Llys yn clywed bod bachgen, 2, wedi dioddef 'nifer o ymosodiadau'

Ethan Ives-GriffithsFfynhonnell y llun, Llun Teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Ethan Ives-Griffiths yn ddwy oed ar 16 Awst 2021

  • Cyhoeddwyd

Rhybudd: Gallai'r cynnwys isod beri gofid i rai

Mae llys wedi clywed bod bachgen yr honnir iddo gael ei lofruddio gan ei nain a'i daid, wedi cyrraedd yr ysbyty mewn coma gydag arwyddion ei fod wedi dioddef ymosodiadau "dros gyfnod hir o amser".

Bu farw Ethan Ives-Griffiths o anaf difrifol i'w ben ym mis Awst 2021.

Mae Michael Ives, 47, a Kerry Ives, 46, y ddau o Garden City yn Sir y Fflint, yn gwadu cyhuddiadau o lofruddiaeth, achosi neu ganiatáu marwolaeth plentyn, a chreulondeb i blentyn.

Mae mam Ethan, Shannon Ives, 28 oed o'r Wyddgrug, yn gwadu cyhuddiadau o achosi neu ganiatáu marwolaeth plentyn, a chreulondeb i blentyn.

Kerry a Michael Ives
Disgrifiad o’r llun,

Mae Kerry Ives, 46, a Michael Ives, 47, wedi'u cyhuddo o lofruddio eu hŵyr Ethan

Cafodd Ethan ei gludo o gartref ei daid a'i nain i i Ysbyty Countess of Chester, Caer ar Awst 14, 2021.

Clywodd y rheithgor yn Llys y Goron Yr Wyddgrug gan y niwrolawfeddyg pediatrig, Dr Jayaratnam Jayamohan, fu'n archwilio'r anaf i ymennydd Ethan yn dilyn ei farwolaeth.

Wrth roi tystiolaeth drwy gyswllt fideo, dywedodd Dr Jayamohan fod yna arwyddion o ran ystum corff Ethan allai awgrymu anaf i'r ymennydd.

Wrth ddefnyddio dull o fesur comas, dywedodd y tyst arbenigol fod sgôr Ethan yn isel iawn "ac yn cael ei gyfrif yn swyddogol fel bod mewn coma", gan ychwanegu y byddai wedi mynd i goma "fwy neu lai yn syth".

Shannon Ives
Disgrifiad o’r llun,

Mae Shannon Ives wedi'i chyhuddo o achosi neu ganiatáu marwolaeth plentyn, a chreulondeb tuag at blentyn

Dywedodd Dr Jayamohan fod Ethan "yn anemaidd... mae hyn yn rhannol yn adlewyrchu'r ffaith bod yna waedu yn ei ben".

Cafodd Ethan ei gludo i Ysbyty Plant Alder Hey yn Lerpwl yn ddiweddarach, lle cafodd "cleisiau niferus" eu canfod ar ei gorff.

Roedd yna gynllun i geisio symud y gwaed a'r hylif o ochr dde ei ymennydd, ond er bod meddygon eisiau gwneud popeth posib i'w achub "yn anffodus roedd popeth yn ei erbyn ar y pwynt yma", meddai'r llawfeddyg.

Yn ddiweddarach penderfynwyd na ddylid parhau ag unrhyw lawdriniaeth bellach, a chofnodwyd bod Ethan wedi marw ar Awst 16, 2021.

Wrth ddadansoddi sgan CT i'r rheithgor dywedodd Dr Jayamohan fod yna "annormaledd clir" o fewn penglog Ethan a bod y sgan yn "frawychus iawn".

Clywodd y rheithgor bod hen waed i'w weld ar yr ymennydd, oedd yn deillio'n ôl "rai wythnosau."

Yvhwanegodd Dr Jayamohan fod meddyg arall wedi dadansoddi'r canlyniadau, ac wedi dod i'r casgliad bod yna waed ffres oedd yn llai na deuddydd oed.

"Mae hynny'n dystiolaeth bod yna o leiaf ddau achos gwahanol o waedu yna," meddai.

Pan ofynnwyd gan yr erlynydd a allai yna fod fwy o waedu, fe atebodd: "Gallai."

'Tystiolaeth o ymosodiadau dros gyfnod hir o amser'

Wrth gyfeirio at anaf pen Ethan, dywedodd Dr Jayamohan fod yna ddau achos posib - y cyntaf, meddai, oedd gwrthdrawiad neu "gyswllt corfforol" fel dwrn, llaw neu ben-glin, neu wrthrych, a'r ail oedd cael ei "ysgwyd yn galed".

"Dwi'n credu bod yna dystiolaeth bod Ethan wedi dioddef nifer o ymosodiadau... dros gyfnod hir o amser," meddai.

Roedd hefyd wedi gweld lluniau CCTV o gartref y teulu Ives, oedd yn dangos Ethan yn cerdded.

Dywedodd, os oedd pobl yn simsan ar eu traed, y gallen nhw gerdded gyda'u coesau ar led er mwyn cael mwy o sefydlogrwydd.

"Mae Ethan yn cerdded gyda'i goesau ychydig ar led," meddai, "dwi'n credu bod hyn yn dystiolaeth bod ganddo eisoes rywfaint o anafiadau i'w ymennydd".

Dywedodd y gallai'r lluniau fideo yr oedd wedi eu gweld, awgrymu bod Ethan wedi bod mewn 'amgylchedd annormal' am gyfnod hir.

"Mae ganddo fwy nag anaf i'r pen... mae mewn amgylchedd sydd wedi achosi iddo fod yn swil a thawedog," meddai.

Wrth gael ei groesholi gan fargyfreithiwr ar ran Michael Ives, fe gytunodd Dr Jayamohan y gallai ail-waedu o hen anaf ddigwydd o ganlyniad i weithgaredd ar y trampolîn. Fe gytunodd hefyd y gallai ail-waedu niferus gynyddu'r pwysau ar yr ymennydd.

Pan gafodd ei groesholi gan fargyfreithiwr ar ran Kerry Ives, fe gytunodd y gallai'r hen waed ddeillio'n ôl fwy na 10 wythnos.

Clywodd y llys am ddigwyddiad blaenorol pan gafodd Ethan ei gymryd allan o'i grud a'i ollwng gan blentyn arall.

Pan ofynnwyd iddo a allai cael ei daflu i grud achosi anaf, a symptomau eraill, dywedodd Dr Jayamohan fod hynny yn bosib.

Pan ofynnwyd wedyn a allai'r hyn a achosodd i Ethan syrthio i'r llawr ar 14 Awst 2021 fod wedi deillio o gymhlethdodau yn ymwneud â hen achos o waedu, dywedodd 'na'.

Mae'r achos yn parhau.

Pynciau cysylltiedig