Ramsey yng ngharfan Cymru ar gyfer gemau Lloegr a Gwlad Belg

Aaron RamseyFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Aaron Ramsey wedi chwarae 86 o weithiau i Gymru ers gwneud ei ymddangosiad cyntaf yn erbyn Denmarc yn 2008

  • Cyhoeddwyd

Mae Aaron Ramsey wedi ei gynnwys yng ngharfan Cymru ar gyfer y gêm gyfeillgar yn erbyn Lloegr a'r gêm ragbrofol hollbwysig yn erbyn Gwlad Belg fis nesaf.

Ni chafodd capten Cymru ei ddewis gan Craig Bellamy ar gyfer y gemau diweddar yn erbyn Kazakhstan a Chanada gan ei fod yn dal i wella o anaf.

Fe symudodd Ramsey, 34, o Gaerdydd i Pumas UNAM yn ystod yr haf, ac mae bellach wedi chwarae pump o gemau i'w glwb newydd.

Mae Ethan Ampadu, Joe Rodon, Jay Dasilva a Nathan Broadhead hefyd yn dychwelyd i'r garfan wedi iddyn nhw golli'r fuddugoliaeth yn erbyn Kazakhstan oherwydd anafiadau.

Joe RodonFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe enillodd Gwlad Belg o 4-3 pan deithiodd Cymru i Frwsel ym mis Mehefin

Fe fydd carfan Craig Bellamy yn teithio i Wembley i wynebu Lloegr ar 9 Hydref cyn croesawu Gwlad Belg i Stadiwm Dinas Caerdydd ar 13 Hydref.

Gyda thair gêm yn weddill mae Cymru yn y trydydd safle yng Ngrŵp J, ac os am gyrraedd Cwpan y Byd 2026 heb orfod wynebu'r gemau ail gyfle, yna mae'n debygol y bydd rhaid trechu Gwlad Belg yng Nghaerdydd.

Gan fod gwahaniaeth goliau Gwlad Belg lot yn well, mae Cymru hefyd angen i'r Belgiaid ollwng pwyntiau yn un o'u gemau eraill yn erbyn Gogledd Macedonia neu Kazakhstan hefyd.

Ar ôl wynebu Gwlad Belg, mi fydd Cymru'n gorffen eu hymgyrch ym mis Tachwedd gyda thaith i Liechtenstein cyn gêm gartref yn erbyn Gogledd Macedonia.

Y garfan yn llawn

Gôl-geidwaid: Karl Darlow (Leeds United), Adam Davies (Sheffield United), Tom King (Everton)

Amddiffynwyr: Ben Cabango (Abertawe), Jay Dasilva (Coventry City), Ben Davies (Tottenham Hotspur), Ronan Kpakio (Caerdydd), Dylan Lawlor (Caerdydd), Chris Mepham (West Bromwich Albion), Joe Rodon (Leeds United), Neco Williams (Nottingham Forest)

Canol cae: Ethan Ampadu (Leeds United), Josh Sheehan (Bolton Wanderers), Jordan James (Caerlŷr- ar fenthyg o Stade Rennais), Joel Colwill (Caerdydd), Aaron Ramsey (Pumas UNAM)

Ymosodwyr: Nathan Broadhead (Wrecsam), Harry Wilson (Fulham), Liam Cullen (Abertawe), Mark Harris (Oxford United), Lewis Koumas (Birmingham City - ar fenthyg o Lerpwl), Daniel James (Leeds United), Brennan Johnson (Tottenham Hotspur), Kieffer Moore (Wrecsam), Sorba Thomas (Stoke City), David Brooks (Bournemouth)

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.