Cwrdd â Hulk Hogan fel plentyn wedi 'chwarae rôl fawr yn fy mywyd'

Roedd Rhodri Wyn Phillips yn saith oed pan enillodd gystadleuaeth ar raglen Heno ar S4C
- Cyhoeddwyd
Nôl ar ddechrau'r 1990au fe gafodd bachgen saith oed o Gwm Tawe gyfle i gwrdd ag un o sêr mwyaf y byd reslo, Hulk Hogan.
Ar ôl ennill cystadleuaeth ar raglen Heno ar S4C fe deithiodd Rhodri Wyn Phillips draw i Lundain i dreulio amser gyda'i arwr pennaf.
Ddydd Iau daeth y newyddion fod Hulk Hogan wedi marw yn sydyn yn 71 oed.
Dros 30 mlynedd ers cwrdd â 'Hulk' mae Rhodri yn dweud fod y profiad "bythgofiadwy" wedi "chwarae rôl fawr yn fy mywyd i".
- Cyhoeddwyd2 Medi 2022
- Cyhoeddwyd21 Medi 2023
- Cyhoeddwyd29 Ionawr 2024
Mae Hulk Hogan yn un o enwau mwyaf y byd reslo erioed, ac fe chwaraeodd ran ganolog yn nhwf aruthrol y gamp yn yr 1980au a 90au.
Roedd hefyd wedi ymddangos mewn ffilmiau mawr fel Rocky 3 ac yn bresenoldeb cyson ar raglenni teledu amrywiol yn yr Unol Daleithiau.
Roedd yn syndod mawr i Rhodri Wyn Phillips felly i gael cyfle i gyfarfod ei arwr, ac yntau, o bosib, ar frig ei enwogrwydd.
Caniatáu cynnwys Facebook?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan Facebook. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis Facebook Meta, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
"Fi'n cofio gorfod mynd i orsaf trenau Abertawe i gwrdd â Gary Slaymaker, a mynd lan i Lundain ar y trên gyda'n fam a'n nhad a'n ffrind i Gareth," meddai Rhodri ar raglen Dros Frecwast.
"Aethom ni i'r gwesty mawr crand hyn - y Grosvenor House Hotel - cerdded mewn a gweld y cawr chwe throedfedd wyth modfedd 'ma.
"'Nath e gerdded draw a rhoi cwtch i fi. O'dd e'n brofiad bythgofiadwy.
"Fe oedd fy arwr i, o'n i'n obsessed 'da reslo pan o'n i'n fach, fi dal i wylio fe nawr."

"Roedd yn anrhydedd fawr i gwrdd ag ef," meddai Rhodri
Ychwanegodd fod y profiad yn un arbennig, ac yn un sydd wedi aros gydag ef ers degawdau.
"O'dd e'n foi really neis. Yn amlwg chi'n gweld beth oedd ar y camera, ond y tu ôl i'r camera fe wnaeth e dreulio lot o amser gyda fi a'n ffrind i Gareth, a Mam a Dad - yn ogystal â Jimmy Hart.
"Fe wnaethon nhw i ni deimlo'n gartrefol iawn, o'dd e'n really neis, o'dd teulu ei hun gyda fe ac o'dd e wir yn anrhydedd.
"Ma'r profiad 'na wedi byw gyda fi erioed, fi di cael cyfleoedd o achos hynny - cael gwneud nifer o gyfweliadau, mynd nôl ar y teledu... felly fi wir yn gwerthfawrogi, ac roedd yn anrhydedd fawr i gwrdd ag ef."

Gary Slaymaker oedd yn cyflwyno'r eitem ar Heno
Dywedodd fod clywed am farwolaeth ei arwr wedi bod yn "sioc".
"Es i bach yn upset achos ma' fe 'di bod yn rhan mor fawr o'm mywyd i ers o'n i'n fach.
"Gwylio fe ar y teledu bob wythnos, cwrdd â fe, ac wedyn cael cyfle i wneud cyfweliadau ar Heno, Radio Cymru a Radio Wales."
"Heblaw am y dyn wnaeth greu'r cwmni, Vince McMahon - Hulk Hogan yw reslo.
"Bydde WWE ddim yn bodoli heblaw bo' fe wedi mynd a fe i'r lefel nesa' - o gwmni reslo i global brand ar draws y byd."
Roedd y newyddion ddydd Iau yn esgus i Rhodri hel atgofion o gwrdd â'r 'Hulk', ac i fynd i wylio'r fideo unwaith eto.
"Mae 33 mlynedd wedi mynd heibio nawr, fi 'di gweld y clip nifer o weithiau dros y blynydde - yn yr ysgol gynradd, ysgol uwchradd - ma'r clip wedi chwarae rôl fawr yn fy mywyd i fod yn onest."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.