42% o blant anabl ddim yn gwneud chwaraeon tu allan i'r ysgol
- Cyhoeddwyd
Tydi 42% o blant anabl ddim yn gwneud unrhyw chwaraeon sydd wedi ei drefnu tu allan i’r cwricwlwm, yn ôl ffigurau gan Chwaraeon Anabledd Cymru.
Maen nhw felly'n galw am sicrhau fod gwersi chwaraeon yn yr ysgol yn addas a chynhwysol i bawb.
Un sefydliad sy'n cynnig croeso i unrhyw un ydy Clwb Pêl Fasged Cadair Olwyn Aberystwyth, ac mae’r clwb hefyd yn cynnig cyfle gwerthfawr i blant a phobl anabl i gymryd rhan mewn chwaraeon.
Un o’r rheiny yw Miller, sy’n 10 oed ac yn dod o Drefach Felindre yn Sir Gâr.
Cafodd Miller ei eni gyda chyflwr Spina Bifida ac mae wrth ei fodd gyda chwaraeon.
Mae’n dod i’r clwb yn Aberystwyth “achos mae’r gêm yn rili da ac mae pawb yn y clwb yn rili neis i fi”.
Gyda Miller a’i deulu yn teithio dros awr i ddod i’r clwb, mae’n dweud bod “dim lot o glybiau rownd fi so mae rhaid i fi ddod fan hyn”.
Mae rhieni Miller - Abby a Joshua Harris - yn falch iawn o’r cyfleoedd mae eu mab yn ei gael gyda’r clwb, a’r ddau hefyd yn ymuno yn y chwarae.
Yn ôl Abby: “Yn ysgol ma' ffrindie fe yn dda yn chwarae pêl droed, ond fan hyn, Miller yw y pro ac ma' fe just yn rhoi hyder iddo fe”.
Mae Joshua yn dweud bod dod i’r clwb “a gyd o teulu fe yn chwarae gyda fe yn 'neud byd o wahaniaeth, ma' fe’n dod yn fyw”.
Yn ôl Tom Rogers o Chwaraeon Anabledd Cymru, os nad yw plant gydag anableddau yn gwneud chwaraeon yn yr ysgol yna “mae ‘na gymaint o blant yn gwneud dim”.
Dywedodd bod “60% o staff ysgol yn teimlo bod nhw ddim efo adnoddau i gefnogi nhw i gynnwys pawb”.
Gydag adnoddau a hyfforddiant am ddim ar wefan Chwaraeon Anabledd Cymru i helpu ysgolion wneud eu gwersi chwaraeon yn fwy cynhwysol, mae Tom yn dweud mai’r “step nesa’ felly ydy sut da' ni’n cael y wybodaeth yna allan i helpu nhw addasu”.
Mae Kai Hamilton-Frisby wedi cynrychioli Cymru mewn Pêl Fasged Cadair Olwyn, ac mae bellach yn astudio chwaraeon ym Mhrifysgol Met Caerdydd.
Doedd cymryd rhan mewn chwaraeon ddim wastad mor hawdd iddo, ond trwy gyfathrebu a chydweithio gyda’i athrawon, daeth newid i’w fyd, gan fynd ymlaen i gwblhau TGAU a Lefel A yn y pwnc.
“Yn wreiddiol doedd y gwersi chwaraeon ddim yn hygyrch a chynhwysol, ond pan es i at yr ysgol, roedden nhw wedi gwneud llawer o newidiadau,” meddai.
Yn ôl Kai: “Roedd e’n grêt achos am y tro cyntaf yn yr ysgol, doeddwn i ddim yn teimlo'n wahanol.
“Ti byth yn gwybod, gall y plentyn anabl sydd methu cymryd rhan mewn gwersi chwaraeon yn yr ysgol, fod yn athletwr Paralympaidd yn y dyfodol, so mae’n bwysig rhoi cyfle i bawb a trio'n gorau i 'neud yn siŵr bod y cyfleoedd yna.”
Yn ôl Lee Coulson, sy’n hyfforddi clwb pêl fasged cadair olwyn Aberystwyth “dydy hyn ddim yn fai ar neb, ond mae’n rhaid i ni addysgu ein gilydd am fod yn gynhwysol”.
Ychwanegodd bod “pobl gydag anableddau yn medru cymryd rhan mewn sesiynau prif ffrwd, mae just angen dysgu sut i addasu’r sesiynau yna”.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae'r “cwricwlwm wedi’i gynllunio i fod yn gynhwysol ar gyfer pob dysgwr".
"Dylai ysgolion ddarparu amrywiaeth o chwaraeon a gweithgareddau y gall pob dysgwr o bob gallu gymryd rhan ynddynt."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Tachwedd
- Cyhoeddwyd10 Hydref
- Cyhoeddwyd18 Tachwedd