Y merched a helpodd i sefydlu Plaid Cymru

Mai Roberts
- Cyhoeddwyd
Mallt Williams. Elisabeth Williams. Mai Roberts.
Enwau sydd o bosib yn anghyfarwydd i rai, ond dyma dair dynes a oedd yn flaenllaw yn stori sefydlu Plaid Cymru nôl yn Awst 1925, a hynny mewn cyfnod pan nad oedd gan bob merch yr hawl i'r bleidlais.
Dyma oedd testun sgwrs gydag Arwel Vittle ar raglen Dei Tomos ar BBC Radio Cymru.
A hithau'n ganmlwyddiant eleni ers sefydlu Plaid Cymru, mae Arwel – wrth ymchwilio i lyfr newydd am hanes y Blaid – wedi dysgu mwy am y merched yma:
Mallt Williams

Mallt Williams
"O'dd Mallt Williams yn dod o deulu eitha cefnog, a 'nath hynny olygu ei bod hi'n gallu cyfrannu mewn sawl ffordd at dwf cenedlaetholdeb yn nechrau'r ganrif.
"Roedd Mallt yn cyfrannu'n hael iawn at fudiadau Cymraeg a Chymreig, fel Urdd y Delyn, Urdd Gobaith Cymru ac Undeb y Cymdeithasau Cymraeg, corff ymbarél i drio uno'r holl gymdeithasau diwylliannol oedd yn ymgyrchu o blaid y Gymraeg yn y cyfnod.
"Roedd hi o deulu di-Gymraeg, ond roedd y Gymraeg yn bwysig iawn i Mallt; er nad oedd hi'n gwbl rhugl, roedd hi am weld Cymru Gymraeg yn cael ei sefydlu.
"Roedd hi'n gefnogol iawn i sefydlu plaid wleidyddol fyddai'n ymgyrchu dros hunan-lywodraeth i Gymru. Roedd hi wedi cael ei dylanwadu llawer gan genedlaetholwyr yn Iwerddon yn y cyfnod yna, a daeth hi i gysylltiad at H.R Jones, Deiniolen, oedd yn brif drefnydd y blaid newydd.
"Roedd hi'n cael ei hysbrydoli gan Iwerddon, ac roedd merched yn rhan eitha' blaenllaw o'r frwydr annibyniaeth yn fan'na, ac mi roedd hi'n gweld merched Cymru yn reit ddof o'i gymharu â hynny. Mae 'na lythyrau ganddi yn gofyn pam fod merched Cymru ddim mor ddewr a gwydn â merched Iwerddon.
"Byddai papur newydd y Blaid, Y Ddraig Goch, ddim wedi dod i fodolaeth oni bai am gyfraniadau ariannol Mallt. Mi gyfrannodd tua £30 i gostau cynhyrchu'r rhifyn cyntaf, sy'n cyfateb i tua £4,000 heddiw, ac roedd hi'n cymryd degau o gopïau o'r Ddraig Goch yn fisol i'w dosbarthu ei hun."
Elisabeth Williams

Elisabeth Williams
"Aeth hi i'r brifysgol yn Aberystwyth, ac yna 'naeth hi gyfarfod â Griffith John Williams, a phriodi. Yng ngholeg Aber, roedd arwyddion o dwf cenedlaetholdeb newydd yn y cyfnod yma – rhyw adwaith i'r Rhyfel Mawr, a Phrydeindod holl-bresennol y cyfnod.
"Roedd Griffith John yn academydd disglair, ond roedd Elizabeth yn fwy o ysgogydd ac yn ei annog o. Mae Elisabeth yn cael gyrfa fel athrawes, ond ar ôl priodi, yn ôl arfer y cyfnod, mae hi'n gorfod rhoi'r gorau i'w swydd.
"Roedd Ambrose Bebb a Griffith John y gyd-ddisgyblion o Ysgol Tregaron, aeth gyda'i gilydd i Aberystwyth.
"Mae'r cyfarfod sy'n digwydd yn Ionawr 1924 rhwng Saunders Lewis, Ambrose Bebb, Griffith John ac Elisabeth, yn eu cartref ym Mhenarth yn allweddol.
"Maen nhw'n ffurfio'r Mudiad Cymreig, mudiad hanner-cudd, gyda'r bwriad o ymladd dros ryddid i Gymru.
"Roedd Elisabeth yn sbardun wnaeth annog Griffith John i gysylltu gyda'i hen gyfaill coleg, ac o'dd e hefyd wedi dod i nabod Saunders Lewis yn y cyfnod yna. Mae hi'n deg dweud ei bod hi un o'r rhesymau pam 'naeth y cyfarfod ddigwydd o gwbl."
"Roedd o wedi ei siarsio i gau ei cheg am y peth ac i beidio sôn wrth neb..."
Arwel Vittle yn trafod cyfraniad tair dynes wrth sefydlu Plaid Cymru ar raglen Dei Tomos
Mai Roberts

