Myfyrwyr prifysgol yn methu prydau er mwyn arbed arian

"Weithiau mae'n rhaid i mi fethu rhai prydau a chael coffi yn lle - sydd ddim yn iach," meddai Kardo Mina
- Cyhoeddwyd
Mae myfyrwyr prifysgol wedi dweud eu bod yn methu prydau bwyd er mwyn arbed arian wrth i gostau byw godi.
Dywedodd Kardo Mina, myfyriwr blwyddyn olaf y gyfraith ym Mhrifysgol Abertawe, sydd hefyd yn gweithio'n rhan amser, ei fod yn cyfnewid prydau yn rheolaidd am baneidiau o goffi oherwydd bod hynny'n "fwy hyfyw'n ariannol".
Dywedodd Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr Cymru (UCMC) fod pwysau ariannol, gan gynnwys rhent cynyddol a biliau cyfleustodau, wedi gwneud pethau'n "anodd iawn" i fyfyrwyr.
Dywedodd Prifysgol Abertawe eu bod yn cydnabod y pwysau ariannol ac academaidd mae myfyrwyr yn ei wynebu a'u bod wedi ymrwymo i gefnogi eu lles.
- Cyhoeddwyd6 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd12 Ionawr
- Cyhoeddwyd20 Ionawr
Mae cost gyfartalog rhent wedi codi 8.9% dros y flwyddyn ddiwethaf yng Nghymru, yn ôl data diweddar gan yr ONS.
Cynyddodd gwahanol filiau cartref hefyd - gan gynnwys dŵr, nwy a thrydan, yn gynharach fis yma.
Bu arolwg o fyfyrwyr yng Nghymru gan UCM Cymru y llynedd, ac fe wnaethon nhw ganfod nhw fod 58% yn dweud eu bod wedi methu prydau bwyd oherwydd trafferthion talu rhent a chostau tai.
Mae cynllun peilot newydd sy'n darparu prydau am ddim i fyfyrwyr wedi'i sefydlu er mwyn ceisio mynd i'r afael â'r mater yn Abertawe.
Mae Nourish and Flourish, sy'n cael ei ariannu gan Fanc Ieuenctid Abertawe, yn cael ei redeg gan fyfyrwyr gwirfoddol ac yn darparu pryd o fwyd, pwdin a diod, i 30 o fyfyrwyr, bum diwrnod yr wythnos, yn ystod y cyfnod arholiadau ac asesu.

Mae Naman Kumar (chwith) yn helpu myfyrwyr i gael prydau poeth dyddiol trwy gynllun sy'n cael ei redeg gan wirfoddolwyr
Mae Kardo, o Abertawe, yn derbyn prydau bwyd fel rhan o'r prosiect, a dywedodd fod ei gostau byw fel arfer yn tua £700 neu £800 y mis.
Er bod Kardo yn derbyn cymorth gan gyllid myfyrwyr, dywedodd ei fod yn dibynnu'n helaeth ar waith rhan amser i gael dau ben llinyn ynghyd - gan nad yw'n cael unrhyw gymorth ariannol ychwanegol gan ei rieni.
"Dwi'n cael rhywfaint o help gan ysgoloriaeth sydd genna'i, ond mae hynny'n dal i fod yn llawer o bres sy'n rhaid i mi ei dalu ac mae cyllidebu'r bwyd, teithio, llety a phethau eraill hefyd yn dod i ben," meddai.
"Weithiau mae'n rhaid i mi fethu rhai prydau a chael coffi yn lle - sydd ddim yn iach.
"Roeddwn i'n ei chael hi'n llawer haws cael coffi yn lle pryd o fwyd, gan ei fod yn fwy hyfyw'n ariannol."

"Mae hi wedi bod yn anodd, yn enwedig eleni," meddai Tooba Zeb
Mae Tooba Zeb, 21, o Wolverhampton, yn fyfyriwr llawn amser yn y brifysgol a dywedodd fod y cynllun cymorth prydau bwyd wedi ei helpu.
"Mae hi wedi bod yn anodd, yn enwedig eleni," meddai.
"Mae pethau fel cig yn costio llawer ac ymolchi a golchi dillad - mae hynny'n costio llawer hefyd.
"Mae'r cymorth pryd yma wedi fy helpu i arbed ar fy nwyddau bwyd."

Naman Kumar wnaeth sefydlu'r prosiect prydau am ddim gyda gwirfoddolwyr o Gymdeithas Hindŵaidd Prifysgol Abertawe
Naman Kumar wnaeth sefydlu'r prosiect prydau am ddim gyda gwirfoddolwyr o Gymdeithas Hindŵaidd Prifysgol Abertawe ddechrau mis Ebrill, a dywedodd fod y syniad ar gyfer y prosiect wedi dod o'i brofiadau ei hun.
"Mae 'na gymaint o bethau mae myfyrwyr yn wynebu, mae 'na straen academaidd, mae 'na anghenion ariannol, mae'n rhaid iddyn nhw dalu eu rhent," meddai.
Dywedodd Mr Kumar fod cyfnod arholiadau yn arbennig o heriol i fyfyrwyr, a dyna pam y dewisodd dargedu'r prosiect o'i amgylch.
"Mae pob myfyriwr yn trio rhoi 100%, felly beth am eu helpu yn ystod y cyfnod yma a lleihau'r straen a'r pryder y maen nhw'n ei deimlo," ychwanegodd.
Dywedodd llefarydd ar ran Prifysgol Abertawe eu bod wedi'u "hysbrydoli" gan fentrau sy'n cael eu harwain gan fyfyrwyr fel y cynllun prydau bwyd, a'u bod yn croesawu sgyrsiau am sut y gallen nhw gefnogi ymdrechion tebyg.

Dywedodd Deio Siôn Owen fod myfyrwyr yn gorfod "gwneud y penderfyniad anodd rhwng gwresogi a bwyta"
Dywedodd llywydd UCM Cymru, Deio Siôn Owen, fod myfyrwyr yn gorfod "gwneud y penderfyniad anodd rhwng gwresogi a bwyta".
Dywedodd fod rhai myfyrwyr hefyd yn "colli allan ar ddigwyddiadau cymdeithasol, fel mynd am goffi neu ddal y bws i fynd i weld ffrind".
"Mae'r pethau hynny'n wirioneddol anodd i fyfyrwyr rŵan oherwydd y pwysau ariannol sydd arnyn nhw ar hyn o bryd," ychwanegodd.
"'Da ni'n gweld y straen cynyddol hynny o amgylch arholiadau ac asesiadau ac wedyn, os ydyn ni'n gweld y cynnydd hwnnw yn y myfyrwyr sy'n mynd i weithio'n rhan amser tra maen nhw'n astudio - mae hyn i gyd yn byrlymu gyda'i gilydd yn ystod un o gyfnodau pwysicaf eu hamser yn y brifysgol."
Mae pob prifysgol yng Nghymru yn cynnig cronfeydd caledi, prydau gostyngol ar y campws a chyngor arbenigol ar ddyledion a chyllidebu trwy eu gwasanaethau yn rhoi cyngor ariannol i fyfyrwyr.