Bod yn Chef de Mission yn 'fraint arbennig' i Gethin Jones

Fe ddechreuodd gyrfa cyflwyno Gethin Jones ar S4C cyn iddo symud ymlaen i weithio ar raglenni fel Blue Peter a Morning Live
- Cyhoeddwyd
Y cyflwynydd teledu, Gethin Jones sydd wedi cael ei ddewis fel Chef de Mission tîm Cymru ar gyfer Gemau'r Gymanwlad yng Nglasgow yn 2026.
Chef de Mission yw'r teitl sy'n cael ei roi i arweinydd tîm cenedlaethol sy'n gyfrifol am arwain yr athletwyr a staff cefnogol, yn ogystal â bod yn llefarydd mewn digwyddiadau swyddogol.
Roedd Jones yn Attache yn y gemau yn 2018 - profiad wnaeth ei ysbrydoli i wneud gradd meistr mewn rheolaeth chwaraeon yn y brifysgol.
Dywedodd Jones fod derbyn y teitl yn "fraint arbennig" a'i fod yn gwybod "ers bod yn rhan o'r tîm yn 2018" ei fod "eisiau bod yn rhan o dîm Cymru unwaith eto".
- Cyhoeddwyd16 Tachwedd 2024
- Cyhoeddwyd23 Hydref 2024
- Cyhoeddwyd17 Medi 2024
Dywedodd Gemau'r Gymanwlad Cymru (CGW) mai Jones fydd "arweinydd" tîm Cymru.
"Mae ei gefndir yn y byd chwaraeon a'r cyfryngau, yn ogystal â'i gysylltiad arbennig gyda diwylliant Cymru, yn ei wneud yn berson delfrydol i ysbrydoli ac arwain tîm Cymru drwy'r gemau," meddai'r corff.
Yn ôl Prif Weithredwr CGW, Gareth Davies mae rôl y Chef de Mission yn hanfodol wrth lunio diwylliant a gwerthoedd y tîm.
"Rydyn ni mor falch fod Gethin eisiau ymgeisio am y rôl yma, ac mae ei wybodaeth a'i broffesiynoldeb yn brawf o'r ymroddiad i'r rôl."
Fe fydd Gemau'r Gymanwlad yn cael eu cynnal yng Nglasgow rhwng 23 Gorffennaf a 2 Awst 2026.