100,000 o yrwyr wedi eu dal yn torri'r rheol 20mya

Arwydd 20mya
Disgrifiad o’r llun,

Y cyflymder uchaf i gael ei gofnodi mewn parth 20mya yng Nghymru oedd 89mya, meddai Go Safe

  • Cyhoeddwyd

Mae mwy na 100,000 o yrwyr bellach wedi eu dal yn torri'r terfyn cyflymder 20mya, yn ôl ffigyrau diweddaraf Go Safe.

Mae'r data hyd at fis Mawrth 2025 yn nodi bod 112,699 o achosion o bobl yn torri'r terfyn cyflymder ers i'r rheol ddod i rym ym mis Medi 2023.

Roedd nifer yr achosion ar eu huchaf yn ystod mis Awst y llynedd - pan gafodd 7,958 o droseddau eu cofnodi yng ngogledd Cymru, a 7,326 yn y canolbarth a'r de.

Yn ôl y ffigyrau mwyaf diweddar - ar gyfer mis Mawrth 2025 - cafodd 4,950 o droseddau eu cofnodi yn y gogledd, a 4,128 yn y canolbarth a'r de.

Mae Go Safe yn dweud fod pobl, ar gyfartaledd, yn gyrru ar gyflymder o tua 28mya wrth dorri'r rheol, ond mai'r cyflymder uchaf i gael ei gofnodi mewn parth 20mya oedd 89mya ym mis Ionawr eleni.

Pynciau cysylltiedig