Murlun o seren tîm pêl-droed Cymru Jess Fishlock yn creu hanes

Murlun Jess Fishlock ar gae pel-droedFfynhonnell y llun, Orchard Media
  • Cyhoeddwyd

Mae murlun wedi ei ddaddorchuddio ar gae pêl-droed yng Nghaerdydd i ddathlu seren tîm menywod Cymru, Jess Fishlock.

Hwn yw'r murlun cyntaf cae pêl-droed llawn yn Ewrop o bêl-droediwr benywaidd.

Ar hyn o bryd mae'r chwaraewr canol cae yn paratoi gyda carfan Cymru ar gyfer rowndiau trefynol Euro 2025 fydd yn dechrau yn y Swistir ym mis Gorffennaf.

Cafodd y gwaith celf, a gafodd ei ddylunio gan Regan Gilflin a'i greu gan stiwdio UNIFY Caerdydd, ei ddadorchuddio mewn seremoni arbennig ar faes pêl-droed Sblot yn y brifddinas.

Cae pel-droed FishlockFfynhonnell y llun, Orchard Media

Mae'r gwaith yn dathlu cyfraniad Jess Fishlock i'r tîm cenedlaethol. Mae hi wedi ennill y nifer fwyaf o gapiau dros ei gwlad yn ogystal â sgorio'r nifer fwyaf o goliau.

Mae'r murlun hefyd yn cydnabod ei gwaith arloesol dros ferched a phobl LHDTC+.

Doedd Fishlock ei hun ddim yn bresennol yn y dadorchuddio gan ei bod hi'n ymarfer gyda charfan Cymru, ond dywedodd ei bod hi yn falch o'r gwaith celf ohoni yn Sblot, ei hardal genedigol.

"Mae'n anrhydedd enfawr i gynrychioli Cymru a bod yn rhan o furlun cyntaf o'i fath sy'n dathlu ein hymddangosiad hanesyddol yn yr Ewros yr haf yma.

"Dwi'n gobeithio y bydd yn ysbrydoli bechgyn a merched ifanc i syrthio mewn cariad â'r gêm a mynd ymlaen i gynrychioli'r wlad arbennig yma un dydd, fel y bues i'n ddigon ffodus i wneud."

Regan Gilflin
Disgrifiad o’r llun,

Regan Gilflin sydd wedi arwain y prosiect, gyda'r artistiaid gweledol Yusuf Ismail a Shawqi Hasson

Cafodd y murlun ei ddylunio gan Regan Gilflin, artist sydd yn aml yn ymdrin â hunaniaeth a diwylliant ac yn tynnu sylw at gymunedau sydd wedi'u tangynrychioli yn y gorffennol.

"Mae creu'r murlun yma wedi bod yn daith anhygoel", meddai.

"Dwi'n caru pêl-droed ers pan o'n i'n fach ac mae Jess wedi cael effaith mor enfawr, nid yn unig ar y gêm, ond hefyd yn helpu i wneud i bobl deimlo eu bod yn cael eu gweld a'u gwerthfawrogi. Pob lwc Cymru!"

Mae'r murlun yn rhan o raglen ddiwylliannol swyddogol Llywodraeth Cymru ar gyfer y bencampwriaeth, ar y cyd â Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a Chymdeithas Bêl-droed Cymru.

Dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas Bêl-droed Cymru: "Fel y murlun cyntaf o chwaraewraig bêl-droed benywaidd ar gae yn Ewrop, mae'n garreg filltir o ran gwelededd, perthyn a balchder, ac yn dangos i bob plentyn fod ganddyn nhw le yn y gêm."