She Ultra yn dechrau sgwrs am iechyd merched

Esyllt gyda Liz McColgan - y rhedwr Olympaidd a llysgennad She Ultra
- Cyhoeddwyd
Ar 12 Ebrill bydd 1,800 o ferched yn cerdded neu'n rhedeg cwrs 50 cilometr ym Mhen Llŷn i godi arian a chodi ymwybyddiaeth o elusennau canser sy'n effeithio merched.
Dyma ail flwyddyn 'She Ultra' a ddenodd dros 550 o ferched y llynedd i'r digwyddiad rhedeg ultra benywaidd cyntaf erioed.
Daeth y syniad ar ôl i drefnydd y digwyddiad, Huw Williams, gael diagnosis o ganser yn ystod y pandemig.
Ac mae Huw wedi ysbrydoli'r meddyg teulu, Esyllt Llwyd, i fod yn un o'r meddygon wrth law yn ystod y diwrnod.
"Wnes i gyfarfod yr un a'r unig Huw Williams yn Ras yr Wyddfa 2023; o'n i newydd gwblhau cwrs arbennig adeg yna i farsielu mewn digwyddiadau chwaraeon a ges i fy swyno gan Huw – am ei angerdd at y She Ultra a'i weledigaeth o am sgôp She Ultra i'r dyfodol – wedyn mi o'n i on board o'r amsar yna ymlaen," eglurodd Esyllt ar raglen Aled Hughes, Radio Cymru.
Y weledigaeth
Gweledigaeth Huw yw bod y tîm sy'n cefnogi'r rhedwyr – y llysgenhadon, y gwirfoddolwyr a'r tîm iechyd a lles i gyd yn ferched – rhywbeth sy'n rhoi gwefr i Esyllt:
"Dwi'n ddoctor ers bron i 30 mlynedd 'wan a dwi'n GP yn Waunfawr a Llanrug a mae jest yn neis gallu 'neud wbath fel hyn – hollol wirfoddol ydi o, ond mae o'n rhoi rhyw buzz i rywun."
Bu Esyllt yn feddyg wrth law yn y She Ultra cyntaf y llynedd, ac mae cymryd rhan fel meddyg ar y diwrnod yn ei boddhau:
"Dwi'n cerddad lot ond sgen i'm byd o gwbl i ddeud wrth redag, felly pam 'nath Huw ofyn i fi llynedd 'wyt ti mewn?', roedd o'n joban ddipyn haws i fi fod yn ddoctor ar y She Ultra nac athlete," meddai

Huw Williams - trefnydd a sylfaenydd She Ultra
Beth sy'n unigryw am y She Ultra yw ei fod yn ddigwyddiad sy'n rhoi cyfle i ferched o bob lefel ffitrwydd i gymryd rhan, o'r athletwyr profiadol i rai sy'n dymuno ei gerdded yn hamddenol.
"Mae'r holl beth yn arloesol," meddai Esyllt. "Yn y ffordd mae o'n ymwneud â chefnogi cyflyrau canser merched, yr hel arian, y digwyddiad ei hun.
"Mae o wir yn blatfform perffaith i rymuso merched, ac o ran fi yn bersonol yn blatfform perffaith i hybu gwybodaeth meddygol, hybu arferion iechyd da ac mae yna jest y vibe cŵl 'na am y She Ultra."
"Mi oedd yr un cynta' llynadd yn arbennig iawn – aeth o'n wych a tro yma mae gynnon ni deirgwaith gymaint o athletwyr felly mae o am fod ar scale hollol wahanol.
"Mi ydan ni wedi cynllunio mor ofalus – gynnon ni gymaint mwy o wirfoddolwyr, swyddogion, tîm iechyd a lles, mwy o feddygon, a mi ydan ni wedi bod yn cael cyfarfodydd briffio rheolaidd i 'neud yn siŵr fod bob dim mewn lle i gadw pawb yn saff."

Rhai o redwyr She Ultra llynedd
Dechrau sgwrs am gyflyrau sy'n effeithio merched
Rai wythnosau yn ôl, a hynny'n arwain at ddiwrnod y She Ultra, fe rannodd Esyllt fideo ar dudalen Facebook Pen Llŷn Ultras yn addysgu merched ar sut i archwilio eu bronnau, fel rhan o ymgyrch y digwyddiad.
Erbyn hyn mae dros 40,000 o bobl wedi gwylio'r fideo, ac mae Esyllt "wedi ei sobreiddio" ar ôl i'w ffrind ac un o wirfoddolwyr tîm meddygol y She Ultra ffeindio lwmp yn ei bron ar ôl dilyn cyngor Esyllt.
"Mae'r holl beth wedi'n cyffwrdd ni yng nghymuned She Ultra," meddai Esyllt. "Mae Fiona rŵan wedi creu fideo ei hun i godi ymwybyddiaeth ac mi gafodd lawdriniaeth i dynnu canser o'r fron wythnos dwytha. Mae hi'n gwneud yn grêt – yn amlwg mae wedi bod yn ddatblygiad anodd iawn ac annisgwyl."
Er bod diagnosis Fiona wedi bod yn ergyd, mae'n dangos yr angen am ddigwyddiadau sy'n codi ymwybyddiaeth ac yn dechrau sgwrs am gyflyrau iechyd sy'n effeithio merched:
"Mae'n ddatblygiad i'n sobreiddio ni ond hefyd i roi ryw angerdd ychwanegol i weledigaeth She Ultra. Mae agwedd Fiona mor arbennig o bositif a cry' – dwi'n teimlo bo' ni mewn rhyw ryfal iach iawn i gwffio'r canser a mae yna deimlad rhyfeddol o bwerus o gwmpas She Ultra."

Esyllt a Fiona
Y diwrnod mawr
Beth fydd trefn Esyllt a'i thîm meddygol ar y diwrnod mawr?
"Fydda i'n cael gwely cynnar nos Wenar a wedyn codi cyn cŵn Caer fora Sadwrn, setio'r babell feddygol i fyny ym Mhwllheli a bod yn barod ar y linell gychwyn cyn chwech y bore.
"Dwi efo ryw fan sy'n actio fel ambiwlans ar y diwrnod – mae bob dim yn ffitio mewn iddi – dwi'n mynd rownd y gorsafoedd cymorth i gyd a gwneud yn saff fod pawb yn teimlo fod y gefnogaeth yna a fod pawb yn hapus.
"'Dan ni'n barod am be' bynnag ddaw a gobeithio y byddan nhw'n bethau bach – problemau traed, strains... ond hefyd bod yna i ysgogi yr athletwyr."
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd10 Chwefror
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd22 Ionawr