'Cymuned glos, llawn sbort': Neuadd JMJ yn dathlu'r 50

Myfyrwyr 1986-7 Neuadd JMJFfynhonnell y llun, Prifysgol Bangor
Disgrifiad o’r llun,

Myfyrwyr 1986-87 Neuadd JMJ - welwch chi wynebau cyfarwydd?

  • Cyhoeddwyd

Mae'r neuadd breswyl Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor, Neuadd John Morris-Jones - neu Neuadd JMJ i'w ffrindiau - yn dathlu ei phen-blwydd yn 50.

Ddydd Sadwrn bydd digwyddiadau arbennig yn cael eu cynnal ym Mangor i ddathlu'r pen-blwydd gan gynnwys perfformiad gan y band roc Cymraeg Angylion Stanli a ffurfiodd tra yn y brifysgol ym Mangor.

Yn gynharach eleni ar drothwy dathliad yn yr Eisteddfod Genedlaethol fe ofynnodd Cymru Fyw i rai o gyn-breswylwyr y neuadd rannu eu hatgofion o'u cyfnod yno - gan holi beth sy'n ei wneud yn lle mor arbennig.

Guto Jones: 2007-09

Ffynhonnell y llun, Guto Jones
Disgrifiad o’r llun,

Guto gyda'r warden, David Allsop, mewn cinio ffurfiol yn y neuadd

Er fy mod i’n hogyn o Fôn, fues i’n byw yn Neuadd JMJ yn dilyn cyngor gan fy rhieni i fyw mewn neuadd yn y flwyddyn gyntaf ac roedd JMJ yn ddewis naturiol gan fy mod yn astudio Cymraeg a Hanes Cymru yn y flwyddyn gyntaf ac yna Cymraeg o’r ail flwyddyn.

Mae gen i gymaint o atgofion o nghyfnod yn y neuadd, ma' ‘na ddau atgof yn dod i’r brig:

Mae symud oddi cartref am y tro cyntaf yn adeg gyffrous a phryderus yr un pryd.

Lleddfwyd fy mhryder pan gyrhaeddais JMJ ar y diwrnod cyntaf hwnnw yn 2007 pan ddaeth cyfaill o fy nghyfnod fel aelod o Gangen yr Urdd yn Rhosmeirch, Ynys Môn allan o’r ystafell drws nesa' i fi. Roedd adnabod rhywun oedd yn dechrau yr un pryd â fi yn byw drws nesa yn gysur.

Fe ddaethom yn ffrindiau efo nifer o rai eraill o ardaloedd eraill o Gymru yn braf a thrwy'r cyfryngau cymdeithasol mi rydan ni dal mewn cyswllt.

Ffynhonnell y llun, Prifysgol Bangor
Disgrifiad o’r llun,

Lleoliad gwreiddiol y Neuadd - University Hall, a gafodd ei ail-enwi yn Neuadd John Morris-Jones. Mae JMJ wedi symud dair gwaith yn ystod y 50 mlynedd ddiwethaf

Yr atgof pennaf sydd yn aros efo fi, rhwng y gweithgareddau a’r gwaith, ydi’r arogl unigryw hwnnw oedd yn nodweddiadol o’r neuadd.

Fedra i ddim egluro sut arogl ydi o, ond mi roedd yr arogl yn ein dilyn ni fel preswylwyr, gydag eraill yn deud “mi ryda chi’n byw yn JMJ ‘tydach?!” ar sail yr arogl!

Mi glywais sôn am un myfyriwr o Brifysgol Caerdydd yn cysgu ar lawr ystafell ei chwaer yn Neuadd JMJ adeg Eisteddfod Ryng-Golegol ym Mangor a bod yr arogl yn waeth ar ei ddillad o nag ar ei rhai hi.

Hyd heddiw pan ‘dwi’n agor ambell i gyfrol oedd gen ar fy silff lyfrau yn fy ystafell yn JMJ ‘dwi’n dal i gael yr arogl hyd heddiw.

Dwi wedi clywed mai’r unig le lle nad oedd yr arogl yn bodoli oedd yn fflat y Warden!

Lowri Williams: Merch y warden

Ffynhonnell y llun, Lowri Williams
Disgrifiad o’r llun,

Lowri (dde) a'i brawd Robin yn sgrialu ar hyd coridorau Neuadd JMJ ar eu beics

Neuadd JMJ oedd adra imi am hanner cyntaf fy mywyd.