Mai Roberts
"Roedd hi'n 'nabod H.R Jones, oedd tu ôl i sefydlu Byddin Ymreolwyr Cymru yng Nghaernarfon yn 1924.
"Mi gafodd hi swydd fel ysgrifennydd preifat E.T John; diwydiannwr cefnog, ond roedd o hefyd wedi bod yn Aelod Seneddol Rhyddfrydol Dwyrain Dinbych. Mi gafodd hi brofiad o drefnu ymgyrchoedd gwleidyddol etholiadau 1922 a 1924 lle roedd o'n ymgeisydd Llafur.
"Ond cafodd hi hefyd brofiad yn trefnu'r Cyngres Geltaidd, achos E.T John a ail-sefydlodd y Gyngres Geltaidd ar ôl y Rhyfel Mawr, ac roedd hi'n dod i gysylltiad efo cenedlaetholwyr ac ymgyrchwyr ieithyddol yn Iwerddon, Llydaw a'r Alban.
"Mi gynhaliwyd y Gyngres Geltaidd yn Llydaw yn 1924, ac yno roedd Ambrose Bebb, ac mi gafodd Mai ei chyflwyno iddo. Mae'r ddau yn dechrau trafod gwleidyddiaeth yng Nghymru.
"Mae Mai yn sôn am y Fyddin Ymreolwyr H.R Jones yng Nghaernarfon, ac mae Bebb yn dweud fod hynny'n newyddion calonogol iawn. Ac mae Bebb yn mentro sôn wrth Mai am y Mudiad Cymreig – y mudiad cudd – roedd o wedi ei siarsio i gau ei cheg am y peth ac i beidio sôn wrth neb.
"Ond maes o law, dyma Saunders Lewis yn cysylltu gyda Mai a'i gwadd hi i ginio mewn tŷ bwyta yn Llundain, ac yn fan'na mae hi'n cael ei derbyn yn aelod o'r Mudiad Cymreig."

Mai Roberts a Saunders Lewis
"Hi sy'n gyfrifol am ddod â'r carfannau yma ynghyd.
"Pan mae hi'n mynd adre i Ddeiniolen, mae hi'n dweud wrth H.R Jones y gall y Fyddin Ymreolwyr fyth fod yn fudiad cenedlaethol oni bai eich bod chi'n cael y de i mewn. Mae hi'n arwain H.R i feddwl am gysylltu â rhai o aelodau blaenllaw o'r Mudiad Cymreig, heb ddatgelu bodolaeth y mudiad wrtho fe!
"Yn y diwedd, mae'r cyswllt rhwng H.R a Saunders Lewis yn cael ei wneud, sy'n arwain yn y pendraw at yr uno ym Mhwllheli yn Awst 1925.
Gwaddol
"Cefnogi o bell efo arian oedd Mallt yn bennaf. Ac ysgogi'r datblygiad oedd Elizabeth – roedd hi dal yn gefnogol iawn i'r Blaid dros y blynyddoedd.
"Yn ddiddorol, roedd Mai i fod yn un o'r bobl oedd yn y cyfarfod yn y caffi ym Mhwllheli 'nath sefydlu'r Blaid yn Awst 1925. Deg oedd yno, roedd 'na 11 i fod, ond collodd hi'r cwch o Ddulyn, neu mi fyddai 'na ferch wedi bod yn y cyfarfod cynta'. Mae Mai yn haeddu llawer mwy o sylw."
Arwel Vittle a Gwen Angharad Gruffudd yw awduron Dros Gymru'n Gwlad; cyfrol sy'n cael ei chyhoeddi dros yr haf, sy'n olrhain hanes sefydlu Plaid Cymru.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd8 Gorffennaf 2024
- Cyhoeddwyd12 Tachwedd 2024
- Cyhoeddwyd6 Chwefror 2018