Wylfa: Egluro hanes hir a heriol ynni niwclear ym Môn

WylfaFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Safle hen atomfa Wylfa ar Ynys Môn yw'r dewis cyntaf ar gyfer adeiladu gorsaf bŵer niwclear newydd, yn ôl Llywodraeth y DU.

Mae hanes cymhleth i'r safle, ac mae wedi bod yn penawdau'n gyson dros y blynyddoedd.

Beth yw Wylfa?

Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Hen atomfa Wylfa yn 1995, cyn i'r gwaith cynhyrchu ynni ddod i ben

Hen bwerdy niwclear yw Wylfa yng ngogledd Ynys Môn, ar ben pellaf gogledd Cymru.

Cafodd ei adeiladu yn yr 1960au gan ddechrau cynhyrchu trydan yn 1971. Roedd yn cyflogi miloedd o weithwyr.

Ond yn 2015, caeodd yr adweithydd olaf ar ôl 44 mlynedd o gynhyrchu ynni niwclear ar y safle.

Pam gaeodd Wylfa yn y lle cyntaf?

Ffynhonnell y llun, Getty Images

30-40 mlynedd yw cyfnod cynhyrchu'r mwyafrif o atomfeydd niwclear, yn ôl yr Asiantaeth Ynni Atomig Ryngwladol.

Pan gaeoedd Wylfa, hi oedd atomfa hynaf Prydain.

Cwmni Magnox oedd bia'r safle ac yn gweithredu'r pwerdy. Roedden nhw wedi rhoi'r gorau i gynhyrchu'r tanwydd oedd ei angen i redeg y safle yn 2008.

Caeodd adweithydd cyntaf Wylfa yn 2012 cyn i'r safle gau yn llwyr yn 2015.

Beth oedd Wylfa Newydd?

Roedd cynllun i barhau i gynhyrchu ynni ar yr hen safle mor gynnar â 2009, flynyddoedd cyn i'r safle gwreiddiol gau.

Wylfa Newydd neu Wylfa B oedd yr enw ar y cynllun hwnnw, a chwmni Horizon Nuclear Power yn gyfrifol amdano.

Yn 2012 dywedodd y cwmni o Japan, Hitachi, y byddai'n prynu Horizon am £700m, datblygiad gafodd ei ddisgrifio gan y prif weinidog ar y pryd, David Cameron, fel cam mawr ymlaen.

Y gobaith oedd y byddai 6,000 o swyddi'n cael eu creu i adeiladu'r safle, a 1,200 pan fyddai'r safle'n weithredol.

Yn 2019 dywedodd y cwmni eu bod yn oedi cyn bwrw ymlaen am fod y costau'n cynyddu.

Y flwyddyn wedyn, cafodd y cynllun ei ddileu yn llwyr.

Pam na ddaeth Wylfa Newydd?

Beio costau cynyddol wnaeth Hitachi pan benderfynodd y cwmni oedi'r broses yn y lle cyntaf.

Penderfynodd y cwmni roi stop ar y cynllun yn llwyr yn 2020 gan ddweud eu bod wedi methu a chytuno ar gyllid gan Lywodraeth y DU.

Dywedodd y llywodraeth bod y newyddion yn "siom enfawr" ac iddyn nhw gynnig pecyn sylweddol o gefnogaeth posibl.

Fis Ionawr 2021, fisoedd wedi penderfyniad Hitachi, tynnodd Horizon Nuclear Power ei chais cynllunio yn ôl.

Beth yw'r cynllun newydd i Wylfa?

Yn 2022 dywedodd y prif weinidog ar y pryd, Boris Johnson, bod atomfa niwclear newydd yn Wylfa "yn mynd i ddigwydd".

Roedd wedi dweud yn barod bod llywodraethau blaenorol wedi methu â gwneud "penderfyniadau anodd" ar dechnoleg niwclear.

Yn 2023 dywedodd y Prif Weinidog Rishi Sunak bod Wylfa yn un o'r safleoedd oedd ei lywodraeth yn ffafrio ar gyfer adeiladu atomfa newydd.

Fis Mawrth eleni, dywedodd Llywodraeth y DU y byddai'n prynu safle Wylfa oddi wrth Hitachi am £160m.

Fis Mai, dywedodd y llywodraeth mai Wylfa yw'r dewis cyntaf ar gyfle safle atomfa niwclear newydd.

Dydy'r cyhoeddiad ddim yn golygu bod adeiladu'r atomfa yn sicr, ond dywedodd y llywodraeth eu bod wedi dechrau trafodaethau â chwmnïau ynni rhyngwladol i ddechrau adeiladu'r atomfa newydd.

Faint o swyddi sy'n debygol o gael eu creu?

Dywedodd Ysgrifennydd Ynni Llywodraeth y DU, Claire Coutinho y byddai'r safle'n creu "miloedd o swyddi sy'n talu'n dda".

O ran cymhariaeth, y ddealltwriaeth yw y bydd atomfa newydd yn Wylfa ar yr un raddfa â Hinkley yng Ngwlad yr Haf.

Mae Hinkley'n dal i gael ei adeiladu ond mae i fod dechrau cynhyrchu ynni erbyn 2031.

Yn 2021, dywedodd y perchennog EDF bod tua 6,300 o weithwyr ar safle Hinkley.

Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Atomfa Hinkley'n cael ei hadeiladu fis Rhagfyr 2023

Faint o amser fydd hi'n cymryd i adeiladu Wylfa?

Fe fydd angen blynyddoedd o gynllunio a buddsoddiad cyn i'r safle gynhyrchu unrhyw bŵer.

Dywedodd Ysgrifenydd Cymru David TC Davies na fyddai'n "rhoi dyddiad" ar pryd y gallai pwerdy gael ei adeiladu a bod yn barod i gynhyrchu egni, ond dywedodd bod y llywodraeth "yn glir" y byddai atomfa niwclear yn cael ei hadeiladu ar y safle.

Wrth ymateb i gwestiwn a fyddai pwerdy newydd yn barod erbyn 2040 fe ddywedodd bod pwerdai "yn draddodiadol yn cymryd eithaf hir" i'w hadeiladu.

Pwy sydd o blaid atomfa ar Wylfa?

Yn ôl un o'r undebau sy'n cynrychioli gweithwyr y sector niwclear, Prospect, Wylfa yw'r "safle gorau yn Ewrop" ar gyfer pwerdy niwclear mawr.

Mae cyfres o wleidyddion ar yr ynys, yn San Steffan ac ym Mae Caerdydd wedi bod yn galw am adweithydd niwclear ar y safle.

Maen nhw'n ei weld fel cyfle i greu miloedd o swyddi ar yr ynys, sydd wedi gweld colledion mawr dros y blynyddoedd.

Maen nhw hefyd yn gweld ei fod yn ffordd dda o ennill pleidleisiau.

Pwy sy'n gwrthwynebu Wylfa?

Mae mudiadau gwrth-niwclear ac amgylcheddol yn dadlau bod angen canolbwyntio ar ffynonellau ynni adnewyddadwy, gan ddweud mai methiant fu pob ymdrech hyd yma i leoli adweithyddion niwclear mawr newydd ar safle Wylfa.

Pobl Atal Wylfa B (PAWB) sydd fwyaf amlwg ar yr ynys, yn dadlau'n gryf yn erbyn unrhyw ddatblygiad niwclear pellach ar Ynys Môn.

Mae mudiadau fel Greenpeace hefyd wedi cwestiynu costau atomfeydd newydd, gan ddisgrifio Hinkley fel "trychineb ariannol".

Pynciau cysylltiedig