Gwerthu propiau 'I'm a Celeb' er mwyn adnewyddu Castell Gwrych

Nod Rhiannon a'r tîm yw adnewyddu'r castell er mwyn arddangos ei hanes unigryw
- Cyhoeddwyd
Mae castell yng ngogledd Cymru, a ddaeth yn gartref dros dro i'r rhaglen deledu boblogaidd 'I'm A Celebrity... Get Me Out of Here!', yn defnyddio ei gysylltiadau â'r gyfres i helpu codi arian er mwyn adfer y safle.
Mae'r tîm sy'n arwain y gwaith yn gobeithio gweld Castell Gwrych, ger Abergele, yn dychwelyd i'w gyflwr gwreiddiol yn dilyn degawdau o ddirywiad.
Yn ôl ymddiriedolaeth y castell, cafodd llond llaw o bropiau a gwisgoedd eu gadael ar ôl wedi i'r gwaith o ffilmio'r ail gyfres yno yn 2021 ddod i ben.
Maen nhw bellach wedi penderfynu arwerthu rhai o'r eitemau, gyda'r blwch ffôn coch a welwyd yn y gyfres, yn ogystal â llong ofod John Lewis - a oedd hefyd yn ymddangos ar y rhaglenni - wedi eu gwerthu'n barod, trwy wefan arwerthu ar-lein.
- Cyhoeddwyd19 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd4 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd27 Awst 2020
"Y nod yw, ie i wneud ychydig o arian, ond hefyd i glirio eitemau sydd wedi bod allan ac yn cymryd lle ers tro, ond hefyd i roi'r cyfle i bobl cael rhan o'r castell a'i hanes," eglurodd Rhiannon Petrau, Rheolwr Adloniant a Marchnata'r Castell.
"Mae rhan fwya'r eitemau ar werth, ac mae'r blwch ffôn wedi gwerthu i rywun lleol sy'n grêt," meddai.
"Ond gobaith ni hefyd yw cadw ambell eitem ac integreiddio nhw i'r arddangosfeydd yn y pendraw gan ddangos bo' nhw'n rhan o hanes y castell."

Mae'r blwch ffôn oedd ar y rhaglen wedi gwerthu i rywun lleol am £1,500
Gwerthodd y blwch ffôn am tua £1,500 a'r llong ofod am tua £500. Mae dwy 'orsedd' a ddefnyddiwyd yn y rhaglen hefyd ar gael i'w prynu.
Mae angen i'r ymddiriedolaeth wneud mwy o le er mwyn dechrau ar y gwaith o adfer rhannau o'r strwythur.
Ar ôl codi £3,000,000 trwy grantiau, bydd gwaith yn dechrau yn y flwyddyn newydd i ailosod y lloriau a'r to ar dros 75% o'r castell.
Unwaith y bydd y gwaith hwnnw wedi'i gwblhau a bod y castell, unwaith eto, yn dal dŵr, gall yr ymddiriedolaeth ddechrau edrych ar sut i adfer yr ystafelloedd tu mewn.
ITV 'wedi cychwyn y gwaith adnewyddu'
Daw'r buddsoddiad newydd ar ben yr arian a fuddsoddodd ITV yn yr adeilad bum mlynedd yn ôl.
"Fel rhan o'r cytundeb gydag ITV roedd rhaid iddyn nhw wario arian ar y castell i'w atgyweirio ac adnewyddu," meddai Rhiannon.
"Roedd rhan fwya'r arian wedi cael ei ddefnyddio i wneud y castell yn ddiogel achos doedd ITV ddim eisiau i'r celebs orfod gwisgo het diogelwch trwy gydol y gyfres.
"Nhw felly oedd wedi cychwyn y gwaith adnewyddu, 'da ni'n gobeithio cymryd o gam ymhellach."

Mae Capel Gwrych wedi'i adnewyddu'n llawn ac wedi'i addurno i ddangos sut y byddai wedi edrych 100 mlynedd yn ôl
Ar hyn o bryd dim ond un ystafell - yr hyn a fu gynt yn Gapel Gwrych - sydd wedi'i adfywio'n llawn i edrych fel yr oedd yn ystod cyfnod Winifred, Iarlles Dundonald, yn byw ym mhlasty'r castell dros 100 mlynedd yn ôl.
Ond bydd y flwyddyn a hanner nesaf yn gam enfawr ymlaen yn y broses o ddod â safle cyfan Gwrych yn ôl i'w ogoniant blaenorol.
"Bydd y to a'r lloriau'n cael eu hailwneud yn oddeutu 75% o'r castell," meddai Mark Baker, cadeirydd yr ymddiriedolaeth.
"Felly, ymhen dwy flynedd, bydd pawb yn gallu cerdded o amgylch fflatiau'r wladwriaeth eto, rhywbeth sydd heb fod yn bosib ers dechrau'r 1980au, mae'n debyg."
Mae disgwyl i'r gwaith adfer gymryd o leiaf degawd i'w gwblhau.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.