Morgan yn cymharu ei dylanwad ar Starmer i'w dylanwad ar Trump
- Cyhoeddwyd
Mae Prif Weinidog Cymru wedi cymharu ei dylanwad ar Brif Weinidog y DU gyda’i dylanwad ar Donald Trump.
Wrth siarad â rhaglen Y Byd yn ei Le ar S4C dywedodd Eluned Morgan na ddylid “gorddweud maint fy nylanwad i” ar Keir Starmer.
Pan ofynnwyd iddi pam na fyddai’n galw am ailystyried toriadau Syr Keir i daliadau tanwydd y gaeaf, dywedodd y gallai hi “alw ar Donald Trump i wneud pethau hefyd".
Dywedodd Plaid Cymru fod y sylwadau yn “warthus a phryderus” tra bod y Ceidwadwyr yn dweud nad yw’r sylwadau’n syndod.
Yn ôl amcangyfrif Llywodraeth y DU, bydd penderfyniad Keir Starmer i dorri taliadau tanwydd y gaeaf i’r mwyafrif o bensiynwyr yn cael effaith ar 400,000 o gartrefi yng Nghymru.
Bydd y newid yn golygu mai dim ond y pensiynwyr hynny sy’n derbyn credyd pensiwn neu fudd-daliadau eraill fydd nawr yn gymwys am y taliad i helpu gyda chostau cynhesu’r gaeaf, sy’n werth hyd at £300.
Wrth ymateb i feirniadaeth o’r polisi hwnnw a’i effaith ar bensiynwyr yng Nghymru, dywedodd Morgan y byddai hi’n “canolbwyntio ar yr hyn sydd o fewn fy ngofal i".
"Mae 'na bethau dwi’n methu effeithio arnyn nhw," meddai.
Pan ofynnwyd iddi pam na allai alw ar Keir Starmer i ailystyried y polisi, dywedodd Morgan: “Gallen i alw ar Donald Trump i wneud pethe hefyd.”
O’i holi oni fyddai ganddi fwy o ddylanwad ar gyd-arweinydd yn y blaid Lafur na chyn-Arlywydd yr Unol Daleithiau, dywedodd Morgan fod ganddi “berthynas nawr gyda Keir Starmer".
"Dim ond unwaith fi wedi cwrdd ag e felly gadewch i ni beidio gorddweud maint fy nylanwad i.”
Yn ôl arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd, Andrew RT Davies, does “dim syndod mai prin yw dylanwad Prif Weinidog Cymru dros Brif Weinidog Prydain".
"Dros y 25 mlynedd ddiwethaf mae Llafur yng Nghymru wedi bod yn astudiaeth achos mewn sut i beidio llywodraethu, felly does dim llawer o bobl fyddai’n troi at Brif Weinidog Cymru am gyngor," meddai.
“Ond ar faterion pwysig, fel y penderfyniad anfaddeuol i dorri taliadau tanwydd y gaeaf, yn anffodus, mae Starmer a Morgan ar yr un dudalen ta beth.”
Dywedodd Aelod Plaid Cymru o’r Senedd, Sioned Williams, ei bod hi’n “warthus a phryderus clywed hi’n gwadu bod ganddi ddylanwad”.
“Dro ar ôl tro, mae’n prif weinidog newydd yn gwrthod derbyn ei bod hi angen sefyll lan i San Steffan i warchod buddiannau pobl Cymru, er iddi ddweud droeon y byddent yn elwa o gael dwy lywodraeth Lafur bob pen i’r M4.”
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Medi
- Cyhoeddwyd18 Medi