Beth mae pobl eisiau gweld yn y gyllideb?

Bydd y canghellor Rachel Reeves yn cyhoeddi'r gyllideb yn Nhŷ'r Cyffredin amser cinio ddydd Mercher
- Cyhoeddwyd
Mae nifer yn aros yn eiddgar i glywed y canghellor Rachel Reeves yn darllen ei chyllideb yn Nhŷ'r Cyffredin ddydd Mercher.
Ond ymhell o Lundain, mae trigolion yng Nghwm Tawe yn gobeithio gweld "gonestrwydd" gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, wrth i brisiau nwyddau "fynd lan a lan".
Mae Ms Reeves eisoes wedi awgrymu ei bod yn ystyried cynyddu trethi a thorri gwariant.
Mae yna hefyd sôn y bydd yn cael gwared â'r cap budd-dal dau blentyn.
Yn ôl y canghellor mae angen gwneud "dewisiadau angenrheidiol" ar gyfer yr economi.

Mae tlodi yn realiti i nifer yn ardal Pontardawe, meddai Leanne Walker
Yn nhref ôl-ddiwydiannol Pontardawe mae dyddiau'r gwaith glo yn atgof pell, a thlodi yn realiti i nifer yn ôl Leanne Walker, sy'n rhedeg clwb ieuenctid.
"Mae'r bobl ifanc sy'n dod [yma], mae lot ohonyn nhw ddim yn cael bwyd gytre' felly ni'n rhoi bagiau bwyd iddyn nhw.
"Ni hefyd yn rhoi dillad iddyn nhw achos mae rhieni jest ddim yn gallu fforddio prynu nhw.
"Mae pobl yn amlwg yn gofidio gyda'r Nadolig a beth maen nhw'n mynd i gael."

Mae'r cigydd Julie Jones wedi rhybuddio cwsmeriaid bod pris twrci "lawer uwch" na'r llynedd
Ar drothwy'r gyllideb mae nifer o drigolion y dref yn gofidio am brisiau nwyddau.
Gyda'r Nadolig ar y gorwel, mae'r cigydd Julie Jones yn dweud bod prisiau "popeth" wedi mynd lan - o filiau ynni i ddeunydd pecynnu.
"Mae twrci wedi mynd lan gymaint, mae'n rhaid i ni ddweud wrth bobl sy'n ordero eu bod nhw lot fwy na blwyddyn diwethaf.
"Mae beef wedi mynd lan, mae lamb yn absolutely ridiculous."

Yn ôl Alison Thomas mae prisiau cynyddol yn her i deuluoedd yn Sgiwen
Ychydig filltiroedd i lawr y cwm mae pentref glofaol Sgiwen, lle mae Alison Thomas wedi rhedeg cylch Ti a Fi ers 12 mlynedd.
Dywedodd bod "pocedi o amddifadedd" i gael yn yr ardal.
"Mae hi'n anodd i rieni, mae Nadolig yn dod a mae rhieni moyn rhoi anrhegion ac maen nhw'n poeni eu bod nhw ffaelu 'neud e."

"Mae angen dweud pethau fel y maen nhw, a dim mynd nôl," meddai Tracey Rees
Yn ôl Tracey Rees, 52, o Wauncaegurwen, dydy gwleidyddion "yn gwrando dim" ar ofidion "pobl arferol".
"Maen nhw'n mynd i ffwrdd o'r maniffesto a'n gweud rhywbeth tra'n gwneud rhywbeth arall. Sai'n trusto neb."
Fe wnaeth y Blaid Lafur ddweud na fydden nhw'n codi trethi yn eu maniffesto.
Ond mae yna awgrym fod llywodraeth Keir Starmer yn ystyried pob math o ffyrdd i godi arian.
Mae Tracey eisiau gweld "gonestrwydd" yn y gyllideb.
"Mae angen dweud pethau fel y maen nhw, a dim mynd nôl."

