Ymgeisio am 418 o swyddi ar ôl graddio yn 'ddigalon'

Tomas Taylor Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Tomas Taylor yrru dros 400 o geisiadau swyddi ar ôl iddo raddio

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn ifanc o Bontypridd yn dweud ei fod wedi ymgeisio am dros 400 o swyddi cyn iddo gael ei rôl gyntaf ar ôl iddo raddio.

Roedd Tomas Parry, 24, wedi astudio ym Mhrifysgol Abertawe cyn ennill gradd meistr o Brifysgol Strathclyde yn Glasgow yn 2024.

Er ei fod bellach mewn swydd, dywed Tomas bod gyrru cannoedd o geisiadau heb ymateb wedi ei adael "yn y tywyllwch".

Daw ar ôl i un sefydliad ddweud bod cystadleuaeth am swyddi ar ôl graddio wedi cyrraedd ei lefel uchaf mewn 30 mlynedd.

Tomas Taylor
Disgrifiad o’r llun,

Roedd chwilio am swydd yn teimlo "fel swydd llawn amser" i Tomas

Dros gyfnod o saith mis, roedd Tomas yn treulio ei ddyddiau yn chwilota drwy hysbysebion swyddi ac ysgrifennu llythyrau cais.

"Roedd o'n teimlo fel swydd llawn amser, o i fi godi yn y bore tan tua 16:00," meddai.

"Bydd cwmnïau yn rhoi swyddi lan ac wedyn o fewn cwpwl o oriau, bydd nhw'n cau ceisiadau gan fod cymaint o bobl wedi gyrru cais."

Mewn tabl Excel lliwgar, mae Tomas wedi nodi canlyniad pob un cais.

Am gannoedd o geisiadau, cafodd ei wrthod yn syth neu ni dderbyniodd unrhyw ymateb o gwbl, er ei fod yn teimlo bod ganddo "cryn dipyn o brofiad".

"Mae wir yn rhwystredig," meddai.

"Chi'n rhoi yr oriau i gyd mewn, weithiau angen e-bostio nhw i roi y cais mewn ac maen nhw ffaelu bod yn bothered i hyd yn oed anfon rhywbeth yn dweud 'sori chi heb gael eich dewis tro 'ma'."

57% o gynnydd mewn cystadleuaeth

Nid Tomas yw'r unig un i brofi natur gystadleuol byd gwaith.

Yn ôl ymchwil gan yr Institute for Student Employers, fe wnaeth cyflogwyr dderbyn tua 140 o geisiadau ar gyfartaledd am bob swydd lefel gradd yn 2024.

Mae hyn yn 57% o gynnydd ar 2023, a'r lefel uchaf mewn 30 mlynedd.

Ond mae disgwyl i'r farchnad gwaith dyfu yn ystod 2025.

Er mai Cymru sydd â'r gyfran leiaf o raddedigion sydd mewn gwaith ym Mhrydain, mae'r grŵp sy'n cynrychioli prifysgolion yn credu y bydd y galw am sgiliau lefel gradd yn tyfu erbyn 2035.

Dywedodd llefarydd ar ran Prifysgolion Cymru: "Er ein bod ni'n cydnabod bod y farchnad swyddi bresennol yn cyflwyno heriau i nifer o bobl, mae ymchwil yn dangos bod gradd yn parhau i gynyddu enillion, cyfleoedd gyrfa, a datblygiad personol dros eich oes.

"Mae'r brifysgol yn cynnig profiad trawsnewidiol sydd nid yn unig o fydd i unigolion, ond hefyd yn cryfhau ein cymunedau ac economi."

Owain JamesFfynhonnell y llun, Llyn cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Cyngor Owain James i raddedigion yw i wneud gwaith ymchwil i'w cyflogwyr posib

Fel sylfaenydd cwmni recriwtio Darogan, mae Owain James yn gweithio'n agos â chyflogwyr, yn ogystal â graddedigion sy'n newydd i'r byd gwaith.

"Mae'r farchnad swyddi yn mynd trwy gyfnod anodd ar y foment," meddai.

"Y talent cynnar yna sydd yn dioddef fwyaf wrth i fusnesau falle meddwl llai am fuddsoddi mewn talent i ddod.

"Maen nhw eisiau'r talent yna yn barod - pobl sydd yn barod efo'r sgiliau a phrofiad yna."

Yn ôl Owain, mae'n hollbwysig fod ymgeiswyr yn gwneud gwaith ymchwil cyn gyrru unrhyw gais am swydd.

"Mae sefydliadau yn gwybod os ydych chi wedi 'sgrifennu cais swydd generig iawn," meddai.

"Os ydych chi efo diddordeb yn y sefydliad yna, ymchwiliwch mewn i nhw, ewch ar eu gwefan nhw, edrychwch ar eu prosiectau."

Mared Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mae'n bwysig i fyfyrwyr siarad gyda'i gilydd yn y "cyfnod ansicr" wrth raddio, yn ôl Mared Jones

Fel Tomas y llynedd, mae miloedd o fyfyrwyr yn paratoi i raddio yn ystod yr haf.

Yn eu plith mae Mared Jones sydd ym Mhrifysgol Bangor, sy'n teimlo bod ganddi dal "lot i ddysgu" cyn mynd i'r byd gwaith.

"Dwi 'di ystyried lot o opsiynau ond dwi'n meddwl, ar y funud, dwi'n ystyried gradd meistr mewn ysgrifennu creadigol," meddai.

"Mae'r adran Gymraeg yn wych yma, felly dwi'n meddwl mae 'na dal lot maen nhw'n gallu rhoi i fi ar lefel bersonol.

"Mae o'n gyfnod ansicr, ac mae o'n bwysig 'da ni yn siarad am y peth efo ffrindiau ni achos 'da ni gyd yn yr un cwch."

Alaw Simpson
Disgrifiad o’r llun,

Mae Alaw Simpson wedi cychwyn chwilio am swyddi cyn iddi raddio o Brifysgol Bangor yr haf hwn

Ar ôl cwblhau gradd yn y Gymraeg, bydd Alaw Simpson yn symud yn ôl adref i Ynys Môn tra'i bod hi'n chwilio am waith llawn amser.

"Dwi'n eitha' pendant fy mod i eisiau mynd ymlaen i'r byd gwaith. Dwi eisiau symud ymlaen o'r byd addysg ar hyn o bryd," meddai.

"Mae 'na ambell wefan sydd yn cynnig swyddi addas ar gyfer rhywun [efo gradd] Cymraeg ac mae pethau newydd yn dod allan trwy'r amser, ond mae o'n gallu bod yn anodd ffeindio rhywbeth sydd yn addas hefyd."

'Pwrpas yn fy nyddiau eto'

Er y broses heriol, mae Tomas bellach wedi cychwyn swydd newydd ym maes cyfathrebu.

"Nawr, dwi efo tipyn bach o bwrpas yn fy nyddiau eto," meddai.

"Mae'n teimlo'n wych a dwi'n edrych ymlaen mynd fewn i'r rhan nesaf yn fy mywyd."

A'i gyngor ef i raddedigion y dyfodol?

"Mae o'n mynd i fod yn rhwystredig, mae o am fod yn ddigalon weithiau, ond parhau gyda fe."