Cymru allan o Gwpan Rygbi'r Byd ar ôl colli 42-0 yn erbyn Canada

Llun o chwaraewr Canada'n cal ei thaclo gan chwaraewyr CymruFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Fe gollodd Cymru yn erbyn Canada, sy'n ail ar restr detholion y byd - y tu ôl yn unig i Loegr

  • Cyhoeddwyd

Mae tîm rygbi merched Cymru allan o Gwpan Rygbi'r Byd 2025 ar ôl colli o 42-0 i ddim yn erbyn Canada.

Mae'r canlyniad, a llwyddiant yr Alban yn erbyn Fiji yn ngêm arall y grwp, yn cadarnhau mai dyma ddiwedd y daith i Gymru.

Fe gollon nhw 38-8 yn eu gêm gyntaf yn erbyn yr Alban ac mi fyddan nhw nawr yn mynd i'w gêm olaf yn erbyn Fiji ddydd Sadwrn nesaf heb unrhyw obaith o adael y grŵp.

Er i Gymru ddechrau'n addawol yn erbyn Canada, sy'n ail ar restr detholion y byd, roedd pŵer a doniau'r gwrthwynebwyr yn ormod. Mae rhagor am y gêm honno isod.

Llun o chwaraewyr Cymru a CanadaFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Er i Gymru ddechrau'n dda Canada wnaeth ddwyn y sioe

Yr Hanner Cyntaf

Roedd Cymru'n brwydro yn ystod 10 munud cyntaf y gêm - yn cario'n dda ac yn rhoi Canada dan bwysau ond fe fethon nhw sgorio unrhyw bwyntiau.

Ar ôl hynny fe ddechreuodd Canada ddangos pam mai nhw yw un o'r ffefrynnau i ennill Cwpan y Byd.

Fe ddaeth y cais cyntaf ar ôl chwarter awr gyda phrop Canada, McKinley Hunt yn profi'n rhy bwerus a chorfforol i amddiffyn Cymru (7-0).

Agorodd y gêm i fyny wedyn, ac er nad oedd Cymru'n chwarae'n wael roedd hi'n anodd peidio â theimlo bod Canada ar lefel arall.

Daeth yr ail gais ar ôl 25 munud. Cais tîm gwych gyda'r asgellwr Alysha Corrigan yn croesi'r linell (14-0).

Roedd y sgiliau, y pŵer a'r cyflymder yn ormod i Gymru.

Munudau'n ddiweddarach fe welon ni ddwylo gwych gan Canada i gyrraedd pen Cymru'r cae a McKinley Hunt unwaith eto'n profi'n rhy gryf ac yn bachu ei hail gais (21-0).

Ychydig ar ôl hanner awr - yn llythrennol yn syth o'r gic i ailgychwyn y gêm - fe sgoriodd Canada unwaith eto.

Er i Gymru golli sawl tacl roedd hi'n gais annibynnol gwych gan yr asgellwr Asia Hogan-Rochester.

Dyma gadarnhau bod Canada yn barod i ymosod ar unrhyw gyfle ac fe allai droi'n brynhawn hir i ferched Cymru oedd yn chwarae mewn gwyn.

Fe lwyddodd clo Canada, Sophie de Goede, drosi'r cais ac y sgôr ar yr hanner oedd 28-0.

Yr Ail Hanner

Dechreuodd Canada'r ail hanner yn gryf.

Roedd yn edrych fel bod Canada wedi sgorio ar ôl pum munud ond fe gafodd y penderfyniad ei wrthdroi.

Fe welodd y swyddog teledu dacl uchel hefyd gan wythwr Cymru, Georgia Evans ac fe gafodd gerdyn melyn am hynny.

Roedd hi'n golled mawr gan iddi wneud 13 tacl yn yr hanner cyntaf - ond i ryddhad Sean Lynn yr hyfforddwr fe arhosodd yn gerdyn melyn ar ôl adolygiad.

Fe ddaeth cais nesaf Canada ychydig cyn 50 munud gyda'r maswr Taylor Perry yn croesi'r linell i roi ergyd arall yng ngobeithion Cymru o aros yn y gystadleuaeth.

Fe ddaeth cais ola'r gêm wedi 54 o funudau gyda'r prop, Brittany Kassil, yn manteisio oddi ar sgarmes gryf.

Unwaith eto, fe lwyddodd y clo, Sophie de Goede drosi'r chweched cais gan gadarnhau bod gêm a charfan gyflawn iawn ganddyn nhw.

Yn chwarter olaf y gêm fe ddechreuodd Cymru ddangos fflachiadau addawol o ran eu hymosod.

Ond, camgymeriadau esgeulus - fel colli cig at y gornel - yn eu gadael i lawr.

Yn sicr, roedd gwelliannau - amddiffyn gwell yn sianeli llydan y cae, sgrymiau a sgarmesi solet, ac am ambell i berofformiad unigol cryf yn enwedig Sisi Tuipulotu - ond fe brofodd Canada mai nhw yw un o dimau rygbi merched gorau yn y byd.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig