Dim un ffordd 20mya am gael ei newid yn ôl i 30mya medd cyngor

Llun o arwydd 30mya o flaen arwydd 20myaFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru adolygiad o'u polisi terfyn cyflymder dadleuol y llynedd

  • Cyhoeddwyd

Ni fydd unrhyw ffordd 20mya yn cael ei newid yn ôl i 30mya mewn un sir yng Ngogledd Cymru.

Fe gafodd adolygiad o derfyn cyflymder 20mya llywodraeth Cymru ei gyhoeddi y llynedd yn dilyn ymateb chwyrn gan y cyhoedd.

Cafodd y terfyn cyflymder 20mya, sy'n cwmpasu 37% o rwydwaith ffyrdd Cymru, ei gyflwyno gan weinidogion ym mis Medi 2023.

Ond, mae Cyngor Sir Ddinbych wedi cadarnhau nad oes ganddyn nhw unrhyw gynlluniau i gynyddu'r terfyn cyflymder ar unrhyw un o'r ffyrdd 20mya presennol.

Dywedodd y Gweinidog Trafnidiaeth Ken Skates yn flaenorol eu bod wedi gwneud y penderfyniad i wrthdroi rhannau o'r polisi dadleuol gwerth £34m mewn ymateb i bryderon a godwyd gan "lawer o bobl".

Ym mis Gorffennaf diwethaf, rhoddodd llywodraeth Cymru fwy o hyblygrwydd i gynghorau asesu ffyrdd penodol.

Ym mis Mawrth, fe gafodd y terfyn cyflymder ar gyfer pedair ffordd brysur yng Nghaerdydd ei newid yn ôl i 30mya o 20mya.

Yn Wrecsam cyhoeddwyd y byddai 50 o rannau o ffyrdd yn dychwelyd i 30mya.

Daw hyn wrth i'r data ar gyfer blwyddyn gyntaf y polisi ddangos bod tua 100 yn llai o bobl wedi'u lladd neu eu hanafu'n ddifrifol ar ffyrdd 20 a 30mya.

'Dim un ffordd yn bodloni'r meini prawf'

Mae'r cyhoeddiad gan gyngor Sir Ddinbych yn dilyn penderfyniad cyngor Sir Fynwy i wrthod galwadau i godi'r terfyn cyflymder o 20mya ar nifer o ffyrdd yn y sir.

Dywedodd cyngor Sir Ddinbych eu bod wedi derbyn mwy na 300 o geisiadau am eithriadau ar gyfer cyfanswm o 202 o ffyrdd.

Ychwanegon nhw mai prin iawn oedd unrhyw geisiadau'n cael eu gwneud gan drigolion sy'n byw yn yr ardaloedd dan sylw, gyda bron pob un o'r ceisiadau wedi'u gwneud gan bobl sy'n teithio drwyddynt.

"Ar ôl asesu'r holl 202 o ffyrdd yn unigol yn erbyn y meini prawf ar gyfer eithriadau, fe allwn gadarnhau nad oedd yr un o'r ffyrdd yn bodloni digon o'r meini prawf i'r cyngor allu ystyried cynyddu'r terfyn cyflymder yn ddiogel."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig