Prifysgol Bangor ddim am agor Neuadd JMJ i fyfyrwyr di-Gymraeg

Neuadd John Morris-JonesFfynhonnell y llun, Prifysgol Bangor
Disgrifiad o’r llun,

Neuadd John Morris-Jones yw'r neuadd breswyl Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor

  • Cyhoeddwyd

Mae Prifysgol Bangor wedi penderfynu peidio bwrw 'mlaen â chynlluniau i agor rhannau o Neuadd JMJ i fyfyrwyr di-Gymraeg.

Roedd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor wedi dweud fod y brifysgol yn ystyried cynnig posib i agor dau lawr isaf adeilad Bryn Dinas yn Neuadd JMJ i fyfyrwyr nad ydynt yn siarad Cymraeg.

Ond yn dilyn trafodaethau rhwng Llywydd UMCB, adran neuaddau'r brifysgol a'r Dirprwy Is-Ganghellor dros y Gymraeg, dywedodd UMCB bod y sefydliad wedi cytuno i beidio bwrw ymlaen â'r cynnig.

Mae'r brifysgol wedi cadarnhau na fydd yn parhau gyda'r cynllun.

Dywedon nhw: "Er bod gostyngiad bach wedi bod yn nifer y myfyrwyr sy'n dewis neuadd JMJ, rydym yn defnyddio'r cyfle hwn i fyfyrio ar y dyfodol ac archwilio'r ffordd orau o sicrhau cyfraniad parhaus y neuadd".

Neuadd John Morris-Jones, neu JMJ, yw'r neuadd breswyl Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor.

Mae wedi bod yn gartref i nifer o fyfyrwyr Cymraeg y ddinas ers degawdau - ac roedd yn dathlu ei phen-blwydd yn 50 y llynedd.

'Cynnig cyfle unigrwy i fyfyrwyr'

Mewn datganiad nos Lun, dywedodd UMCB eu bod yn "falch o gyhoeddi" fod y brifysgol "wedi cytuno i beidio â bwrw ymlaen gyda'r cynigion".

"Mi fydd UMCB yn cydweithio er mwyn gwneud ymdrech sylweddol i gynyddu niferoedd y myfyrwyr Cymraeg sy'n dewis Neuadd JMJ ar gyfer y flwyddyn academaidd 2026/27.

"Mae Neuadd John Morris-Jones yn ganolfan i fyfyrwyr Cymraeg ym Mangor, nid yn unig fel llety, ond fel cymuned ddiwylliannol a chymdeithasol.

"Mae'n cynnig cyfle unigryw i fyfyrwyr fyw, astudio a chymdeithasu trwy gyfrwng y Gymraeg, gan gryfhau hunaniaeth ddwyieithog y brifysgol.

"Mae UMBC yn edrych ymlaen at gydweithio gyda'r brifysgol i hyrwyddo manteision byw yn y neuadd arbennig hon."

Prifysgol BangorFfynhonnell y llun, Geraint Tudur
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r brifysgol yn dweud eu bod yn wynebu heriau ariannol ar hyn o bryd a bod angen arbed dros £5m

Ar raglen Dros Frecwast fore Mawrth, dywedodd Llywydd UMCB, Huw Williams eu bod "wedi gwneud eu gwrthwynebiad i'r syniad yn glir".

"Mae prifysgolion yn wynebu heriau ariannol sylweddol ar hyn o bryd, a dydi Prifysgol Bangor ddim yn eithriad i hynny... felly o ran cynaliadwyedd mi oedd gan y brifysgol gynllun i lenwi'r fflatiau gwag yn Neuadd JMJ.

"Ond fe wnaethon ni fel UMCB, ac fel myfyrwyr drafod efo'r brifysgol a gwneud ein llais a'n gwrthwynebiad i'r syniad yna yn glir.

"Pwysleisio pwysigrwydd JMJ o ran yr elfen ddiwylliannol, gymdeithasol a phwysigrwydd cadw cryfder a statws yr iaith Gymraeg yn y brifysgol yn fyw.

"Mi wnaeth y brifysgol a'r adran neuaddau wrando, ac mae hynny wedi arwain at dro pedol ar y cynllun.

"Ond wrth symud ymlaen rŵan... fydd rhaid i ni fel prifysgol, a ni fel UMCB hefyd, sicrhau ein bod ni'n denu mwy o fyfyrwyr i Fangor fel bod y broblem, a'r pryder yma sy' 'di codi dros yr wythnos ddiwethaf 'ma ddim yn digwydd eto."

'Parhau'n ymrwymedig i ethos JMJ'

Dywedodd Prifysgol Bangor eu bod "yn parhau i fod yn ymrwymedig i ethos JMJ, wnaeth nodi pen-blwydd yn hanner cant oed y llynedd, carreg filltir sy'n adlewyrchu rôl a hirhoedledd y neuadd wrth gefnogi myfyrwyr sy'n siarad Cymraeg".

"Rydym yn ymfalchïo yn y dreftadaeth hon ac yn y nifer sylweddol o siaradwyr Cymraeg a siaradwyr newydd sydd yn ein cymuned, ac rydym yn awyddus i sicrhau y gallant brofi bywyd prifysgol trwy gyfrwng y Gymraeg, a chefnogi hynny.

"Ni fydd y brifysgol yn mynd ymlaen gyda'r cynlluniau i agor allan 'stafelloedd ar gyfer myfyrwyr di-Gymraeg ym mis Medi.

"Er bod gostyngiad bach wedi bod yn nifer y myfyrwyr sy'n dewis neuadd JMJ, rydym yn defnyddio'r cyfle hwn i fyfyrio ar y dyfodol ac archwilio'r ffordd orau o sicrhau cyfraniad parhaus y neuadd am yr hanner can mlynedd nesaf.

"Ar yr un pryd, mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i sicrhau mynediad cyfartal i lety i bob myfyriwr ac mae'n gweithio'n agos gydag Undeb y Myfyrwyr i daro'r cydbwysedd cywir wrth symud ymlaen."