Maen nhw’n dweud bod angen pentref i fagu plentyn, a JMJ oedd fy mhentref i. Yn lanhawyr, porthorion, staff y gegin ac yn weinyddwyr, roedd gen i a fy mrawd Robin antis ac yncls lu yno.

Ac yna wrth gwrs, roedd degau o fyfyrwyr o bob rhan o Gymru; rhai oedd yn cael eu dwrdio am ein cadw’n effro pan oeddem yn fabis; yn ein gwarchod yn ofalus pan oeddem yn blant bach; yn prynu popcorn gennym i hel arian i Blant mewn Angen, a llyfrau fel rhan o her gwerthu llyfrau y Cyngor Llyfrau (roeddem ni wastad yn ennill gan fod gennym gymaint o gwsmeriaid); ac yna, ymhen amser, daethant yn gyfoedion ac yn ffrindiau, ac roeddem yn ymuno efo nhw yn y Glôb.

Roedd gennym ardd enfawr i chwarae ynddi, a doedd yna unlle gwell i chwarae cuddio ynddo fo na JMJ. Mi ddychrynais fy hun yn hurt sawl tro yn crwydro’r coridorau gweigion yn ystod y gwyliau yn dychmygu bod ysbrydion rownd pob cornel.

Ffynhonnell y llun, Glyn Tomos
Disgrifiad o’r llun,

Lowri ym mreichiau ei rhieni, Irene a John Llew, y warden

Dim ond wrth edrych yn ôl dwi’n sylweddoli faint o gyfrifoldeb ac ymdrech oedd o i fy rhieni ofalu am gymaint o bobl ifanc oedd yn dechrau ffeindio eu ffordd yn y byd, a hynny ar yr un pryd â magu teulu a gweithio’n llawn amser.

Mae’n siŵr na chawsom wybod am bob tro trwstan ddigwyddodd yno, ond roeddem yn gyfarwydd iawn ag ateb y drws i fyfyrwyr dagreuol oedd angen help, a rhai eraill oedd ar fin cael pryd o dafod gan Dad, yn aml iawn ar ôl iddynt ganu’r larwm tân ar ryw awr annaearol o’r nos (roeddwn i a Mam yn cysgu trwyddynt fel arfer).

Ond, dwi’n meddwl mai prin iawn ydi’r rheini fyddai’n dweud eu bod wedi cael cam gan Dad, oedd yn aml yn teimlo’n euog am wylltio efo nhw.

Ac nid dim ond myfyrwyr o Gymru oedd yn Neuadd JMJ. Bu sawl myfyriwr tramor oedd yn dewis byw yn y neuadd yn aelodau estynedig o’n teulu ni gan fod eu teuluoedd hwy mor bell; doedd y ffaith fod pawb yn siarad Cymraeg o’u cwmpas ddim yn eu poeni nhw.

Ffynhonnell y llun, Lowri Williams
Disgrifiad o’r llun,

Lowri, John Llew, Irene a Robin - teulu oedd yn rhan ganolog o deulu ehangach JMJ am 27 o flynyddoedd

Fy nghartref i oedd Neuadd JMJ, a doeddwn i ddim yn llawn amgyffred arwyddocâd y lle wrth dyfu i fyny yno. Prin iawn wrth gwrs yw’r mannau hynny lle gallwn siarad y Gymraeg yn naturiol efo pawb o’n cwmpas.

Dwi’n sylweddoli rŵan pa mor bwysig oedd, ac ydi cymuned gwbl Gymraeg y Neuadd, yn rhoi'r hyder i'r bobl ifanc sy'n byw yno fynd yn ôl i’w cymunedau amrywiol ar draws Cymru i fyw a defnyddio'r Gymraeg yn naturiol o ddydd i ddydd.

Dyna lwcus ydw i fy mod wedi cael galw’r lle yn adra.

Emyr Afan OBE: 1982-83

Ffynhonnell y llun, Emyr Afan
Disgrifiad o’r llun,

Emyr yn ei ystafell yn JMJ

Dechreues i yn fy mlwyddyn gyntaf ym Mhrifysgol Bangor ym 1982 ac mae gen i atgofion hapus dros ben o fy nghyfnod yno a’r ffrindiau oes a gwraig ges i o fod yno!

Rwy’n cofio’n glir y llun yma oherwydd digwyddodd rhywbeth arall yn hwyrach y noson honno oedd yn ddoniol a brawychus ar yr un amser.

