Y canwr Mike Peters wedi marw ar ôl brwydr 30 mlynedd â chanser

- Cyhoeddwyd
Mae'r canwr Mike Peters, prif leisydd The Alarm, wedi marw yn 66 oed.
Roedd wedi byw gyda chanser am 30 mlynedd, er sawl ysbaid rhag y cyflwr.
Yn enedigol o Brestatyn, bu'n byw yng ngogledd-ddwyrain Cymru am fwyafrif ei fywyd, ac yn ardal Dyserth yn benodol.
Roedd Peters - oedd wedi bod yn gweithio yn adran gyfrifiadurol archfarchnad Kwik Save - wedi cychwyn y band The Toilets yn Y Rhyl yn 1977, ar ôl gweld y Sex Pistols yn chwarae yng Nghaer.
Mike Peters
Fe chwaraeodd The Alarm eu gig gyntaf ym Mhrestatyn yn 1981.
Aethant ymlaen i werthu tua phum miliwn o recordiau, a nhw oedd y cerddorion Cymreig cyntaf ers Tom Jones a Bonnie Tyler i gael llwyddiant yn yr Unol Daleithiau.
Daeth i amlygrwydd gyda The Alarm yn ystod y 1980au, wrth i'r grŵp rannu llwyfannau gydag artistiaid fel U2 a Bruce Springsteen, gan fod yn fand agoriadol hefyd i'r chwedlonol Bob Dylan.

Mike Peters yn perfformio gyda The Alarm yn Llundain ym 1987
Ar ôl perfformio gyda U2 ar eu taith yn America yn 1983, fe wnaeth The Alarm ddenu cynulleidfaoedd a chefnogwyr o amgylch y byd.
Cafodd eu halbwm cyntaf ei gyhoeddi ym 1984.
Roedd The Alarm wedi dod i ben am gyfnod ers dechau'r 1990au a Mike Peters wedi dechrau perfformio a recordio fel artist unigol pan gafodd ei ddiagnosis lewcemia cyntaf yn 1995.

Fe gafodd Peters ddiagnosis o lewcemia lymohocytic cronig (CLL) dros 30 o flynyddoedd yn ôl pan oedd yn 36 oed
Aeth ati i sefydlu elusen Love Hope Strength, gan annog pobl i gofrestru eu bod yn fodlon bod yn rhoddi mêr esgyrn.
Fe drefnodd berfformiadau er budd yr elusen, gan gynnwys un ar gopa'r Wyddfa.
Yn 2007 fe deithiodd gyda cherddorion, goroeswyr canser a chefnogwyr er mwyn perfformio gig ar lethrau Everest.
Er iddyn nhw deithio tipyn fel band, roedd gan The Alarm gyswllt cryf gyda Chymru, ac roedd Peters yn medru byw bywyd tawel yng ngogledd Cymru.
Fe wnaeth y band ryddhau fersiwn Gymraeg o'u halbwm 1989, Change, a'i alw'n Newid.
Mae'r band wedi gwerthu mwy na phum miliwn o albymau ac wedi cael 16 sengl yn siartiau 50 uchaf y DU.

Mike Peters yn perfformio ar Yr Wyddfa i godi arian ar gyfer elusen Love Hope Strength
Yn 2022, ag yntau unwaith eto yn byw gyda lymffoma, bu'n rhaid iddo ganslo'i holl gigs ar ôl cael niwmonia a chyngor gan feddygon i orffwys oherwydd gwendid ei system imiwnedd.
Cyhoeddodd ym Mai 2024 ei fod yn wynebu "brwydr fwyaf fy mywyd" ar ôl cael gwybod bod ei lewcemia, wedi 29 o flynyddoedd, "wedi troi dros nos i fod yn fath prin ac ymosodol o lymffoma o'r enw Richter's Syndrome".
Dywedodd ar y pryd fod ganddo'r "mynydd uchaf i'w ddringo er mwyn aros yn fyw".

Yn 2024 cafodd Mike Peters - yma gyda'i wraig Jules - ddiagnosis o Syndrom Richter, math peryglus o lymffoma
Ond ag yntau ar fin cael rhagor o driniaethau yng Nghanolfan Trin Canser Gogledd Cymru ac Ysbyty Christie Manceinion, fe fynnodd y byddai'n bosib iddo berfformio sioeau oedd wedi eu trefnu yn yr haf a'r hydref.
Yn 2025 dywedodd ei fod yn cychwyn triniaeth CAR-T - therapi sy'n defnyddio celloedd y corff ei hun i ymladd y canser.
Ar y pryd dywedodd ei fod yn gobeithio cael "byw bywyd heb ganser" ar ôl triniaeth arbenigol.
Cafodd ei urddo ag MBE yn 2018.
Mae'n gadael gwraig, Jules - sydd hefyd wedi byw gyda chanser - a dau fab, Dylan ac Evan.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Ionawr
- Cyhoeddwyd12 Tachwedd 2024