Galw am wahardd gwydr o dafarndai ar ôl digwyddiad 'hunllefus'

Disgrifiad,

Mae Emily Browne wedi siarad am ei phrofiad yn y gobaith y bydd yn arwain at newid

  • Cyhoeddwyd

Rhybudd: Gallai'r lluniau isod beri gofid i rai

Mae merch o Gaerdydd a gafodd anafiadau i'w phen wedi i rywun daflu gwydr tuag ati yn galw ar glybiau a thafarndai Cymru i ddefnyddio gwydrau plastig.

Dywedodd Emily Browne bod yr hyn a ddigwyddodd iddi yn Lloegr wrth iddi ddathlu ei phen-blwydd yn 18 yn 2022 wedi newid ei bywyd.

Mae hi'n byw gyda PTSD, iselder a theimladau o orbryder yn ddyddiol, ac yn cael sesiynau therapi ar ôl bod ar restr aros am flwyddyn a hanner.

Mae Clwb Ifor Bach yng Nghaerdydd wedi gwahardd gwydr ers degawd a dywed Emily y byddai'r effaith ar ddiogelwch cyhoeddus yn "anferth" pe byddai mwy yn eu dilyn.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Emily yn dathlu ei phen-blwydd yn 18 ar y noson cafodd hi ei hanafu

"Roeddwn i wedi mynd i Fryste i ddathlu fy mhen-blwydd yn 2020. Roedd hi'n gyfnod Covid ar y pryd ac roedd mwy o ryddid ar draws y ffin yn Lloegr," meddai Emily wrth Cymru Fyw.

"Roeddwn i mewn tafarn yn fy ffrog binc a thiara a thra'n bod ni yfed yr ail ddiod dyma fi'n clywed sŵn gwydr a theimlo cefn fy mhen yn wlyb a sylweddoli mai gwaed o'dd e.

"Roedd rhywun wedi taflu gwydr o'r ail lawr ac fe darodd e fy mhen i.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Roedd yn rhaid i Emily fynd i gael triniaeth yn yr ysbyty wedi'r digwyddiad

"Yn y tymor byr o'n i'n confused iawn, do'n i ddim yn deall beth oedd wedi digwydd. O'n i methu gweld yr anaf.

"O'n i'n ifanc iawn ac roeddwn wedi cael fy nghwmpasu gan bobl ifanc a neb mewn awdurdod i edrych ar fy ôl i.

"Dwi'n cofio teimlo yn bell i ffwrdd o deulu ac ro'n i'n ofnus a bu'n rhaid i fi fynd i gael staples yn yr ysbyty.

"Anghofia'i fyth y profiad o gael y gwydr allan o'm mhen – roedd e mor boenus."

'Teimlo'n fwy diogel yn Llundain'

Ddwy flynedd wedi'r digwyddiad dywed Emily ei bod yn pryderu am fynd allan - yn arbennig yng Nghymru gan ei bod "hi'n ymddangos bod mwy o glybiau a thafarndai yma yn defnyddio gwydrau a photeli gwydr".

"Dwi bellach yn fyfyriwr yn Llundain ac am ryw reswm yn teimlo'n fwy diogel yno gan bod hi'n ymddangos bod mwy o bouncers wrth ddrysau yn checko a ydy pobl yn cario gwydr ac mae mwy o dafarndai i weld yn defnyddio plastig.

"Mae'r effaith hirdymor o'r hyn ddigwyddodd i fi yn ofnadwy – dwi'n cael hunllefau, dwi methu cysgu – mae gen i insomnia difrifol a dwi wedi cael diagnosis o PTSD, iselder a gorbryder – dwi'n cael lot o panic attacks os dwi'n clywed sŵn gwydr ac mae yna ddagrau yn aml."

Ychwanegodd: "Dwi'n galw ar bob tafarn a chlwb i ddiogelu cwsmeriaid bob dydd o'r wythnos – nid ar nos Wener a nos Sadwrn yn unig ond bob nos o'r wythnos.

"Mae 'glasso' yn gallu lladd pobl.

"Mae angen atal pob risg sy'n ymwneud â gwydr a dwi'n credu ei bod yn ddyletswydd cyfreithiol a moesol ar dafarndai a chlybiau i wneud hynny.

"Sa'i mo'yn mynd i weld therapydd bob dydd o'r wythnos am weddill fy mywyd i a dwi ddim am i neb arall chwaith," ychwanegodd.

Disgrifiad o’r llun,

Mae staff Clwb Ifor Bach yn gwirio bagiau i sicrhau nad oes neb yn dod â gwydr i mewn i'r clwb

Fe wnaeth Clwb Ifor Bach roi'r gorau i ddefnyddio unrhyw wydr ddegawd yn ôl.

"Mae'n 'neud pethe yn llawer haws ac yn sicrhau nad yw pobl yn cael niwed o wydr," meddai Conor Isak, un o reolwyr y clwb.

"Mae hefyd yn haws o ran y glanhau ond y prif beth yw sicrhau nad oes yr un person yn cael niwed o wydr.

"Mae pobl meddw yn gallu cwympo gwydrau ar y llawr ac felly o ddefnyddio plastig fe allwn i fod yn sicr nad oes gwydr yn unlle.

"Ry'n ni hefyd yn defnyddio poteli plastig ac yn checo nad oes gwydr yn dod mewn i'r adeilad drwy siecio bagiau.

"Mae'r plastig yn polycarb ac mae'r cwpanau yn gallu cael eu hailddefnyddio – felly ni ddim yn creu gwastraff."

Ychwanegodd Emily Browne: "Pe bai pob tafarn a chlwb yn gwneud hyn fe fyddai'n cael effaith anferth ar ddiogelwch cyhoeddus."

Pynciau cysylltiedig