Ystyried gwaharddiad ar ail-lenwi diodydd melys am ddim
- Cyhoeddwyd
Gall bwytai a chaffis gael eu gwahardd rhag cynnig ail-lenwi diodydd llawn siwgr am ddim dan gynigion newydd Llywodraeth Cymru.
Mae’r Gweinidog Iechyd yn galw am adborth ar gamau, dolen allanol i gyfyngu ar “hyrwyddo bwyd â lefelau uchel o fraster, siwgr a halen”.
Mae’r awgrymiadau hefyd yn cynnwys cyfyngu ar gynigion 'prynu un a chael un am ddim' ar fwydydd sothach.
Dywed Llywodraeth Cymru eu bod yn “cefnogi pobl Cymru i wneud y penderfyniad iachus”.
- Cyhoeddwyd27 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd24 Ebrill
- Cyhoeddwyd13 Gorffennaf
Mae’r cynigion “i wneud yr amgylchedd bwyd yn iachach,” fel y mae’r llywodraeth yn eu disgrifio, hefyd yn cynnwys gwahardd siopau rhag rhoi bwydydd sothach mewn mannau amlwg, fel wrth ymyl y fynedfa ac ar ddiwedd rhesi.
Byddai’r rheolau hefyd yn berthnasol i siopau ar-lein.
Yn ôl y llywodraeth, mae bwydydd sothach yn cael eu hyrwyddo mwy na rhai iachus – gan ddylanwadu ar yr hyn y mae pobl yn dewis ei fwyta.
Dywedodd Karen Salisbury o Wrecsam fod angen addysgu plant am yr hyn y maen nhw’n ei fwyta.
“Mae llai a llai o blant yn gyfarwydd â llysiau erbyn hyn,” medd Ms Salisbury.
Ychwanegodd myfyriwr 21 oed ei fod yn anoddach bwyta'n iach gan fod costau’n uchel.
“Mae cost llawer o bethau wedi codi,” medd Vishley Furtado, “dylen ni fwyta’n fwy iachus a dylen nhw hyrwyddo hynny”.
Mae modd rhoi adborth ar y syniadau, dolen allanol tan ganol nos ar 23 Medi. Pe tai’r Senedd yn cymeradwyo'r cynigion, byddan nhw’n dod i rym yn 2025.
Cafodd cynlluniau i gyfyngu ar brydau bargen (meal deals) â lefelau uchel o fraster, siwgr â halen eu cyhoeddi y llynedd, er mwyn mynd i'r afael â gordewdra a diabetes.
Lleisiodd adwerthwyr bryder am y cynllun yn sgil prisiau bwyd uchel, ac fe wnaeth elusen anhwylder bwyta ddweud y gallai’r syniad fod yn niweidiol i bobl â'r cyflwr.
Ym mis Mehefin 2020, fe wnaeth Yr Alban oedi mesur i gyfyngu ar hyrwyddo bwyd sothach yn sgil y pandemig.
Cafodd cynlluniau i wahardd cynigion 'prynu un a chael un am ddim' ar fwyd sothach eu hoedi gan Lywodraeth y DU tan 2025.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod am gefnogi pobl Cymru i wneud y penderfyniad “iachus” a “hawdd wrth siopa bwyd a mynd am bryd o fwyd”.
“Mae’r mesur arfaethedig hyn yn rhan o ystod eang o gamau, rhai'n wirfoddol a rhai’n orfodol, ry’n ni’n eu hystyried er mwyn annog y sector bwyd a diod i gynhyrchu, hyrwyddo a gwerthu bwyd a diod iachach,” meddai.