Protest yn erbyn toriadau 'trist' Prifysgol Bangor

Roedd dros 100 o bobl yn bresennol yn y brotest brynhawn Iau
- Cyhoeddwyd
Daeth dros 100 o bobl i brotestio y tu allan i Brifysgol Bangor ddydd Iau yn erbyn cynlluniau'r penaethiaid i ddiswyddo degau o weithwyr.
Mae'r brifysgol yn dweud bod angen arbed dros £5m, ac yn ymgynghori ar ddiswyddiadau ar hyn o bryd.
Mae gan staff tan ddydd Gwener i gyflwyno cais am ddiswyddiad gwirfoddol.
Dywed y brifysgol eu bod yn cydnabod pryderon staff ac undebau llafur a'u bod yn ceisio lleihau'r angen am ddiswyddiadau gorfodol.

Mae Chris Saville yn gweithio yn adran seicoleg y brifysgol
Yn gynharach yr wythnos hon fe ddaeth i'r amlwg bod is-ganghellor y sefydliad wedi derbyn codiad cyflog o 13% y llynedd cyn i'r sefydliad ddechrau chwilio am doriadau ariannol sylweddol eleni.
Cafodd y ffigwr hwnnw ei gyhoeddi yn adroddiad blynyddol y brifysgol ar gyfer 2023-24, oedd hefyd yn nodi bod nifer y staff sy'n ennill cyflog dros £100,000 wedi codi o 18 i 26.
Mae'r newyddion hynny wedi codi gwrychyn nifer oedd yn protestio ym Mangor ddydd Iau, yn cynnwys Chris Saville.
"Mae'n anodd iawn, mae 'na lot yn colli swyddi, mae'n drist iawn," meddai.
"Ac mae'n anodd clywed y newyddion am gyflogau - mae'n brifo.
"Mae'n rili anodd i justifio pan mae lot o bobl yn colli swyddi."
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd14 Mai
- Cyhoeddwyd19 Chwefror
Mae Jago Williams yn poeni am effaith hirdymor y toriadau ar y sefydliad.
"Os ydyn ni'n colli capasiti, mi fydd y brifysgol yn mynd yn llai ac yn llai nes mae'n diflannu," meddai.
"'Da ni'n deall bod 'na broblemau tymor byr, ond os 'da ni'n colli cymaint o bobl â hyn, d'wn i'm be' ddigwyddith."
Fe gyhoeddodd y brifysgol fis Chwefror eu bod angen arbed £15m a thorri hyd at 200 o swyddi.
Fis Mai fe ddywedon nhw eu bod wedi dod o hyd i arbedion ac mai £5.3m a 78 o swyddi oedd angen eu torri.
Mae nifer y swyddi fydd rhaid eu torri bellach wedi disgyn i 55, meddai'r brifysgol ddydd Iau.

Dyw undeb Unsain ddim wedi diystyru gweithredu diwydiannol posib os oes diswyddiadau gorfodol, meddai Gwawr Eilian
Cafodd y brotest ddydd Iau ei threfnu gan undebau UCU, Unsain ac Unite, ddiwrnod cyn i'r ymgynghoriad gau.
Dywedodd Gwawr Eilian o undeb Unsain: "Os ydyn nhw yn mynd ymlaen efo diswyddo gorfodol yna mi fydd Unison yn mynd at ein haelodau ac yn cynnal balot ymgynghorol i weld a ydyn nhw eisiau gweithredu'n ddiwydiannol.
"Dydy'r brifysgol ddim yn gallu gweithredu heb ein haelodau ni."
'Diogelu dyfodol y brifysgol' yw'r flaenoriaeth
Mewn ymateb i'r brotest dywedodd Prifysgol Bangor eu bod yn "cydnabod y pryderon a godwyd gan staff a chynrychiolwyr undebau llafur".
"Mae'r rhain yn gyfnodau ariannol heriol i'r sector addysg uwch ledled y DU, ac fel llawer o sefydliadau, rhaid i ni wneud penderfyniadau anodd i sicrhau cynaliadwyedd hirdymor," meddai'r brifysgol.
"Rydym hefyd wedi ymrwymo i dryloywder ac atebolrwydd ar draws pob gweithrediad, gan gynnwys taliadau.
"Mae cyflogau'r is-ganghellor a'r bwrdd gweithredol yn cael eu pennu gan y pwyllgor taliadau, sef pwyllgor cynghori sy'n annibynnol o fwrdd gweithredu'r brifysgol.
"Rydym yn deall yr effaith y gall ansicrwydd ei chael ar staff a myfyrwyr, ac rydym wedi ymrwymo i ymgynghori'n barhaus ag undebau llafur ac i archwilio pob opsiwn, er mwyn ceisio lleihau'r angen am ddiswyddiadau gorfodol.
"Ein blaenoriaeth yw darparu addysg o ansawdd uchel a diogelu dyfodol y brifysgol o hyd."