Y steilydd i sêr y sgrin
- Cyhoeddwyd
Efallai nad ydych chi wedi clywed yr enw Phill Tarling ond byddwch chi wedi gweld ffrwyth ei waith steilio ar enwau adnabyddus fel Ben Shephard a Judge Rinder.
Yn steilydd ffasiwn dynion ers 25 mlynedd, mae'r gŵr o Lantrisant yn pwysleisio taw bod yn y lle iawn ar yr amser iawn sy'n gyfrifol am ei lwyddiant.
Ar ôl gadael yr ysgol yn 16 oed, welodd Phill hysbyseb ar Ceefax am wisgwr dan hyfforddiant yn y BBC. A dyna gychwyn ei yrfa, fel mae'n esbonio: "'Nes i ddim dilyn y llwybr gyrfa arferol – cyn bod yn steilydd o'n i'n gweithio yn ardal gwisgoedd y BBC. Dyna'r ffordd o'n i wedi darganfod beth yw steilio."
Roedd symud i Lundain yn gam mawr iddo, fel mae'n dweud: "Doeddwn i ddim wedi bod yn deulu oedd yn mynd ar holidays. O'n i'n byw bywyd syml ac yn dod o dŷ cyngor, wedyn symud i Lundain i weithio – nes i fyth feddwl bod e'n bosib."
Cychwyn gyrfa
Ar ôl gweithio am gyfnod yn gwisgo cast Eastenders, dechreuodd weithio fel steilydd yn 1997 yn steilio sesiynau ffotograffiaeth ar gyfer y wasg gyda sêr y sgrin.
Meddai: "Dyna sut 'nes i gwympo mewn i steilio – o'n i yn y lle iawn ar yr amser iawn. 'Nes i ddarganfod steilio ac ers Eastenders dwi erioed wedi edrych yn ôl."
Erbyn hyn mae ganddo nifer o gleientiaid preifat, fel mae'n sôn: "Dwi mwy steilysh nawr achos mae'n bwysig – mae'n rhaid i fi arddangos yn union beth dwi ishe ddysgu i ddynion. Dwi'n teimlo bod rhaid i fi edrych fel bod fi'n byw yn ôl y cyngor dwi'n rhoi.
"Dwi'n 54 a dwi'n berson sy'n amlwg yn 54 a dwi'n dysgu dynion sy' yn eu 30au, 40au a 50au sut i edrych y gorau maen nhw'n gallu am y siâp corff sy' gyda nhw. Dydy pawb ddim yn chwe troedfedd.
"Mae cymaint o amrywiaeth gyda siâp corff dynion. Dwi'n dysgu dynion sut i wisgo ar gyfer eu corff nhw."
Cynyddu hunan-hyder
Mae Phill yn dweud mai'r peth gorau am ei waith yw gweld ei gleientiaid yn cynyddu mewn hunan hyder: "Mae helpu dynion i fod y fersiwn gorau o'u hunain yn newid bywydau nhw.
"Maen nhw'n dweud 'dwi'n cerdded yn dalach, dwi'n cerdded mewn i stafell a ddim yn invisible'.
"Dyw dynion ddim yn gwybod cymaint am ffasiwn a menywod. Os ti'n gofyn i fenywod beth maen nhw'n hoffi am ffasiwn, a beth maen nhw'n gwisgo, mae menywod yn gallu siarad am flynyddoedd ond dyw dynion ddim yn gallu cael y geiriau cywir."
Enwogion
Mae Phill yn ymdrin gyda nifer o sêr y sgrin fel rhan o'i waith: "Dwi wedi gweithio gyda lot o bobl enwog – ni'n byw mewn byd sy'n obsessed gyda selebs a pha ddillad maen nhw'n gwisgo.
"Mae lot o bwysau ynghlwm gyda bod yn steilydd i'r sêr a dwi o hyd yn gorfod gwneud fy ngwaith gorau achos byddai un camgymeriad yn ddiwedd fy ngyrfa.
"Mae'n bwysig fod gen i groen caled a discretion.
"Mae Ben Shephard yn gleient dwi wedi gweithio gyda am 20 mlynedd. Mae lot o ddynion yn gwylio fe yn cadw'n ffit ac ar teledu ar This Morning.
"Pan ddechreuoedd e ar Xtra Factor fi oedd ei steilydd. Mae gyrfa fe a fi wedi tyfu ar yr un amser – cyfrifoldeb fi yw bod e wastad yn relateable.
"Mae'n gwisgo'n syml a ddim yn edrych fel bod angen gormod o arian i brynu beth mae'n gwisgo."
Yn ogystal â dewis beth mae Ben yn gwisgo ar This Morning, mae Phill hefyd yn steilydd i Judge Rob Rinder ac yn dweud taw paratoi popeth o flaen llaw yw cyfrinach ei lwyddiant: "Mae pobl yn dweud 'ti'n lwcus iawn' ond dwi wedi gweithio yn galed iawn am flynyddoedd yn adeiladu beth dwi'n gwneud."
Felly beth yw'r peth mwyaf pwysig i ystyried wrth steilio rhywun?
Meddai Phill: "Mae steilyddion yn gweithio mewn ffyrdd gwahanol ac mae rhai yn dilyn ffasiwn o hyd. Ond i fi mae popeth am y cleient a sut maen nhw eisiau gweithio. Gwaith fi yw dweud wrth bobl sut i edrych yn well ond drwy wrando ar beth maen nhw'n dweud a meddwl.
"Mae angen i gleientiaid deimlo'n ganolbwynt i'r broses. Mae eu dewis o ddillad mor bersonol iddi nhw."
Mae 75% o gleientiaid Phill yn ddynion sy'n dod ato eisiau help a 25% yn fenywod sy'n prynu ei wasanaeth ar gyfer dynion.
Meddai: "Y rheswm mae dynion yn cadw at yr un dillad yw dyw nhw ddim yn gwybod sut i newid. Mae menywod yn hoffi siopa ond dyw dynion ddim yn gweld siopa fel rhywbeth i'w fwynhau – maen nhw'n ei weld fel helfa.
Camgymeriadau
"Mae dynion o hyd yn prynu y maint anghywir ac yn aml maen nhw un maint yn rhy fawr. Maen nhw'n meddwl fod dillad yn gwneud iddynt edrych yn fwy pwerus ond y rhai sy'n edrych yn grêt yw'r rhai sy'n gwisgo y maint cywir.
"Maen nhw'n aml yn gwisgo trowser sy'n rhy llydan neu'n rhy isel neu'n rhy hir.
"Mae dynion hefyd yn prynu yr un pethau dro ar ôl tro ac heb fuddsoddi yn y basics sy' angen mewn wardrob – pâr dda o jîns, chinos, crys nefi, crys gwyn, esgidiau lledr, blazer a jwmper polo – mae basics fel hyn yn paratoi ti ar gyfer unrhyw ddigwyddiad.
"Maen nhw'n prynu pethau mewn brys sy' ddim yn ffitio yn eu wardrob.
"Ac maen nhw'n dilyn trends yn lle edrych ar siâp eu corff."
Trawsffurfiad
Meddai Phill: "Y peth gorau yw gwylio y trawsffurfiad – mae 'na daith o'r cyfarfod cyntaf i'r sesiwn steilio ac mae'r dynion yn gadael a maen nhw wedi newid. A dyna un o'r pethau gorau – dwi'n gallu gweld a theimlo y trawsffurfiad."
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd4 Hydref 2024
- Cyhoeddwyd21 Medi 2024
- Cyhoeddwyd31 Rhagfyr 2024