Y cyn-brif weinidog, Carwyn Jones wedi ei urddo i Dŷ'r Arglwyddi

Fe wnaeth Carwyn Jones dyngu ei lw yn Gymraeg ac yn Saesneg
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones wedi cael ei urddo yn Arglwydd am oes yn San Steffan.
Fe fydd yn eistedd yn Nhŷ'r Arglwyddi fel Arglwydd Jones o Ben-y-bont.
Wrth siarad ar raglen y Post Prynhawn, dywedodd Carwyn Jones ei fod yn edrych ymlaen at roi "llais i Gymru" yn ei rôl newydd.
Ychwanegodd ei fod yn gobeithio sicrhau fod "llais datganoledig Cymru yn cael ei glywed" a'i fod yn "rhan o drafodaethau hollbwysig".
Mynnodd hefyd ei fod yn gobeithio bod yn "arglwydd sydd yn gweithio nid rhywun sy'n troi lan unwaith ac yn y man".
'Rhaid cael lleisiau o Gymru'
Gyda'i gyfnod fel Prif Weinidog Cymru wedi dirwyn i ben yn 2018, dywedodd ei fod yn "edrych ymlaen at fod yn rhan o'r byd gwleidyddol unwaith eto."
Er ei fod yn cydnabod nad yw'n "hollol gytûn" â'r strwythur sydd yn bodoli ar hyn o bryd, roedd o'r farn "tra bod y corff yn parhau mae'n rhaid cael lleisiau o Gymru y tu mewn i Dŷ'r Arglwyddi".
Dywedodd y bydd yn cael ei adnabod fel yr Arglwydd Jones o Ben-y-bont o fewn y siambr, "achos wrth gwrs pobl o Ben-y-bont wnaeth gefnogi fi mewn pum etholiad".
Ychwanegodd fod defnyddio enw Cymraeg y dref yn bwysig iddo a dyna pam y dewisodd "Pen-y-bont nid Bridgend".
Dywedodd fod tipyn o'i deulu wedi teithio i Lundain ar gyfer y seremoni brynhawn Llun a bod y "Gymraeg yn cael ei glywed yn swnllyd iawn yn ardal Paddington!"
Bydd modd gwrando ar y sgwrs yn llawn am 17:00 ar y Post Prynhawn ar 27 Ionawr ac ar BBC Sounds.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Mawrth 2024
- Cyhoeddwyd16 Hydref 2024
- Cyhoeddwyd12 Chwefror 2024