Cyfyngu posib ar ble mae siopau yn cael arddangos bwydydd sothach

Byddai'r rheolau newydd yn cyfyngu ar ble mae cwmnïau'n cael arddangos bwydydd sothach mewn siopau
- Cyhoeddwyd
Fe allai archfarchnadoedd yng Nghymru gael eu gwahardd rhag arddangos bwydydd sothach ger mannau talu mewn siopau o fis Mawrth 2026.
Byddai'n rhaid symud bwydydd o'r fath o fynediadau siopau ac o hafanau gwefannau pe bai rheoliadau newydd Llywodraeth Cymru yn cael eu cymeradwyo fis nesaf.
Cafodd rhagor o wybodaeth am y cynigion - sydd hefyd yn cynnwys gwaharddiad ar gynigion amlbryniant ar gyfer bwydydd sy'n cynnwys lefelau uchel o siwgr a halen a chynigion ail-lenwi diodydd llawn siwgr - eu cyhoeddi ddydd Llun.
Dywedodd Ysgrifennydd Iechyd Cymru fod natur ein siopau "yn cael effaith ar y fath o fwyd a diod yr ydym ni yn ei brynu".
'Mwy o waith i'w wneud eto'
Nod y cynigion yw lleihau nifer y bobl sy'n prynu eitemau o'r fath mewn mannau gwerthu penodol gan fusnesau sy'n cyflogi 50 neu fwy o bobl.
Ni fyddai'r rheoliadau newydd yn effeithio ar siopau bach neu rhai sy'n arbenigo mewn un math o gynnyrch, megis siopau siocled neu felysion.
Fe allai busnesau sydd ddim yn cydymffurfio wynebu dirwyon o hyd at £2,500.
Yn ôl yr Ysgrifennydd Iechyd, Jeremy Miles, gan fod bron i chwarter plant Cymru dros eu pwysau neu'n ordew erbyn iddyn nhw ddechrau yn yr ysgol, "mae angen gweithredu er mwyn helpu pobl i wneud newidiadau cadarnhaol i'w ffordd o fyw".
Dywedodd Dr Julie Bishop o Iechyd Cyhoeddus Cymru: "Ry'n ni'n gwybod fod pobl eisiau gwneud dewisiadau iachach, ac fe fyddai hyn yn un cam i'r cyfeiriad hwnnw, ond mae mwy o waith i'w wneud eto."
Mae Consortiwm Manwerthu Cymru wedi rhybuddio yn y gorffennol y gallai cynlluniau o'r fath leihau'r dewis a chynyddu'r prisiau.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Chwefror 2023
- Cyhoeddwyd27 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd15 Gorffennaf 2024