Cofio Mike Peters, The Alarm

Mike PetersFfynhonnell y llun, Jules Peters/PA
Disgrifiad o’r llun,

Mike Peters yn perfformio gyda The Alarm

  • Cyhoeddwyd

Ar 29 Ebrill bu farw'r canwr Mike Peters, prif leisydd The Alarm, yn 66 oed.

Roedd wedi byw gyda chanser am 30 mlynedd, er sawl ysbaid o'r cyflwr, gan sefydlu elusen i gasglu arian a chodi ymwybyddiaeth.

Yn enedigol o Brestatyn, bu'n byw yng ngogledd-ddwyrain Cymru am fwyafrif o'i fywyd, ac roedd ganddo ffans o wledydd ar draws y byd, yn enwedig yn UDA lle bu ar daith nifer o weithiau.

Dyma atgofion amdano gan rai oedd yn ei adnabod ac wedi ei edmygu dros y degawdau.

Mike Peters
Disgrifiad o’r llun,

Mike Peters

Emyr Afan, cynhyrchydd rhaglen ddogfen am Mike Peters

Achos bod e'n byw yn ein plith ni yn Dyserth yng ngogledd Cymru - fasa fe wedi gallu byw bywyd bras iawn yn LA - dyw rhywun ddim yn sylweddoli faint o seren oedd e yn America. Yn y dyddiau cynnar lle 'nath yr Alarm deithio America, gathon nhw gymaint o argraff ar y wlad yna.

Ac yn sicr roedd e'n seren mawr yn fan hyn ond achos bod e'n ddyn mor ddirodres, annwyl, naturiol oedd rhywun ddim cweit yn gwerthfawrogi gymaint o waddol mae e wedi gadael ar ei ôl e.

Mae'r teulu wedi bod yn byw gyda canser ers dros 30 mlynedd. Roedd fy Mam yn arfer gweud 'yn lle cwyno seinia gân', ac yn Mike roeddet ti'n gweld rhywun oedd yn canu ac yn gwenu ac yn byw bywyd.

Mike Peters a'i wraig Jules
Disgrifiad o’r llun,

Mike Peters a'i wraig Jules

Roedd e'n gymaint o ysbrydoliaeth a 'na i byth anghofio yn ystod y rhaglen ddogfen 'nathon ni ffeindio allan bod Jules, ei wraig annwyl, hefyd efo canser ac roedd y ddau ohonyn nhw gyda'r fath dygnwch a ddim jest derbyn y peth a gweithio trwy'r peth ond codi cannoedd o filoedd o bunnoedd ar hyd y byd er mwyn elusen canser, dim jest i nhw ond i bawb - ges i fy syfrdanu.

A fi'n cofio pwy bynnag o'n i eisiau siarad efo - Bono neu pwy bynnag - roedden nhw i gyd yn deud "ie, wrth gwrs wnawn ni siarad am Mike" achos fel roedd e gyda phawb - roedd e'n ffrind agos.

Roedd ganddo'r gallu i 'neud ti deimlo'n sbeshal - roedd ganddo ddiddordeb gwirioneddol mewn pobl. A'r egni; fi byth wedi gweld rhywun tebyg. Roedd e fel dynamo, roedd e'n anhygoel.

Ei gariad mwya' oedd cerddoriaeth. Roedd e'n byw i gerddoriaeth a bydd rhai o'r caneuon mae e wedi sgwennu yn aros gyda ni am ddegawdau i ddod.

Gary Slaymaker, ffan ers 40 mlynedd

Yn 1983, ro'n i'n eistedd yn stafell deledu Neuadd Eryri, y Coleg Normal, yn gwylio The Tube ar Sianel 4 - rhaglen chwyldroadol (i fi) odd yn cynnig llwyfan i fandiau newydd a chyffrous - a fe ddath y band 'ma i'r llwyfan; The Alarm.

Y gwallt odd y peth cynta' dynnodd y sylw, yn ffrwydrad o flewiach pigog crand. Ceiliogod dandi ym mhob ystyr. Wedyn weles i'r dillad. Fel cyfuniad o punks, cowbois, a Hells Angels.

O'n nhw'n drawiadol i weud y lleia'. Yn sydyn fe ddechreuon nhw arni gyda'u cân newydd, 68 Guns. Ath iâs lawr yng nghefen i, ac o'n i'n gwbod bo fi wedi ffindio'n ngherddoriaeth newydd.

Fuodd rhaid aros tan Chwefror y flwyddyn wedyn i gael gafael yn albwm cynta'r grŵp, Declaration... a 'na beth odd datganiad. 68 Guns, Where Were You Hiding When the Storm Broke, Blaze of Glory, The Stand - bangar ar ôl bangar ar ôl bangar.

Ro'dd yr Alarm bellach yn rhan hanfodol o drac sain fy mywyd.

Diwedd 1985 yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd odd y tro cynta' i fi weld y grŵp yn fyw, a 'nethon nhw ddim siomi. Pob cân yn ysgwyd yr adeilad a chynhyrfu'r dorf.

Ro'n i nôl yn y Neuadd rhai blynyddoedd yn ddiweddarach i weld y band yn chwarae gig ar gyfer Cymdeithas yr Iaith, a ro'dd honna'n noson fythgofiadwy hefyd.

