Cyllideb Llywodraeth Cymru: Beth allwn ni ei ddisgwyl?

Mark DrakefordFfynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Fe fydd Mark Drakeford yn cyhoeddi cynllun gwario gwerth dros £25bn

  • Cyhoeddwyd

Bydd cynllun gwerth mwy na £25bn i ariannu gwasanaethau cyhoeddus Cymru yn cael ei gyhoeddi ddydd Mawrth.

Yn y gyllideb fe fydd yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford yn nodi sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu gwario eu harian y flwyddyn nesaf.

Mae'r gyllideb hefyd yn debygol o gael effaith ar yr economi, diolch i'r pwerau sydd gan y llywodraeth dros drethi.

Ond mae'r sefyllfa wleidyddol yn y Senedd yn golygu bod yn rhaid i Lafur ddod i gytundeb gyda phlaid arall er mwyn troi'r gyllideb yn realiti.

Iechyd

Fe wnaeth Eluned Morgan gyfaddef mewn araith yn ddiweddar bod yr amseroedd aros hir am ofal yn y gwasanaeth iechyd yn "argyfwng".

Roedd lleihau'r rhestrau aros hir am driniaethau a grëwyd yn ystod yr argyfwng Covid yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru ar ôl y pandemig.

Ond dair blynedd yn ddiweddarach ac mae mwy o bobl nag erioed yn aros i gael eu trin.

Bydd iechyd yn llyncu tua hanner y gyllideb hon, sy'n cynnwys cynlluniau ar gyfer y cyfnod yn arwain lan at yr etholiad nesaf yn 2026.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd ychydig dros 801,300 o driniaethau eto i'w cwblhau yng Nghymru ym mis Medi, yn ôl y ffigyrau diweddaraf

'Trawsnewid'

Ym mis Hydref, fe wnaeth y Canghellor Rachel Reeves roi £1bn ychwanegol i Lywodraeth Cymru ei wario yn y gyllideb hon.

Mae'n teimlo fel "byd gwahanol" o gymharu â'r toriadau a chwyddiant uchel diweddar, meddai'r Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford.

Mae arbenigwyr ym Mhrifysgol Caerdydd yn dweud y dylid "trawsnewid" y gyllideb a chaniatáu i'r llywodraeth wario mwy ar iechyd heb orfod torri gwariant mewn meysydd eraill.

Ond mae'r sefyllfa'n llai eglur ar ôl 2026, ac mi allai hynny arwain at benderfyniadau anodd i wasanaethau cyhoeddus yn y dyfodol agos.

Gofal

Mae'r rhan fwyaf o wasanaethau cyhoeddus yn cael eu rhedeg gan y 22 awdurdod lleol, ac mae rhai ohonynt wedi cyhoeddi rhybuddion enbyd am eu cyllidebau.

Mae gofal cymdeithasol, ysgolion, casglu biniau, llyfrgelloedd a phyllau nofio i gyd yn cael eu darparu gan gynghorau, sy'n cael y rhan fwyaf o'u cyllid gan Lywodraeth Cymru.

Mae 'na rybuddion wedi bod ynglŷn â bylchau ariannol yn eu coffrau.

Mae eu harweinwyr yn dadlau nad oes modd datrys problemau'r gwasanaeth iechyd oni bai bod gofal cymdeithasol yn cael mwy o sylw.

Ond mae'r cwmnïau sy'n darparu'r gofal yn dweud bod eu costau nhw yn cynyddu a chyn bo hir bydd yn rhaid iddyn nhw dalu mwy o Yswiriant Gwladol.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Canghellor Rachel Reeves wedi rhoi £1bn ychwanegol i Lywodraeth Cymru ei wario yn y gyllideb hon

Costau byw

Efallai bod Mark Drakeford wrth ei fodd bod Ms Reeves wedi rhoi mwy iddo i'w wario.

