Cerddor yn gobeithio am fywyd heb ganser wedi 30 mlynedd
- Cyhoeddwyd
Mae cerddor sydd wedi byw gyda chanser ers 30 mlynedd yn dweud ei fod yn gobeithio cael "byw bywyd heb ganser" ar ôl triniaeth arbenigol.
Mae Mike Peters, prif leisydd y band roc The Alarm, yn gobeithio y bydd imiwnotherapi dwys yn ei helpu ar ôl cael gwybod bod canser wedi dychwelyd.
Mae Peters wedi treulio cyfnod hir o'i fywyd gyda lewcemia lymffocytic cronig (CLL) ar ôl cael diagnosis yn 36 oed.
Ym mis Ebrill 2024, cafodd y canwr 65 oed o Ddyserth yn Sir Ddinbych ddiagnosis o Syndrom Richter - lle mae'r canser gwreiddiol yn datblygu i fod yn lymffoma mwy peryglus.
Er iddo gael gwybod ei fod yn glir o ganser am gyfnod yn dilyn triniaeth arbrofol mewn ysbyty ym Manceinion, cafodd wybod y llynedd bod y canser wedi dychwelyd.
Mae'r canwr, sydd wedi cefnogi bandiau fel U2 a Status Quo ar deithiau, yn dweud bod cerddoriaeth wedi ei gadw yn fyw ers y diagnosis diweddaraf.
- Cyhoeddwyd12 Tachwedd 2024
- Cyhoeddwyd30 Medi 2024
- Cyhoeddwyd9 Hydref 2015
Y tro hwn, bydd yn cael math gwahanol o therapi arbenigol yn Ysbyty Christie ym Manceinion dros gyfnod o 40 diwrnod.
Yr wythnos hon, bydd yn dechrau triniaeth CAR-T - therapi sy'n defnyddio celloedd y corff ei hun i ymladd y canser.
Y gobaith yw y bydd hynny'n cael gwared â'r lymffoma o'i gorff.
Mae'n egluro bod ei gelloedd wedi cael eu haddasu fel eu bod nhw'n adnabod y canser.
Dywedodd bod rhai o'i gelloedd "wedi eu hanfon ar awyren i labordy yn Yr Iseldiroedd lle cafodd pob un cell eu hailraglennu gan wyddonwyr a'u targedu er mwyn cael gwared â Symdrom Richter".
Bydd Mike yn aros ar ward ar ei ben ei hun am 40 diwrnod er mwyn i'w system imiwnedd ymateb i'r driniaeth, a'r gobaith yw y bydd yn gadael yr ysbyty yn glir o ganser.
Ond yn ôl yr Athro Adrian Bloor, sy'n Hematolegydd Ymgynghorol yn yr ysbyty, mae CAR-T yn gallu achosi sgîl effeithiau.
Dywedodd: "Yr hyn rydyn ni'n obeithio yw y bydd y system imiwnedd yn setlo ond bod y celloedd CAR-T yn parhau yn y corff er mwyn gallu parhau i frwydro'r canser a'i atal rhag dychwelyd eto."
Cafodd Mike Peters wybod bod y canser wedi dychwelyd wrth iddo baratoi ar gyfer taith 50 diwrnod o hyd.
Dywedodd: "Fe wnaeth popeth ddigwydd mor gyflym, doedd dim amser i feddwl am y peth - roedd o'n ofnadwy.
"Heb driniaeth, mae'n debygol mai rhyw ddau fis oedd gen i ar ôl i fyw ac roedd 'na bwysau mawr wrth i ni ohirio'r daith a chefnogi'r teulu wrth geisio delio gyda'r newyddion ofnadwy yma."
Mae hefyd yn ddiolchgar i'w wraig, Jules, am fod "yn gadarn".
A hithau wedi cael diagnosis o ganser y fron yn 2016, mae'n dweud ei bod hi'n teimlo "mai dyma'r diwedd i'r ddau ohonon ni... roedd o'n anodd iawn cario ymlaen".
"Pan dwi'n teimlo'n ofnadwy o ofnus, dwi'n gadael i fy hun grïo ac yn mynd i redeg er mwyn teimlo'n well.
"Dydy eistedd o gwmpas y lle yn teimlo biti dros fy hun ddim yn helpu."
'Cerddoriaeth fel therapi'
Yn ôl Jules, bydd therapi CAR-T yn "trawsnewid" Mike, gan effeithio ar ei gorff ac, o bosib, ei bersonoliaeth.
"Dydw i heb adael i fy hun feddwl sut fydd ein bywydau ni os fyddwn ni'n goroesi hyn."
Os na fydd y driniaeth yn llwyddiannus, mae'n bosib y bydd Mike yn cael trawsblaniad bôn-gelloedd ac mae wedi bod yn galw ar bobl i gofrestru i fod yn rhoddwyr er mwyn helpu eraill.
Hefyd yn ystod y misoedd diwethaf, mae Mike wedi cyfansoddi albwm newydd fydd yn cael ei ryddhau yn fuan.
Dywedodd: "Mae cerddoriaeth fel therapi i fi.
"Mae'n helpu'r cemotherapi, y CAR-T ac yn rhoi'r cyfle i fi oroesi hyn a byw bywyd newydd."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd12 Tachwedd 2019