Mike PEtersFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mike Peters yn perfformio gyda The Alarm yn Llundain yn 1987

Yn 1987, o'n i ym Mharc yr Arfau, Caerdydd, yn gwylio'r bois yn cefnogi U2 fel rhan o'r daith Joshua Tree. O'dd y Gwyddelod yn iawn, ond nath hogie Rhyl hwthu nhw oddi ar y llwyfan.

Fel un o DJs slot Hwyrach ar Radio Cymru, fues i gyda'r cynta' i chwarae'r traciau Cymraeg newydd sbon oedd gan The Alarm ar eu halbwm, Newid/Change. Ro'dd fy nghynhyrchydd ar y pryd, Gareth Morlais Williams, wedi helpu gyda'r dasg o gyfieithu geiriau Mike i'r Gymraeg. Perks y job, fel ma' nhw'n gweud.

Diwedd '89/dechrau '90, o'r diwedd fe ges gwrdd â'r dyn ei hun. Ar y pryd, ro'n i'n cyflwyno sioe o'r enw Rave oedd yn cael ei ddarlledu ar Radio Wales a Radio 5 ar yr un amser, bob nos Wener.

Gareth Morlais odd yn cynhyrchu hon hefyd, ac fe berswadiodd Mike i ddod mewn i wneud set acwstig byw... a ro'dd e'n fendigedig.

Ar y noson hynny ges gyfle i gloncan gydag un o'm harwyr, ac allen i ddim wedi bod yn hapusach. Gyda'n llaw ar fy nghalon, alla'i weud yn onest, ma' Mike odd y person mwya' hyfryd, hawddgar, a genuine 'wy erioed wedi cwrdd â yn fy mywyd.

Mike PetersFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Mike Peters yn derbyn yr MBE yn 2019 am ei wasanaethau i ofal canser

Ro'dd hi'n fraint llwyr i ddod i nabod e, rhyw ychydig, y noson hynny. Ac ar ddiwedd y nos, wrth ffarwelio, dyma Mike yn rhoi CD o oreuon y band yn fy llaw, cynnig cwtsh anferth, a mynd ar ei ffordd.

Oriau'n ddiweddarach weles i'r neges odd e wedi ysgrifennu ar du fewn i'r clawr. "To Gary, Thank you for this 'moment in time' (un o ganeuon y band), all the very best, Mike". Dim Mike Peters chwel', ond Mike; fel 'se ni'n hen gyfeillion.

A dyna'r peth, ma'r diwrnode diwetha' ma' wedi teimlo fel colli ffrind... er ma' ond oriau ges i yn ei gwmni. Ma' CD'r goreuon yn chwarae ar hyn o bryd, a'r dagrau'n powlio, wrth ysgrifennu'r darn yma.

Beth allwch chi 'weud am Mike Peters? Ro'dd e'n fardd, yn belen o egni, yn sylwebydd cymdeithasol cadarn, yn wariar, yn ysbrydoliaeth wrth frwydro yn erbyn yr afiechyd erchyll 'na, tra'n helpu eraill gyda'i waith elusennol.

Ro'dd e'n eicon cerddorol, yn genedlaetholwr yn ystyr gorau'r gair, ac yn arwr. Ond ar ddiwedd y dydd, ro'dd e'n berson diymhongar ac annwyl. Welwn ni ddim o'i fath eto, 'wy'n amau.

Nos da Mike, a diolch o galon am bopeth.

Gareth Jones, neu 'Gaz Top', ffrind ers yr 1970au

Nesh i gyfarfod Mike am y tro cyntaf yn 1978 yn y Rhyl pan o'n i'n chwarae mewn grŵp fy hun - Backseat. Roeddan ni'n chwarae o flaen 17 - y grŵp 'nath droi yn The Alarm.

Llai na blwyddyn ar ôl cyfarfod Mike nesh i ddechra gweithio i The Alarm fel roadie ac mae gen i gysylltiadau gyda'r grŵp hyd heddiw.

Pum mlynedd nôl nesh i fynd nôl allan o gwmpas yr Unol Daleithiau efo'r Alarm i fwynhau un o'r tours gorau dwi erioed wedi bod arno a dwi'n falch iawn o fod wedi cael siawns i 'nabod Mike fel un o fy ffrindiau agosaf, fy ffrindiau gorau a ffrindiau hiraf.

Mike PetersFfynhonnell y llun, Jules Peters/PA

Doedd dim dowt o'r cychwyn (ei fod am fod yn seren). Roedd y grŵp 17 uwchben y grŵp gorau yng ngogledd Cymru a 'nathon nhw ddangos i'r gweddill ohono ni sut i fod mewn grŵp llwyddiannus.

Roedd gan Mike ac Eddie a Nigel a David rhyw fath o egni gwahanol i neb arall - roedd popeth yn bosib i'w neud - fel geiriau yn un o'r caneuon 'Carving your own reality / build your future with your own two hands'.

Nath Mike, efo help i gyd ohona ni - gang oedda ni, roedd mwy i'r Alarm na jest y pedwar yn y grŵp - 'nathon ni gyd fynd allan i'r byd a chreu rhywbeth.

Pynciau cysylltiedig