'Ionawr yn amser i arafu ac i fod yn greadigol'

Sian WilliamsFfynhonnell y llun, Sian Williams
Disgrifiad o’r llun,

Sian Williams

  • Cyhoeddwyd

O golli pwysau i ddysgu iaith newydd, mae dechrau'r flwyddyn yn amser pan mae nifer ohonom yn benderfynol i newid rhywbeth am ein bywydau.

Un sy' wedi profi gwerth gwneud hynny yn 2024 yw Sian Williams sy'n gweithio gyda Golygfa Gwydyr a sy'n edrych ar ôl safle Caerdroia yn Llanrwst.

Adduned Sian yn 2024 oedd i fod yn greadigol bob dydd a phenderfynodd gymryd rhan ym menter gymdeithasol Her Ionawr er mwyn gwneud hynny.

Mae'r fenter yn golygu gwneud 31 o weithgareddau creadigol mewn 31 diwrnod, bob dydd ym mis Ionawr ac yn 2004 roedd mwy na 160,000 o bobl wedi cymryd rhan.

Dywedodd Sian am y profiad: "Dwi wastad yn licio bod yn greadigol a chreu pethau ond mae bywyd bob dydd yn cymryd drosodd a d'on i ddim yn rhoi amser iddo fo so oedd o'n neis i gael yr hwb i gychwyn hynna eto.

"O'n i'n dechrau neud rhywbeth creadigol bob dydd ac o'n i'n cael sgwrs gyda pobl eraill oedd yn neud o felly oedd rhywbeth cymdeithasol am neud o.

"Mae'n fwy na hynny hefyd – gan bod ni gyd yn gweithio mewn byd mor brysur mae fel chwa o awyr iach."

Ffynhonnell y llun, Sian Williams
Disgrifiad o’r llun,

Creu coron o helyg yng Nghoed Gwydir

Dathliad

Mae Her Ionawr yn cael ei ddisgrifio fel cyfle i ddathlu sut rydym yn meddwl am ein creadigrwydd ac yn ei ddefnyddio mewn gwahanol ffyrdd. Mae'r gweithgareddau creadigol wedi'u creu gan awduron, artistiaid, perfformwyr, beirdd, ac ymgyrchwyr ledled y DU ac maent yn amrywio o ysgrifennu stori fer i ddawnsio fel robot tra'n brwsio'ch dannedd.

Yr her wnaeth Sian, sy'n gweithio fel cynghorydd yn yr awyr agored ei osod oedd cymryd amser i gael ei hysbrydoli gan fyd natur. Mi wnaeth wneud hynny drwy ddefnyddio coed i'w hysbrydoli i greu rhywbeth creadigol gan ddefnyddio ei synhwyrau.

Mae hi'n dweud fod Her Ionawr wedi newid y ffordd mae hi'n gweithio. Mae 'na sesiynau lles yn Caerdroia, Llanrwst, gan gynnwys meddwlgarwch ond hefyd, o ganlyniad i Her Ionawr, maen nhw'n gwneud sesiynau creadigol yn y prynhawn.

Ffynhonnell y llun, Sian Williams
Disgrifiad o’r llun,

Cyn filwr yn creu dreamcatcher ar safle Caerdroia

Ysbrydoliaeth

Cafodd Sian ei hysbrydoli i ymuno gyda'r her ar ôl darllen am brofiadau pobl eraill ar-lein, fel mae'n esbonio: "O'n i'n meddwl se'n grêt os fyddai sesiynau i bobl yn Ionawr gan fod hi'n fis fflat i bobl ar ôl Nadolig.

"Ac oedd hi'n rhywbeth oedd mor hawdd i gael mynediad iddo – s'dim rhaid bod yn artist na dim byd felly, mae'n agored i bawb ac mae 'na prompt bob diwrnod ym mis Ionawr sy'n neud i bobl gymryd yr amser i neud rhywbeth creadigol, cymryd y meddwl i ffwrdd o'r to do list bob dydd, y gwaith bob dydd.

"Mae'n bwysig i gymryd y cam yn ôl o'r routine a jest gwneud rhywbeth gwahanol – s'dim ots beth yw'r canlyniad, mae'r broses o greu rhywbeth a meddwl am rywbeth gwahanol yn beth da."

Ac mae wedi tynnu nifer o bobl eraill mewn i'r her hefyd, gan fynd a grŵp o bobl i fyny Coed Gwydyr yn Llanrwst: "'Natho ni gael ein hysbrydoli gan y coed a chael yr amser i slofio lawr a defnyddio'n synhwyrau - gallu gwrando, twtsiad, teimlo, blasu a chael y cyfle i greu o hynny.

"Mae o'n slofi pethau lawr sy' beth 'da ni angen dyddiau yma. 'Nes i wneud her arall oedd yn tynnu lluniau efo dotiau ac mae'n cymryd amser ac yn dysgu rhywun i slofi lawr a defnyddio amynedd. Mae angen yr amser i neud hynny ac mae'n therapiwtig wedyn achos mae'n cael rhywun allan o'r brên meddwl ac i greu."

Ffynhonnell y llun, Sian Williams
Disgrifiad o’r llun,

Gwaith celf wedi ei ysbrydoli gan natur

Mae Sian yn credu fod y profiad wedi gwneud gwahaniaeth i'r bobl wnaeth ymuno gyda hi: "Wnaethon ni sesiynau gyda'r grwpiau Beavers ac oeddan nhw wrth eu boddau yn creu printiau allan o'r dail. 'Nathon ni wneud sesiwn efo grŵp cartrefi Conwy a natho nhw fwynhau – oedd o'n ffordd o ddysgu sgiliau newydd a gwneud nhw'n ymwybodol bod o'n rhywbeth maen nhw'n gallu dilyn ar ôl mis Ionawr.

"Dwi'n cofio pobl yn dweud 'dwi ddim yn greadigol' ond maen nhw wedi cael go ac mae'n neis i gael y sbarc yna. 'Dan ni wedi gweld hynny mewn pobl."

Felly ydy Sian yn credu fod Ionawr yn amser da i gychwyn arferion newydd?

Meddai: "Dwi'n meddwl bod o – mae Nadolig yn adeg dathlu ac wedyn mae'r dathlu yn dod i ben ac mae'n neis dechrau pennod newydd a setio goals.

"Mae cychwyn rhywbeth newydd yn raddol ac yn ara' deg a pheidio rhoi gormod o bwysau ar ein hunain yn bwysig. Mae'n rhywbeth ti'n gallu mwynhau a dal ati i wneud."

Pynciau cysylltiedig