'Angen gwneud Caerdydd yn fwy diogel i fenywod'
- Cyhoeddwyd
"O'n i'n meddwl mod i'n mynd i farw."
Geiriau menyw ifanc oedd yn teimlo dan fygythiad wrth gerdded adref o noson allan yng Nghaerdydd gyda'i ffrindiau.
Yn ôl Nikita, myfyrwraig o India, roedd dyn wedi rhedeg tuag ati, cyn i ail ddyn ymyrryd, gan roi cyfle iddi ddychwelyd i'w chartref yn ddiogel.
Dywedodd Heddlu De Cymru bod mynd i'r afael â thrais a cham-drin yn erbyn menywod a merched yn "flaenoriaeth hir sefydlog", gan ychwanegu eu bod yn "cydnabod bod pryder ynglŷn â diogelwch personol a thrais mor fawr ag y bu erioed".
Dywedodd Cyngor Caerdydd ei bod yn bwysig cofio fod y brifddinas "ymysg y dinasoedd mwyaf diogel yn y DU".
Symudodd Nikita i Gaerdydd rai misoedd yn ôl er mwyn astudio yn y brifysgol.
Ond wedi'r digwyddiad dan sylw, mae hi bellach yn osgoi cerdded adref ar ei phen ei hun.
"Mae gen i allweddi yn sownd yn fy llaw bob tro gan fy mod yn meddwl y gallai wneud i mi deimlo'n fwy diogel," meddai Nikita.
Dywedodd nad oedd hi wedi rhannu ei phrofiad gydag unrhyw un, gan nad yw hi'n teimlo fod pobl yn "gofyn y cwestiynau cywir".
"Maen nhw'n gofyn i chi, 'pam oeddech chi allan mor hwyr â hynny?' neu 'beth oeddech chi'n ei wisgo?'.
Ychwanegodd fod yna dueddiad hefyd i geisio rhoi rhywfaint o fai ar y dioddefwr.
'Llawer mwy peryglus na llefydd eraill'
Yn ôl Rose, sy'n 26 oed, dyw Caerdydd ddim yn teimlo fel rhywle diogel i gerdded gyda'r nos.
"Rydw i bob amser yn mynd allan o fy ffordd i beidio bod ar fy mhen fy hun, hyd yn oed yn y bore bach mewn gwirionedd... Rwy'n effro iawn i risgiau byw mewn dinas fawr," meddai.
Fe symudodd Rose i Gaerdydd i weithio ar ôl treulio cyfnodau'n byw yn Llundain a Pharis.
Awgrymodd fod Caerdydd yn "llawer mwy peryglus na llefydd eraill", oherwydd bod y strydoedd wedi'u goleuo yn wael.
Er gwaethaf ei phryderon, mynnodd ei bod hi "wrth ei bodd" yn byw yn y ddinas.
"Rydych chi'n fodlon cwyno am rywbeth fel hyn oherwydd eich bod chi'n caru dinas ac rydych chi eisiau teimlo'n ddiogel ynddi."
Mae Lara, sy'n fyfyrwraig 23 oed yn y brifddinas, yn dweud bod aflonyddu yn broblem iddi hi, yn enwedig wrth fynd i redeg ar ffyrdd prysur.
"Dwi'n gallu teimlo'n anghyfforddus weithiau pan fi'n mynd mas i redeg," meddai.
Fel un a gafodd ei geni yn y ddinas, mae hi'n dweud ei bod hi'n teimlo'n ddiogel fel rheol, ond ei bod yn ymwybodol iawn o'r peryglon sy'n bodoli.
"Fi'n sicrhau bo' fi ddim yn gwisgo headphones, fel fy mod i'n gallu clywed, a fy mod i'n ymwybodol o'r hyn sydd o fy nghwmpas."
Dywedodd y grŵp ymgyrchu Love Your Period fod dros 70 o ferched wedi dod i Gaerdydd er mwyn bod yn rhan o orymdaith Reclaim The Night.
Yn ôl dirprwy gyfarwyddwr y grŵp ymgyrchu roedd y daith wedi ei threfnu "er mwyn codi ymwybyddiaeth o ddiogelwch merched yng Nghaerdydd".
Mae Alyssa Gully, sy'n 18 oed ac yn dod o'r brifddinas, yn dweud bod ymateb y cyhoedd "yn gadarnhaol mewn rhai agweddau" ond bod yna achosion o bobl yn bod yn "fygythiol" tuag at rai o'r merched yn y grŵp.
"Roedden nhw'n bygwth pobl gyda'r bygythiadau rydyn ni'n ceisio eu hatal," meddai.
