Prifysgol Bangor: Beirniadu codi cyflog is-ganghellor tra'n torri swyddi

Yr Athro Edmund BurkeFfynhonnell y llun, Prifysgol Bangor
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth yr Athro Edmund Burke dderbyn cyflog o £273,000 yn 2023/24

  • Cyhoeddwyd

Mae undeb llafur wedi beirniadu Prifysgol Bangor am godi cyflog y pennaeth 13% cyn torri dwsinau o swyddi.

Cafodd adroddiad blynyddol y brifysgol ar gyfer 2023/24 ei gyhoeddi ddiwedd yr wythnos ddiwethaf.

Roedd yn nodi i'r is-ganghellor, yr Athro Edmund Burke, dderbyn cyflog o £273,000.

Yn y flwyddyn flaenorol, £222,000 o gyflog talwyd iddo am 11 mis o waith, gyda'r codiad cyflog blynyddol felly'n cyfateb i ychydig dros £30,000, neu 13%.

Dywedodd Prifysgol Bangor bod y cyflog yn "adlewyrchu nid yn unig holl gyfrifoldebau'r rôl ond hefyd yn ystyried y farchnad a chyflogau cyfoedion sydd yn arwain sefydliadau tebyg".

Llun o Dyfrig Jones gyda choed yn y cefndirFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae Dyfrig Jones wedi cael "sioc a siom" o glywed am godiad cyflog yr is-ganghellor

Dywedodd is-lywydd Undeb y Prifysgolion a'r Colegau (UCU) Dyfrig Jones, sydd hefyd yn uwch-ddarlithydd ym Mhrifysgol Bangor, fod codiad cyflog yr is-ganghellor yn "sioc ac yn siom".

"Mae'n brifo ac yn teimlo fel ergyd arall i staff sydd wedi bod drwy gyfnod eithriadol o anodd," meddai wrth raglen Newyddion S4C.

Dywedodd y byddai'n "croesawu" gweld yr is-ganghellor yn gwirfoddoli i ad-dalu rhan o'i gyflog.

"Fe allai o wedi arbed un neu ddwy o swyddi petai o heb dderbyn y codiad cyflog," dywedodd.

'Cynnydd da' ar wneud arbedion

Yn yr adroddiad blynyddol, dywed cadeirydd Cyngor Prifysgol Bangor, Marian Wyn Jones, bod "heriau ariannol yn wynebu'r brifysgol a'r sector".

Dywedodd eu bod yn "wynebu heriau digynsail o ganlyniad i ffioedd myfyrwyr cartref israddedig hanesyddol o sefydlog yn cael eu gosod gan y llywodraeth, pwysau chwyddiant parhaol a newid polisi o ran visas myfyrwyr rhyngwladol".

Ym mis Chwefror eleni, fe gyhoeddodd y brifysgol eu bod am dorri 200 o swyddi.

Fis diwethaf, mewn ebost i staff, dywedodd yr Is-ganghellor fod y brifysgol wedi gwneud "cynnydd da" wrth wneud arbedion trwy "reolaeth lem ar wariant", "diswyddiadau gwirfoddol ac ymddeoliadau".

Ond mae'r UCU yn anhapus bod rhai gweithwyr yn cael eu gwobrwyo'n ariannol mewn hinsawdd economaidd heriol.

Llun o gampws Prifysgol Bangor ar ddiwrnod brafFfynhonnell y llun, Geraint Tudur
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Prifysgol Bangor bod eu cenhadaeth graidd heb newid, sef darparu addysg o ansawdd uchel ac ymchwil o'r radd flaenaf

Mae'r adroddiad ariannol yn nodi bod nifer y gweithwyr sy'n ennill cyflog dros £100,000 wedi codi o 18 i 26 rhwng 2022/23 a 2023/24.

"Mae'r symiau rydyn ni'n sôn amdanyn nhw yn ddigon i gadw nifer fawr o swyddi ar lefelau is sydd ar hyn o bryd dan fygythiad," meddai Dyfrig Jones.

"Yn sicr, basen ni yn dymuno gweld lleihad yn nifer y swyddi sydd yn derbyn y cyflogau mawr yma er mwyn gwarchod y rheiny sy'n derbyn llai o gyflog ac, yn fy marn i, yn gwneud gwaith llawer iawn pwysicach o ran y brifysgol."

'Ymrwymo i dryloywder ac atebolrwydd'

Dywedodd llefarydd ar ran Prifysgol Bangor: "Rydym yn deall bod cwestiynau ynghylch cyflogau uwch swyddogion gweithredol a chyflogau staff yn arbennig o sensitif ar adeg pan fo'r sector yn wynebu pwysau ariannol sylweddol.

"Mae'r cynnydd yn adlewyrchu cyfuniad o ffactorau, gan gynnwys penodiadau neu ddyrchafiadau i rolau arweinyddiaeth lle mae cyflogau'n cael eu meincnodi yn erbyn safonau cenedlaethol.

"Mae ein cenhadaeth graidd yn parhau heb ei newid, sef darparu addysg o ansawdd uchel ac ymchwil o'r radd flaenaf.

"Rydym hefyd wedi ymrwymo i dryloywder ac atebolrwydd ar draws pob gweithrediad, gan gynnwys cyflogau, cyflogau'r Is-Ganghellor a'r Bwrdd Gweithredol a bennir gan y Pwyllgor Taliadau, sef pwyllgor Cyngor sy'n annibynnol ar y Weithrediaeth.

"Mae ein harweinyddiaeth yn canolbwyntio ar ddefnyddio adnoddau'n gyfrifol i gefnogi ein cenhadaeth academaidd a sefydlogrwydd yn y dyfodol."

Dywedodd llefarydd nad oedd yr is-ganghellor wedi derbyn codiad cyflog yn y flwyddyn bresennol.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.