'Stigma anhwylder personoliaeth wedi arwain at gael fy nhrin yn wael'

Roedd Jessica Matthews yn 21 oed pan gafodd ddiagnosis o anhwylder personoliaeth ffiniol (BPD)
- Cyhoeddwyd
I rai, gall diagnosis o anhwylder personoliaeth (personality disorder) arwain at driniaeth a dealltwriaeth.
Ond mae eraill wedi dweud bod cael y diagnosis wedi arwain at stigma, a chael ei thrin yn wael ac yn wahanol.
Roedd Jessica Matthews yn 21 oed pan gafodd ddiagnosis o anhwylder personoliaeth ffiniol (BPD).
Dywedodd ei bod wedi cael ei gwrthod am yswiriant bywyd, ei thrin yn wael yn yr ysbyty, a bod pobl wedi ei thrin yn wahanol oherwydd ei diagnosis.
- Cyhoeddwyd20 Ionawr
- Cyhoeddwyd15 Ionawr
- Cyhoeddwyd14 Ionawr
Cafodd Jessica ei diagnosis tra'n cael trafferth gyda'i hiechyd meddwl wrth astudio nyrsio yn y brifysgol.
Er ei bod yn mwynhau ei chwrs, dywedodd ei bod yn cael anawsterau wrth ddelio â'r straen.
"Ro'n i'n amau fy ngallu ac roedd hynny'n troi'n ofn methu," meddai.
"Dechreuais i gael pyliau o banig, a ro'n i'n teimlo'r byd yn pwyso i lawr arna i."
Ar ôl cyfnod o fynd yn ôl ac ymlaen at ei meddyg teulu, dechreuodd Jessica feddwl am wneud niwed i'w hun.
"Ro'n i wir yn teimlo mai'r unig ffordd i atal y boen oedd dod â fy mywyd i ben.
"Ro'n i'n teimlo y byddai'r bobl o'm cwmpas a'r byd yn well hebddo i."
Yn dilyn y cyfnod yma cafodd ei rhoi mewn cysylltiad â'i thîm argyfwng lleol er mwyn cael ymgynghoriad.

Roedd Jessica yn obeithiol wedi iddi gael y diagnosis i ddechrau, cyn i bethau newid
Dywedodd Jessica: "Esboniais i beth oeddwn i'n feddwl oedd y problemau, fel y straen o fod yn fyfyriwr nyrsio ac ofn methu.
"Dim ond y math o deimladau cyffredinol mae pobl 21 oed yn eu teimlo."
Ond roedd y meddyg yn credu y gallai rhywbeth arall fod yn mynd ymlaen.
"Rhoddodd y meddyg lyfryn Mind o anhwylderau personoliaeth i mi, a dywedodd wrtha i am fynd adref a dewis yr un mwyaf perthnasol i fi.
"Roedd yn ymgynghoriad 20 munud gyda meddyg nad oeddwn i erioed wedi cyfarfod o'r blaen a dwi'n teimlo, pe bawn i wedi dewis unrhyw anhwylder personoliaeth arall o'r llyfryn, byddwn i wedi cael diagnosis hollol wahanol."
'Cafodd fy ngofid ei anwybyddu'
Ar ôl ychydig ddyddiau aeth Jessica yn ôl am apwyntiad gyda seicolegydd yn y tîm argyfwng, wnaeth gadarnhau diagnosis o anhwylder personoliaeth ffiniol.
I ddechrau, dywedodd Jessica ei bod yn obeithiol y gallai'r diagnosis ei helpu i gael y cymorth oedd ei angen arni.
Ond fe ddechreuodd hi wynebu stigma gan rai oedd yn ymwneud â'i gofal.
Yn ystod y cyfnod gwaethaf o ran ei hiechyd meddwl, treuliodd Jessica gyfnodau yn ôl ac ymlaen i'r ysbyty.
"Cafodd fy ngofid ei anwybyddu, ac fe gafodd meddyginiaeth ei ddal yn ôl oddi wrtha i gan weithwyr meddygol proffesiynol," meddai.
"Roedd pobl yn dweud yn rheolaidd 'mod i eisiau sylw ac nad oedd gen i unrhyw reswm i feddwl am hunanladdiad.
"Ro'n i'n teimlo fel doedd neb eisiau fy nghefnogi oherwydd fy anhwylder personoliaeth."

Mae Jessica bellach wedi llwyddo i gael gwared â'i diagnosis BPD
Yn 2017 fe wnaeth Jessica gwyno am ei thriniaeth i'w bwrdd iechyd lleol, sydd wedi newid enw a ffiniau ers hynny.
Dywedodd Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg, sydd bellach yn gyfrifol am ei gofal: "Mae pryderon Jessica am ei phrofiadau yn Ysbyty Tywysoges Cymru yn dyddio'n ôl cyn i'n bwrdd iechyd gael ei sefydlu.
"Fodd bynnag, rydym wedi gweithio'n agos gyda Jessica i ddysgu o'i phrofiadau, fel rhan o'n hymrwymiad i welliant parhaus mewn gwasanaethau iechyd meddwl, yn ein hysbytai ac yn y gymuned."
Dywedodd Bwrdd Iechyd Bae Abertawe - bwrdd iechyd Abertawe Bro Morgannwg gynt - bod "cyfrinachedd cleifion yn ein hatal rhag gwneud sylw ar achosion unigol".
'Stigma gyda'r label'
Mae Mind, un o elusennau iechyd meddwl amlycaf y DU, wedi clywed llawer o straeon tebyg i brofiadau Jessica.
Dywedodd swyddog gwybodaeth yr elusen, Rosie Weatherly: "Mae yna lawer iawn o stigma yn dod gyda'r label anhwylder personoliaeth ffiniol.
"Mae'r enw ei hun yn awgrymu bod rhywbeth sylfaenol o'i le ar bwy ydyn nhw ac y gall hynny ynddo'i hun wneud niwed.
"Mae pobl yn dweud wrthym nad ydyn nhw'n cael eu credu pan maen nhw'n siarad am eu profiadau, neu nad ydyn nhw'n cael mynediad at wasanaethau brys."
Ond, mae Rosie Weatherly hefyd wedi gweld effaith gadarnhaol cael diagnosis ar gleifion.
"I rai pobl mae clywed y geiriau neu gael y diagnosis yn foment o ryddhad.
"Mae'n esbonio pam maen nhw wedi bod yn ei chael hi'n anodd.
"Mae'n rhoi fframwaith iddynt helpu i fynegi eu hunain gyda'u ffrindiau, cyflogwyr ac mewn gofal iechyd."
Canlyniadau 'camarweiniol'
Ym mis Mehefin eleni, cafodd lythyr at yr Ysgrifennydd Iechyd yn galw am beidio defnyddio'r diagnosis i blant ei lofnodi gan gannoedd o weithwyr meddygol proffesiynol.
Roedd y llythyr yn tynnu sylw at ganlyniadau "camarweiniol" y label.
Ym mis Hydref, ar ôl blynyddoedd o frwydro yn erbyn ei diagnosis, fe lwyddodd Jessica i gael gwared arno o'r diwedd.
Mae hi nawr yn aros am asesiad awtistiaeth.
Os ydych chi wedi eich effeithio gan y pynciau dan sylw yn yr erthygl yma, mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael ar wefan BBC Action Line.