Yn y cyfamser, mae siarter ddiogelwch newydd wedi ei lansio yng Nghaerdydd gyda'r gobaith o wneud y ddinas yn fwy diogel i fenywod.
Pwrpas yr ymrwymiad, yn ôl Caerdydd AM BYTH - y fenter busnes sy'n gyfrifol am y siarter - ydy hyfforddi busnesau i gydnabod sut mae cynorthwyo pobl mewn perygl.
"Fi 'di bod yn byw 'ma dros 10 mlynedd nawr ac wedi profi aflonyddu rhywiol," meddai Jess Davies, llysgennad i'r siarter.
Dywedodd Ms Davies bod sbectrwm aflonyddu rhywiol yn eang, ac yn gallu cynnwys; sylw rhywiol, jôcs anaddas, cyffwrdd â pherson heb ganiatâd a'u dilyn adref, yn ogystal â phethau eraill.
'Creu dinas gwbl saff i fenywod'
Ychwanegodd Esyllt Sears, llefarydd ar ran Caerdydd AM BYTH: "Mae'r siarter yma yn ffordd i fenywod i wybod bod 'na help mas 'na drwy'r dydd, nid yn y nos yn unig
"Trwy arwyddo lan i siarter mae'n golygu bod gyda ti wedyn gymuned o fusnesau yng Nghaerdydd sydd i gyd yn gweithio at yr un nod sef i greu dinas gwbl saff i fenywod."
Mae Jenny Brookes yn gweithio yn y sector lletygarwch yng Nghaerdydd ac yn rhedeg tafarn a bar.
"Ry'n ni wastad moyn i bobl gael amser da yng Nghaerdydd ond mae pethau'n gallu mynd o le... pethau fel menywod yn cael eu dilyn, cael eu sbeicio a theimlo'n anniogel," meddai.
Yn ôl Ms Brookes, mae hyfforddi staff yn y sector i gynorthwyo pobl sy'n teimlo dan fygythiad yn holl bwysig.
'Na yn golygu na'
Mae Ann Williams o linell gymorth Byw Heb Ofn wedi croesawu'r siarter, ond yn dweud ei bod hi'n "anffodus bo' ni'n gorfod cael y ffasiwn fesurau yn eu lle".
Mae Ms Williams yn disgrifio aflonyddu fel "problem gymdeithasol", gan ychwanegu bod rhaid i gymdeithas "sortio hwn allan" wrth gychwyn gydag addysg.
Yn ôl Ms Williams, mae aflonyddu rhywiol, megis tynnu coes, yn gallu arwain at achosion difrifol o drais.
"Os ydy o'n 'neud i rywun deimlo'n annifyr, mae o'n aflonyddi rhywiol... Dydan ni ddim 'di gofyn amdano fo fel merched ac felly, pan 'da ni'n 'deud na, mae 'na' yn golygu 'na'."
Mae'r Uwch-arolygydd Arabella Rees, arweinydd strategol Trais yn Erbyn Menywod a Merched Heddlu De Cymru, yn dweud bod mynd i'r afael â'r mater yn "flaenoriaeth" i'r llu.
"Ni all plismona wneud hyn ar ei ben ei hun felly mae'n hynod bwysig ein bod yn parhau i weithio gyda'n partneriaid er mwyn wynebu'r heriau y mae trais yn erbyn menywod a merched yn eu cyflwyno yn ein dinas," meddai.
Mae Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru yn dweud eu bod wedi sicrhau bron i £750,000 mewn cyllid ychwanegol i gyflawni cyfres o fesurau gyda'r nod o gadw menywod yn ddiogel yng Nghaerdydd.
Maen nhw'n dweud y bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i gyflwyno dulliau newydd o fynd i'r afael â diogelwch menywod, gan gynnwys gosod camerâu cylch cyfyng newydd ar y stryd mewn lleoliadau allweddol ac uwchraddio goleuadau ar danffyrdd penodol.
'Un o'r dinasoedd mwyaf diogel'
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd ei bod yn bwysig cofio fod y brifddinas "ymysg y dinasoedd mwyaf diogel yn y DU".
"Ond fel pob dinas mae troseddu yn digwydd, felly mae Cyngor Caerdydd yn awyddus i barhau i wella diogelwch i'n holl drigolion ac ymwelwyr, ac yn chwilio am ffyrdd i leihau troseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol o fewn y ddinas.
Ond ychwanegodd fod goleuadau wedi cael eu gosod neu eu gwella mewn sawl parc a llwybr dros y ddwy flynedd ddiwethaf, a bod camerâu CCTV wedi'u gosod ym Mharc Bute.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd18 Awst 2022
- Cyhoeddwyd12 Mawrth 2021