Mae Gwyn Evans yn dymuno gweld Rachel Reeves yn targedu pobl gefnog yn y gyllideb
Mae Gwyn Evans, 79, wedi byw yng Nghlydach am dros 40 mlynedd, ac yn ei ôl ef, does "dim digon yn mynd i gynghorau lleol".
"Mae pob un ohonom ni yn cwyno am council tax a pethau fel 'na, ond mae'n rhaid i'r cyngor gael arian i wneud pethau."
Ychwanegodd nad yw'n sicr a ydy Rachel Reeves yn "siŵr beth mae hi ei hun moyn gwneud".
"Llynedd gyda'r heating allowance roedd y penderfyniad i dynnu arian o'r henoed ddim yn cydfynd gydag ethos Llafur.
"A mae hi wedi gwneud pethau fwy nag unwaith lle dwi'n meddwl mae hi wedi pigo'r targedau hawdd, a ddim wedi mynd ar ôl y bobl sydd gyda'r arian."

Gobaith Catrin Thomas yw bydd y canghellor yn "cefnogi busnesau bach"
Yn ôl Catrin Thomas, perchennog caffi Pantri yng Nghlydach, dylai'r canghellor roi digon o gefnogaeth i fusnesau bach, yn ogystal â galluogi cwsmeriaid i wario.
"I bethau fynd lan, mae'n rhoi lot fwy o straen ar ein cwsmeriaid - mae hynny'n poeni fi achos heb nhw does dim busnes, a ni'n dibynnu lot ar bobl i ddod yn ddyddiol.
"Fi eisiau'r llywodraeth i sylweddoli pa mor bwysig yw busnes bach i gymdeithas -nage jest fel lle i ddod, ond hefyd i gadw'r economi i fynd."

"Fi ydy'r genhedlaeth gyntaf o'r teulu hwn sy'n trio cynhyrchu bwyd yn erbyn ewyllys y llywodraeth," meddai Gethin Havard
Y dreth etifeddiant yw prif bryder Gethin Havard, sy'n ffermio yn ardal Pontsenni yn y Bannau.
Dywedodd ei fod yn "bron yn siŵr" y bydd rhaid iddo werthu tir pan ddaw'r newidiadau i'r dreth i rym ym mis Ebrill.
"Mae cefn gwlad yn mynd i newid am byth ac mae'r cymunedau yn mynd i fynd yn rhacs," meddai.
Ychwanegodd: "Mae hi'n amser pryderus iawn i ni gyd, a galla i ddweud mai fi ydy'r genhedlaeth gyntaf o'r teulu hwn sy'n trio cynhyrchu bwyd yn erbyn ewyllys y llywodraeth."
Costau byw: 'Biliau a bwyd yn mynd yn ddrytach a drytach'
- Cyhoeddwyd12 Tachwedd
Angen newid y ffordd y mae Cymru'n cael ei hariannu - Eluned Morgan
- Cyhoeddwyd15 Mehefin
Mam yn ystyried gwerthu ei thŷ o achos costau gofal plant
- Cyhoeddwyd15 Tachwedd 2023
Yn ôl Guto Ifan o Ganolfan Llywodraethiant Cymru mae'r addewidion a wnaed adeg yr etholiad cyffredinol wedi "clymu dwylo'r llywodraeth" wrth i amodau economaidd newid.
"Wnaethon nhw ddweud wrth etholwyr y flwyddyn diwethaf y byddai twf economaidd yn ddigonol ar gyfer arbed ni o'r twll yma," meddai.
"Oedd e fel tase cael gwared o'r Ceidwadwyr a'r ansicrwydd gwleidyddol yna yn ddigon i ddadwneud y problemau mae economi Prydain ynddi."
Ychwanegodd ei fod yn credu fod problemau economi a gwleidyddiaeth Prydain "yn mynd yn ddyfnach na hynny".
"Beth ni wedi gweld mewn gwirionedd dros y 18 mis diwethaf yw mwy o ansicrwydd polisi wrth fynd o un digwyddiad cyllidol i'r nesaf."
Bydd y canghellor yn cyhoeddi'r gyllideb yn Nhŷ'r Cyffredin tua 12:30 ddydd Mercher.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.