O'dd gen i fel myfyriwr ddau gariad mawr sef cerddoriaeth a rygbi. Ro'n i wedi cael peth llwyddiant yn y ddau faes cyn cyrraedd coleg yn chwarae gitâr a prif lais mewn sawl band ac yn chwarae rygbi yn achlysurol i dîm cyntaf ysgol Llanhari ac wedyn ieuenctid Pontypridd er oedd gen i ddim arian i deithio yno ar y bws rhan fwyaf o’r amser.

Doedd e ddim yn hir cyn i mi ffurfio'r grŵp Manna gyda Alun Tudur a Gethyn Evans ac ymuno gyda’r grŵp gwerin drydanol Pererin. A chyn pen dim o’n i hefyd yn sgwad rygbi JMJ. Yr anhawster oedd doeddwn ddim yn gallu gweld diwedd y tymor yn ariannol ar y grant odd gen i gan y cyngor sir heb fy mod yn ennill arian yn chwarae gigs a mynd lawr i Gaerdydd i wneud gwaith teledu gyda Hafoc, Seren Dau ac i Gaernarfon i recordio caneuon gyda Teledu’r Tir Glas neu Sain.

Roedd gan dîm rygbi JMJ ddigon o dalent ond dim lot o siâp! Roeddwn wedi arfer hefo lot mwy o hyfforddi.

Y drafferth fwyaf oedd ein bod yn cyfrif ein hunain yn ddynion tra roeddwn mewn gwirionedd yn fechgyn ifanc. Felly bydde’r tîm ifanc, glandeg a glas yma yn chwarae yn yr un league â ffermwyr, dynion tân, dreifwyr lori hŷn oedd LOT fwy na ni!

O ganlyniad roedd yr anafiadau yn niferus. Dwi'n cofio Rhys Harries, oedd ar y pryd yn chware gitâr a chanu gyda Bwchadanas (bellach Catsgam) yn niweidio ei benglin yn wael iawn. Am fisoedd wedyn baswn yn ei weld yn hercio o gwmpas Bangor Uchaf gyda chast anferth ar ei goes.

Gyda mop o wallt melyn a dannedd perffaith (diolch i orthodontist Pen y Bont) mi oeddwn fel blaen asgellwr yn darged i bawb.

Ffynhonnell y llun, Prifysgol Bangor
Disgrifiad o’r llun,

Y rhifyn cyntaf a'r rhifyn olaf o'r cylchgrawn i fyfyrwyr Cymraeg, Y Llef. Bydd y cylchgrawn yn cael ei atgyfodi eleni i gyd fynd â'r dathliadau

Wna i fyth anghofio, dod o’r ffreutur a gweld bod gêm rygbi wedi mynd fyny ar y bwrdd ar gyfer y Sadwrn nesaf ac roedd fy enw yno ymysg y blaenwyr.

Roedd gen i ddau sesiwn recordio 'mlaen yng Nghaerdydd ar y Sul hwnnw ac roeddwn yn llwyr ddibynnol ar y cyllid yna tan ddiwedd y tymor. Roeddwn methu fforddio anaf o unrhyw fath na cholli unrhyw ddannedd! Felly, heb feddwl fe wnes i groesi fy enw allan ar y bwrdd.

Wel, os do fe!

Yn hwyrach y noson honno ar ol cwpwl o beints da'th y tîm rygbi cyfan lawr i fy stafell i berswadio fi fel arall... Ro’n i yn fy ystafell yn ymarfer gitâr, ac roeddwn yn gallu clywed y gweiddi a bytheirio o bellter.

Fe lwyddais i gloi'r drws yn sydyn. A gan nad oeddwn yn bwriadu ei agor fe ddechreuodd ffrâm y drws ddod yn rhydd gyda’r tîm rygbi yn hyrddio ac ysgwyd e!

Yn y foment honno wnes i afael yn Mair, sef fy mhriod bellach ers 37 mlynedd a gwynebu’r safiad brawychus gyda hi. Doedd dim rhesymu gyda neb ar ôl llond croen o ddiod ac roedd gwneud beth oedd yn iawn yn fy ngolwg i a dim rhoi fewn i peer pressure yn bwysig. Felly fe wnes i safiad a ges i byth fy nghwahodd nôl i’r tîm ar ôl y noson honno!

Fe es i fyw yng Ngholeg Bala Bangor ar gyfer fy ail a thrydedd blwyddyn. Ac rwy’n parhau hyd heddiw yn ffrindiau gyda llawer o’r tîm rygbi!

Ffynhonnell y llun, Prifysgol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Myfyrwyr JMJ ddechrau'r 1980au - dydi Emyr ddim yn y llun ('Rhaid bod fi dal yn cuddio yn fy stafell neu yn gigio!') - ond o bosib bod rhai o 'fechgyn' ffyrnig y tîm rygbi i'w gweld yma!

