Pwy yw aelodau seneddol newydd Cymru?

Aelodau SeneddolFfynhonnell y llun, BBC/Getty
Disgrifiad o’r llun,

O'r chwith: Rhai o aelodau seneddol newydd Cymru - Gill German, Alex Barros-Curtis, Catherine Fookes, Kanishka Narayan, Torsten Bell

  • Cyhoeddwyd

Mae Cymru wedi ethol 32 aelod seneddol i San Steffan - 13 ohonyn nhw yn rhai newydd.

Gyda’r Ceidwadwyr wedi colli eu holl seddi, mae’r aelodau newydd i gyd yn cynrychioli Llafur, Plaid Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol.

Felly pwy ydyn nhw?

Alex Barros-Curtis - Gorllewin Caerdydd

Fe wnaeth Alex Barros-Curtis ddenu’r penawdau yn gynnar yn ystod yr ymgyrch gyda chyhuddiadau fod y Blaid Lafur yn "gorfodi’r" ymgeisydd ar aelodau lleol, er nad oedd ganddynt "gysylltiad" â'r ardaloedd. Fe gafodd hyn ei ddisgrifio fel "sarhad llwyr" gan rai o aelodau’r blaid.

Gwadu hyn wnaeth Llafur Cymru gan ddweud bod aelodau lleol a chynrychiolwyr o’r pwyllgor gwaith Cymreig ar y panel oedd yn dewis ymgeiswyr.

Fe gafodd Mr Barros-Curtis, gafodd ei eni yng ngogledd Cymru a sydd wedi gweithio’n agos gyda Keir Starmer, ei ddewis fel ymgeisydd Gorllewin Caerdydd ar ôl i Kevin Brennan gyhoeddi yn gynharach eleni ei fod yn rhoi'r gorau iddi.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Alex Barros-Curtis

Andrew Ranger - Wrecsam

Mae Andrew Ranger yn gyn-gyfrifydd ac ymgynghorydd busnes, gyda gradd mewn peirianneg o Brifysgol Newcastle. Erbyn hyn, fo ydi’r aelod seneddol dros Wrecsam.

Mae’n dweud ei fod wedi "byw, gweithio ac anadlu’r” dref ers dros 20 mlynedd.

Ann Davies - Caerfyrddin

Ann Davies ydi un o’r ddau aelod seneddol newydd sydd gan Blaid Cymru.

Mae hi’n enedigol o’r sir ac yn gyn-gynghorydd Llanddarog.

Roedd hi’n arfer gweithio fel darlithydd addysg blynyddoedd cynnar ac yn cyd-berchen meithrinfa.

Ffynhonnell y llun, Plaid Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Ann Davies, aelod Plaid Cymru dros Gaerfyrddin

Becky Gittins - Dwyrain Clwyd

Cyn-gyfrifydd arall sydd bellach yn aelod seneddol Llafur ydi Becky Gittins.

Yn wreiddiol o Fagillt, Sir y Fflint, mae’r aelod dros Ddwyrain Clwyd hefyd wedi gweithio fel gwas sifil ac wedi bod yn gynghorydd yn Coventry.

Catherine Fookes - Sir Fynwy

Ysgrifennydd Cymru David TC Davies oedd yn cynrychioli Sir Fynwy - ac wedi gwneud ers 2005 - ond bellach Catherine Fookes ydi’r aelod seneddol.

Mae hi wedi byw yn y sir ers dros ddau ddegawd ac wedi bod yn gynghorydd Plaid Lafur a chyfarwyddwr Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod.

Claire Hughes - Bangor Aberconwy

Mae Claire Hughes yn “falch” o gael ei magu yn ei hetholaeth newydd - Bangor Aberconwy.

Mae’r aelod seneddol dros Lafur, wnaeth astudio ym Mhrifysgol Caerdydd, bellach yn magu ei phlant ei hun yn ei hardal enedigol.

Roedd y gwleidydd yn cynrychioli Llanfairfechan ar Gyngor Conwy am chwe blynedd.

Disgrifiad o’r llun,

David Chadwick - yr aelod seneddol newydd dros Aberhonddu, Maesyfed a Chwm Tawe

David Chadwick - Aberhonddu, Maesyfed a Chwm Tawe

David Chadwick ydi aelod seneddol cyntaf y Democratiaid Rhyddfrydol ers 2019.

Mae’n byw yn Aberhonddu gyda’i wraig a’u plant a dechreuodd ymddiddori mewn gwleidyddiaeth pan aeth ei daid ag o i weld gweithfeydd dur Port Talbot.

Mae o bellach yn cynrychioli Aberhonddu, Maesyfed a Chwm Tawe yn San Steffan.

Gill German - Gogledd Clwyd

Athrawes oedd Gill German cyn iddi ddod yn gynghorydd Llafur dros Ogledd Prestatyn.

Bellach hi ydi’r aelod seneddol Llafur newydd dros Ogledd Clwyd – yr ardal lle cafodd ei magu.

Henry Tuffnell - Canol a De Penfro

Yn ôl ei wefan, mae Henry Tuffnell yn byw tu allan i Dŷ Ddewi.

Fe gafodd yr aelod seneddol newydd dros Ganol a De Penfro ei fagu ar y fferm deuluol, cyn hyfforddi fel bargyfreithiwr.

Kanishka Narayan - Bro Morgannwg

Kanishka Narayan ydi AS cyntaf erioed Cymru o leiafrif ethnig.

Fe enillodd etholaeth Bro Morgannwg gan Alun Cairns o’r Blaid Geidwadol.

Yn byw yn Y Barri, fe astudiodd Mr Narayan ym Mhrifysgol Rhydychen cyn gweithio fel ymgynghorwr i’r Blaid Lafur.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Alun Cairns - cyn-aelod seneddol y Ceidwadwyr dros Canol a De Penfro gyda'r aelod newydd Kanishka Narayan

Llinos Medi - Ynys Môn

Cyn gynghorydd Cyngor Sir Ynys Môn oedd Llinos Medi tan iddi gael ei hethol fel aelod seneddol newydd yr ynys.

Yn ei haraith ar ôl ei buddugoliaeth, fe alwodd am “fuddsoddiad yn ein cymunedau” a’i bod wedi gweld effaith “toriadau parhaus” i’r cyllid cyhoeddus.

Steve Witherden - Maldwyn a Glyndŵr

Athro ysgol uwchradd a chynrychiolydd undeb oedd Steve Witherden. Mae o bellach yn aelod seneddol dros Maldwyn a Glyndŵr.

Doedd etholaeth Maldwyn - y sedd cyn i’r ffiniau gael eu newid - erioed wedi ei hennill gan Lafur.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yr aelod newydd dros Orllewin Abertawe - Torsten Bell

Torsten Bell - Gorllewin Abertawe

Fel gydag Alex Barros-Curtis yng Ngorllewin Caerdydd, roedd beirniadaeth gan rai aelodau lleol y blaid pan gafodd Torsten Bell ei ddewis fel ymgeisydd.

Yn gyn-brif weithredwr y grŵp trafod Resolution Foundation roedd yn ymgynghorwr arbennig i Alistair Darling pan oedd o’n Ganghellor i’r Llywodraeth Lafur.

Mae Mr Bell, sy’n agos at Keir Starmer, bellach yn aelod dros Orllewin Abertawe ac yn cael ei ystyried yn un o sêr y blaid.