Ond bob wythnos yn y Senedd mae'r pleidiau eraill yn ymosod ar rai o'i phenderfyniadau eraill, fel y prawf modd i bensiynwyr ar gyfer y taliad tanwydd gaeaf a chynnal y cap dau-blentyn ar fudd-daliadau i deuluoedd.

Mae Llywodraeth Yr Alban wedi cynnig cymorth i bobl sy'n cael eu heffeithio gan y penderfyniadau hynny.

Nid oes gan Lywodraeth Cymru'r un pwerau dros y system fudd-daliadau, ond fe fydda nhw'n dal i wynebu galwadau i helpu pobl gyda chostau byw.

Mae rhai pwerau dros dreth wedi eu datganoli i Gymru, gan gynnwys dros gyfran o dreth incwm a'r dreth trafodiadau tir ar brynu cartref.

Fe all codi trethi roi ychydig mwy o arian i weinidogion ei wario - ond byddai codi treth incwm yn benderfyniad enfawr.

Nid yw cyfraddau Cymreig y dreth wedi newid ers iddynt gael eu datganoli yn 2019.

Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru/PA
Disgrifiad o’r llun,

Bydd yn rhaid i Lafur gael cefnogaeth gan un o'r pleidiau eraill os yw'r Gyllideb am gael ei phasio

Taro bargen

Oherwydd eu bod â llai na hanner y seddi yn y Senedd, ni all y blaid Lafur basio'r gyllideb heb gymorth o leiaf un aelod o blaid arall mewn pleidleisiau hollbwysig y flwyddyn nesaf.

Bydd llawer o drafod a bargeinio y tu ôl i ddrysau caeëdig, os nad yw hynny wedi dechrau'n barod.

Mae Eluned Morgan wedi rhybuddio y bydd Cymru'n colli arian os na fydd ei chyllideb yn llwyddo.

Gallai colli pleidleisiau hefyd dorri 10c oddi ar bob £1 o dreth incwm, gan amddifadu Llywodraeth Cymru o arian hanfodol.

Efallai fod hynny'n apelio at rai, ond fe fyddai'n argyfwng gwleidyddol ac ariannol i'r Senedd – ac mae'n anodd dychmygu llywodraeth yn goroesi hynny.

Yn ôl Mark Drakeford, fe fydd y gyllideb ddrafft ar gyfer 2025/26 yn cynnig "dyfodol disglair" i Gymru.

Dywedodd y Ceidwadwyr fod angen gwario mwy o arian ar ofal cymdeithasol a'r gwasanaeth iechyd, meysydd "sydd wedi cyrraedd argyfwng".

Ychwanegodd eu llefarydd cyllid, Peter Fox, fod angen adolygu'r ffordd y mae arian yn cael ei wario hefyd.

Fe fyddai cefnogaeth yr unig Ddemocrat Rhyddfrydol yn y Senedd, Jane Dodds, yn datrys problemau'r llywodraeth.

Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast, dywedodd Ms Dodds ei bod hi "am weld beth sydd yn y gyllideb ddrafft" cyn penderfynu ar gefnogi'r llywodraeth neu beidio.

"Mae'n bwysig ein bod ni'n cael y gyllideb drwodd ac ry'n ni'n cael yr arian yn llawn. Rwy'n agored i siarad â nhw ond dwi ddim yn gwybod beth fydd yn digwydd eto."

Ychwanegodd ei bod hi am weld sut fydd y gylldieb yn "canolbwyntio ar flaenoriaethau fy mhlaid a beth rydym am ei wella yng Nghymru hefyd".

Roedd y tair cyllideb ddiwethaf yn rhan o gytundeb cyd-weithio rhwng Llafur a Phlaid Cymru, sydd bellach wedi dod i ben.

Dywedodd Plaid Cymru y dylai Eluned Morgan ofyn i lywodraeth Keir Starmer am "gyllid deg" i Gymru.

"Os bydd hi'n methu, yna bydd cyllideb Llafur yn golygu mwy o doriadau a chyllid gwasanaeth iechyd sy'n sicrhau ychydig iawn o enillion," meddai llefarydd cyllid y blaid, Heledd Fychan.