Cwpan Rygbi'r Byd: Saith newid i'r tîm fydd yn wynebu Canada

Bethan LewisFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe fydd Bethan Lewis yn gapten ar Gymru am y tro cyntaf ddydd Sadwrn

  • Cyhoeddwyd

Mae rheolwr Cymru wedi gwneud saith newid i'r tîm fydd yn wynebu Canada yng Nghwpan Rygbi'r Byd ddydd Sadwrn.

Fe fydd y cyd-gapteiniaid Alex Callender a Kate Williams yn methu'r gêm oherwydd anaf, gyda Bethan Lewis i arwain y tîm yn Stadiwm Cymunedol Salford.

Dyma fydd y tro cyntaf i Lewis fod yn gapten ar Gymru, a hynny wrth iddi ennill cap rhif 60 i'w gwlad.

Fe gollodd Cymru o 38-8 yn erbyn Yr Alban yn eu gêm agoriadol yn y grŵp, tra bod Canada wedi ennill yn gyfforddus o 65-7 yn erbyn Fiji.

Mae'r canlyniadau hynny yn golygu ei bod hi'n debygol y bydd angen i Gymru drechu'r tîm sy'n ail ar restr detholion y byd os am sicrhau eu lle yn rownd yr wyth olaf.

Mae Sean Lynn wedi gwneud saith newid i'r 15 gychwynnodd yn erbyn Yr Alban - gan gynnwys chwe newid ymhlith y blaenwyr.

Mae tri o'r newidiadau hynny yn y rheng flaen, gyda Maisie Davies a Molly Reardon yn ymuno â Sisilia Tuipulotu.

Abbie Fleming fydd yn bartner i Gwen Crabb yn yr ail reng, tra bod Bryonie King a Georgia Evans wedi eu dewis yn y rheng ôl gyda Bethan Lewis.

Yr unig newid ymhlith yr olwyr yw bod Carys Cox wedi ei dewis fel canolwr ynghyd â Courtney Keight.

'Her enfawr'

Dywedodd Sean Lynn, prif hyfforddwr Cymru: "Ry'n ni wedi edrych yn galed arnon ni ein hunain ac mae sgyrsiau gonest iawn wedi digwydd – fel y gallwn berfformio hyd at orau ein gallu yn erbyn un o'r timau gorau yng nghamp y menywod.

"Mae Canada yn ail ar restr detholion y byd – ac yn naturiol felly maen nhw'n un o'r ffefrynnau i ennill Cwpan y Byd. Does dim amheuaeth y bydd eu hwynebu'n cynnig her enfawr i ni.

"Mae angen i ni ddod ag egni gwirioneddol i mewn i'n gêm a sicrhau balchder diamheuol yn y crys. Drwy'r wythnos ry'n ni wedi canolbwyntio ar ein perfformiad ni a'r hyn sydd angen i ni ei wneud i sicrhau perfformiad ddydd Sadwrn."

Y garfan yn llawn

Nel Metcalfe, Jasmine Joyce-Butchers, Carys Cox, Courtney Keight, Lisa Neumann, Lleucu George, Keira Bevan; Maisie Davies, Molly Reardon, Sisilia Tuipulotu, Abbie Fleming, Gwen Crabb, Bryonie King, Bethan Lewis (capten), Georgia Evans.

Eilyddion: Kelsey Jones, Gwenllian Pyrs, Jenni Scoble, Tilly Vucaj, Branwen Metcalfe, Seren Lockwood, Kayleigh Powell, Kerin Lake.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.