Gwen Down: Llywydd JMJ 2023-24

Ffynhonnell y llun, Gwen Down
Disgrifiad o’r llun,

Beca Rhys, Gwen a Cadi Sian - cyn lywydd, llywydd presennol a darpar lywydd Neuadd JMJ

Rydw i’n cofio fel ddoe, pacio fy mhethau i gefn y car, prin bod lle i mi eistedd. Roedd fy mol yn corddi wrth feddwl mod i’n cychwyn am y coleg. Roedd penderfynu mynd i Fangor wedi bod yn broses hir ond yn y diwedd roedd y cyfuniad o gyrsiau oedd yn apelio a chyfle i fyw mewn cymuned Gymraeg wedi troi’r fantol.

Roedd JMJ yn rhan hanfodol o’r penderfyniad. Roeddwn ar y ffordd i neuadd fyddai yn gartref i mi, ond hefyd yn fan i berthyn iddo. Roeddwn wedi treulio dwy flynedd yng Nghaerdydd ac wedi gwneud ffrindiau da ond yn awr Y Coleg ar y Bryn fyddai fy nghymuned.

Ac o’r cychwyn cyntaf chefais i mo fy siomi. Roedd pawb mor groesawgar a chlên, roedd yr ystafell gyffredin yn rhoi man hwylus i bawb gwrdd ac roedd popeth drwy gyfrwng y Gymraeg.

Yn fuan iawn roeddwn wedi sylweddoli fod yr ystafell gyffredin yn bopeth, yn fan cymdeithasu a lolian, yn fan ymarfer i gorau, partïon cerdd dant, yn faes cystadlu ar y bwrdd pwl neu wrth yr oci dartiau heb sôn am fod yn fan ar gyfer parti pwnsh, ac fe fu’n stiwdio recordio unwaith yn ystod fy mlwyddyn gyntaf. Mae’r holl weithgarwch yn tanlinellu nad neuadd ydi JMJ ond cymuned glos, weithgar, llawn sbort.

Ffynhonnell y llun, Gwen Down
Disgrifiad o’r llun,

Parti Cerdd Dant JMJ yn barod i gystadlu

Byddai rhai efallai yn edrych ar yr adeilad a meddwl nad yw’r ystafell gyffredin yn edrych ar ei gorau. Mae 'na ambell dolc yn y plaster, y paent wedi chipio yma ac acw, hyd yn oed ambell staen mewn teilsen yn y nenfwd, ond fe wyddom ni am stori bob tolc, am ddoniolwch ambell staen ac am y tro trwstan sydd wedi gadael chip bach yn y plaster. Mae’r waliau yn siarad yn JMJ, ac yn peri i rywun gofio gyda gwên.

Tua diwedd y flwyddyn gyntaf daeth yn gyfnod etholiad, a gwyddwn fy mod eisiau ymgeisio am lywyddiaeth JMJ. Roeddwn wedi dewis Bangor er mwyn bod yn rhan o’r gymuned, a chefais y fraint o gael fy ethol.

Efallai nad JMJ yw’r neuadd fwyaf yn y byd, yn enwedig gan nad yw’r drydedd flwyddyn yn cael aros yn y neuadd, ond ni’n un teulu mawr. Roedd hi’n fraint fawr cael bod yn llywydd ac fe allaf ddymuno’n dda i Cadi Sian sydd wedi ei dewis yn llywydd y flwyddyn nesaf.

Wnes i ddim sylweddoli tan yn ddiweddar mai fi yw hanner canfed llywydd y neuadd, ac yn yr Eisteddfod ac yn ystod yr hydref fe gawn ni ddathlu hanner can mlynedd JMJ. Mae hi’n neuadd sydd wedi bod yn fan cyfarfod, man ffurfio cyfeillgarwch, man i danio brwdfrydedd gwleidyddol, man i ysbrydoli sawl cenhedlaeth i wneud safiad dros eu hiaith a’u diwylliant.

Ond yn bwysicach dyma fan lle mae’r Gymraeg yn cael ei defnyddio yn naturiol, i chwerthin a chrio, i weithio a diogi, i garu ac i ganu, i dynnu coes ac i gefnogi.

Ffynhonnell y llun, Prifysgol Bangor
Disgrifiad o’r llun,

Llun o Neuadd John Morris-Jones ar safle Ffriddoedd fel ag y mae heddiw