Agency
Disgrifiad o’r llun,

Enillodd Ronan Kpakio ei gap gyntaf dros Gymru yn erbyn Canada yn gynharach fis yma

  • Cyhoeddwyd

Mae nifer y chwaraewyr ifanc sy'n dod i'r amlwg gyda chlybiau EFL Cymru o "fudd enfawr" i'r tîm cenedlaethol, yn ôl Cymdeithas Bêl-droed Cymru.

Roedd academi Abertawe yn gyfrifol am naw o garfan Cymru ym mis Mawrth, tra bod tri chwaraewr ifanc Caerdydd wedi gwneud eu hymddangosiad cyntaf i Gymru yn gynharach fis yma.

Mae'r ddau glwb yn gobeithio uwchraddio eu statws academi a, gyda Wrecsam bellach yn y Bencampwriaeth ar ôl tri dyrchafiad yn olynol, maen nhw hefyd yn anelu at gryfhau eu strwythur ieuenctid.

Prif hyfforddwr Cymru, Craig Bellamy, sydd wedi rhoi pwyslais cryf ar adeiladu ar gyfer y dyfodol yn ystod ei flwyddyn gyntaf wrth y llyw.

Fore Mawrth bydd yn enwi ei garfan ar gyfer gêm gyfeillgar gyda Lloegr a'r gêm ragbrofol Cwpan y Byd yn erbyn Gwlad Belg fis Hydref.

'Craig wedi rhoi cyfle'

"Ar hyn o bryd 'dyn ni mewn sefyllfa dda iawn," meddai Dave Adams, prif swyddog pêl-droed Cymdeithas Bêl-droed Cymru.

"Mae Craig wedi rhoi cyfleoedd i chwaraewyr, sy'n wych.

"Mae angen i'ch prif hyfforddwr roi hwb i chwaraewyr ifanc ac mae Craig yn gwneud hynny'n helaeth, sy'n rhoi hyder enfawr i chwaraewyr.

"Felly rwy'n teimlo, os gallwn ni gael mwy o chwaraewyr yn y clybiau hynny - Caerdydd, Abertawe, Wrecsam a Chasnewydd - yn y dyfodol, ei fod yn fudd enfawr i'n tîm cenedlaethol."

Dave Adams (chwith) gyda Craig Bellamy cyn i Gymru wynebu Gwlad BelgFfynhonnell y llun, Cymdeithas Bêl-droed Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae Dave Adams (chwith, gyda Craig Bellamy) wedi gweithio i Abertawe, Middlesbrough ac Everton yn ogystal â Chymdeithas Bêl-droed Cymru

Un o elfennau mwyaf amlwg dechrau cryf Caerdydd i'r tymor yn Adran Un – ar ôl disgyn o'r Bencampwriaeth – yw ieuenctid y tîm.

Dewisodd y prif hyfforddwr newydd Brian Barry-Murphy dîm ieuengaf yr Adar Gleision y ganrif hon yn ei gêm gyntaf – gyda 10 o raddedigion yr academi yn y garfan – ac mae wedi cadw ffydd gyda'r chwaraewyr hynny ers hynny.

O ganlyniad i'w perfformiadau, fe wnaeth Dylan Lawlor, Ronan Kpakio a Joel Colwill eu hymddangosiadau cyntaf i Gymru yn erbyn Kazakhstan a Chanada yn gynharach fis yma.

"Efallai bod chwarae yn Adran Un wedi rhoi mwy o gyfleoedd i'r chwaraewyr hynny," meddai Adams.

"Gwelais i hyn fy hun yn Abertawe pan gwympon ni o'r Uwch Gynghrair i'r Bencampwriaeth, ac fe gafodd llawer o chwaraewyr fel Dan James, Connor Roberts, Joe Rodon gyfle i chwarae.

"Mae'n gyfnod da iawn yng Nghaerdydd lle mae rheolwr wedi dod i mewn i'r clwb, yn credu mewn chwaraewyr ifanc.

"Maen nhw'n amlwg wedi croesawu'r her sydd gan y chwaraewyr ifanc ac maen nhw'n gwneud yn dda iawn."

Gobeithio uwchraddio academïau

Mae Caerdydd yn gweithredu academi categori dau, un cam i lawr o'r lefel uchaf posibl - fel academïau blaenllaw yr Uwch Gynghrair yn Lloegr.

Bum mlynedd yn ôl, roedd amcangyfrif y gallai uwchraddio i'r lefel uchaf gostio tua £3m y flwyddyn.

Cafodd academi Abertawe ei hisraddio i gategori dau yn 2020 er mwyn arbed arian ar ôl cwympo o'r Uwch Gynghrair ddwy flynedd ynghynt.

Mae'r Elyrch yn parhau yn y Bencampwriaeth ac, er bod Wrecsam bellach yn yr ail haen hefyd, academi categori tri sydd ganddyn nhw o hyd.

Yn Adran Dau, mae Casnewydd hefyd yn gweithredu academi categori tri.

"Rhan o'n strategaeth perfformiad uchel 10 mlynedd nesaf yw ceisio cael un o'r clybiau hynny [Caerdydd ac Abertawe] yn ôl i statws categori un," meddai Adams.

"Does dim dwywaith, yn ystod y cyfnod pan oedd Abertawe yn gategori un, fe welon ni fewnlifiad enfawr o chwaraewyr i dîm cenedlaethol y dynion, a 'dyn ni'n gweld llawer ohonynt yn dal i berfformio ar y lefel uchaf yn yr Uwch Gynghrair ar hyn o bryd.

"Rwy'n credu'n strategol, os cawn ni un o'r clybiau hynny yn ôl i gategori un, y byddai'n rhoi mantais enfawr i ni ym mhêl-droed Cymru ac yn sicrhau y bydden ni'n cadw'r gronfa dalentog honno o chwaraewyr ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol o lwyddiant i'n tîm cenedlaethol.

"Mae gennym ni chwaraewyr o Gymru nawr yn y tîm cyntaf yn Wrecsam [Danny Ward, Nathan Broadhead, Kieffer Moore].

"Ond ein huchelgais hirdymor yng ngogledd Cymru yw sicrhau y gall Wrecsam ddod yn academi categori un wirioneddol, a gallan nhw gefnogi'r ecosystem ddomestig yng ngogledd Cymru a denu rhywfaint o dalent ifanc yn ôl i Wrecsam."