Cofio'r trafodaethau am godi atomfa niwclear ym Mhen Llŷn
- Cyhoeddwyd
Wyddoch chi fod cynllun wedi bod ar un adeg i godi atomfa niwclear ym Mhen Llŷn?
Ddiwedd yr 1950au, roedd pentref Edern yn cael ei ystyried fel safle ail atomfa yng ngogledd Cymru, ar ôl i'r gyntaf gael ei sefydlu yn Nhrawsfynydd.
Er mai yn Wylfa yn Ynys Môn y cafodd yr orsaf ynni ei sefydlu yn y diwedd, yn ôl yr hanesydd Dr Mari Wiliam o Brifysgol Bangor, mae’r dadleuon oedd yn yr ardal rhwng y bobl oedd o blaid ac yn erbyn y cynlluniau, bron yn fwy diddorol na’r penderfyniad ei hun.
Y cenedlaetholwyr o blaid...
Roedd nifer yn dadlau’n frwd dros gael yr atomfa yn Edern, yn bennaf oherwydd y gwaith a fyddai'n dod i bobl yr ardal, ond hefyd yr effaith posib ar Gymreictod yr ardal, eglurodd Dr Wiliam ar raglen Dei Tomos ar BBC Radio Cymru.
“Mae ‘na ddau ffigwr gwleidyddol go arwyddocaol yn hyn, sef T.W Jones oedd yn Aelod Seneddol Llafur (Sir Feirionnydd) a Goronwy Roberts oedd yn Aelod Seneddol yn Sir Gaernarfon, ac oedd y ddau yn eirioli mor gryf fod rhaid cael yr atomfeydd ‘ma yng ngogledd orllewin Cymru, neu oedd y diwylliant Cymraeg a’r iaith Gymraeg yn mynd i gael ei disodli; roedd di-boblogi gwledydd yn broblem, diffyg gwaith mewn ardaloedd gwledig a siaradwyr Cymraeg yn symud i lefydd eraill.
“Iddyn nhw roedd ‘na gyswllt hynod o gryf rhwng yr atomfeydd - dod â diwydiant oedd, bryd hynny yn fodern, i ogledd Cymru - a goroesiad y Gymraeg.
"Roedd ‘na ddadleuon cenedlaetholgar cryf dros eu cael nhw.”
... a'r cenedlaetholwyr yn erbyn
Fodd bynnag, eglurodd, roedd cenedlaetholwyr blaenllaw ar ochr arall y ddadl hefyd, rhai fel Saunders Lewis a Iorwerth Peate, a oedd yn gwrthwynebu cael atomfa yno, rhag dinistrio’r ‘hen ffordd Gymreig o fyw’.
“Mae gennych chi’r cenedlaetholwyr Cymreig mwy ceidwadol oedd isho cadw Cymru fel oedd hi, a Phen Llŷn yn arbennig. Fel 'da ni’n ei weld efo llosgi’r ysgol fomio yn 1936, mi oedd ‘na ryw dinc arbennig yng ngwlad Llŷn. Dyma oedd Cymru, dyma oedd Cymreictod.”
Fodd bynnag, nid ar sail cenedlaetholdeb oedd pawb yn gwrthwynebu, gyda rhai yn poeni am yr effaith ar y diwydiannau amaeth a thwristiaeth:
“Ongl arall i’r gwrthwynebiad ydi rôl Cymdeithas Gwarchod y Gymru Wledig ar y pryd, ac roedd hon yn gymdeithas mwy Seisnig ei naws. Be’ ‘da ni’n gweld efo Edern ydi fod y Chwiorydd Keating, o’dd wedi prynu Plas-yn-Rhiw ym Mhen Llŷn yn eirioli’r gry' iawn yn erbyn yr atomfa, ac oedden nhw’n sicr wrth gwrs ddim isho fo ar eu stepen drws nhw.
"Dwi’n ei weld o’n hynod ddifyr, bod ‘na ryw fath o gynghrair rhyngddyn nhw, Iorwerth Peate, R.S Thomas, Saunders Lewis. Y syniad, ‘da ni ddim isho newid y tirlun’, yn eironig iawn efo dadl cymdeithas Gwarchod y Gymru Wledig, ‘mae hwn yn mynd i ddinistrio y diwydiant twristiaeth ym Mhen Llŷn’.
Teimladau cymysg
Roedd gan drigolion yr ardal deimladau cymysg am nifer o’r datblygiadau posib a allai effeithio ar y gogledd orllewin bryd hynny, a phobl ddim bob amser yn cytuno’n union, meddai.
“Roedd (yr athronydd) J.R Jones yn pledio’n erbyn yr atomfa, ac yn eitha’ brwdfrydig yn erbyn Butlins hefyd. Goronwy Roberts ddim yn keen ar Butlins ond yn cefnogi’r atomfa... felly allwn ni ddim rhoi’r bobl ‘ma mewn bocsys.
“Un o’r enghreifftiau cyntaf ‘da ni’n ei gael o grŵp yn galw am atomfa yng ngogledd orllewin Cymru, ydi cangen Bala Plaid Cymru yn galw am ‘ffatri atomig’ yn yr ardal.
“’Da ni’n dueddol o edrych ar hanes Tryweryn, heb edrych ar beth arall oedd yn mynd ymlaen yn yr un cyfnod, a dwi’n meddwl be’ ’da chi’n ei gael ydi pobl yn gwrthwynebu Tryweryn, achos doedden nhw ddim yn gweld gymaint o fantais i’r ardal leol, ond yn cefnogi cael atomfeydd.”
Ynni diogel?
Yn ddiddorol, meddai Dr Wiliam, doedd ystyriaethau amgylcheddol na iechyd yn sgil cael ffatri niwclear gerllaw ddim yn cael lle amlwg yn y trafodaethau yn ôl yn yr 1950au:
“Dyna be' o’n i’n disgwyl ei ffeindio, cyfrolau o lythyrau, erthyglau, pobl yn pryderu am y gwastraff niwclear a’r peryglon i iechyd, ond o’n i’n anghywir.
“Roedd y ’50au, o ran y Rhyfel Oer a’r ofn ‘ma am ryw apocalyps niwclear, yn amlwg mewn cymdeithas, ond doedd pobl ddim yn cysylltu hynny efo cael atomfa ar eu stepen drws; doedden nhw ddim yn gweld hynny’n beryglus.
“Mae hynny’n dod ddegawdau wedyn – ella’r 80au, efo Chernobyl - lle mae pobl yn gweld ‘dim jyst rhyfel niwclear sy’n beryg i ni, mae’r atomfeydd ‘ma hefyd’.
“Mae ‘na dystiolaeth bod pobl yn y chwareli oedd eisiau mynd i weithio yn atomfa Trawsfynydd achos ei fod o’n ‘saffach’ na gweithio yn y chwareli. Ar y pryd, roedd niwclear yn cael ei weld fel diwydiant modern, glân oedd yn talu’n go dda; doedd y chwareli ddim yn cymharu.”
Golwg ar gymdeithas
Wrth gwrs, i Sir Fôn aeth yr atomfa, ac mae Dr Wiliam yn cofio ei thad yn sôn am y tensiwn rhwng ‘Moch Môn a Lloeau Llŷn’ yn dilyn y cyhoeddiad gan y Bwrdd Trydan yn 1960 eu bod am agor atomfa Wylfa yn lle un yn Edern.
Ond, yn ôl Dr Wiliam, mae’r tystiolaeth ynglŷn â’r drafodaeth yn gallu dweud llawer wrthon ni am y gymuned bryd hynny:
“Yn aml pan 'da ni’n edrych ar hanes, 'da ni’n dueddol o weld ‘beth oedd y gwleidyddion yn ei ddweud? Yr arweinwyr cymdeithasol? Y tirfeddianwyr?’.
“Ond mae tystiolaeth fod gwragedd tŷ Llŷn wedi dod at ei gilydd i bledio am atomfa i gadw eu gwŷr yn yr ardal a chadw’r gymuned i fynd. A fasai lot ohonyn nhw ddim yn meddwl mewn ffordd 'genedlaetholgar', ond roedden nhw isho cynnal y Cymreictod naturiol ‘ma roedden nhw’n ei weld o’u cwmpas ym Mhen Llŷn.
“Mae’r hanes bywyd bob dydd ‘na yr un mor bwysig i edrych arno â beth oedd Saunders Lewis yn ei ddweud. Mae’r trafodaethau ar y pryd yn deud rhywbeth wrthon ni am Gymru.”
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd4 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd24 Ebrill