'Gall Cymru golli £1bn heb gytundeb ar y gyllideb'

Eluned MorganFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Daeth rhybudd Eluned Morgan i'r gwrthbleidiau wrth iddi gadarnhau y bydd £157m yn ychwanegol ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus

  • Cyhoeddwyd

Fe allai Cymru golli £1bn os na fydd y gwrthbleidiau’n cefnogi cyllideb Llafur Cymru y gaeaf hwn - dyna rybudd y prif weinidog.

Dywedodd Eluned Morgan na fydd yna godiadau mewn cyflogau i weithwyr yn y sector cyhoeddus y flwyddyn nesaf, heb help gan eraill.

Does gan Lafur ddim mwyafrif yn y Senedd felly mae angen o leiaf un gwleidydd arall i gefnogi cynlluniau gwario'r llywodraeth er mwyn eu pasio.

Mae trafodaethau wedi cael eu cynnal gydag arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru Jane Dodds, ond does dim cytundeb eto.

Yng nghyllideb y Deyrnas Unedig ym mis Hydref fe gyhoeddwyd y bydd yna £1.7bn yn ychwanegol i Gymru - £774m ar gyfer y flwyddyn hon, a £930m ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Rhaid pasio cyllideb er mwyn derbyn yr arian yma.

Os nad yw hynny yn bosib fe fydd yr arian y gall Llywodraeth Cymru ei wario ar wasanaethau cyhoeddus yn cael ei dorri.

Ffynhonnell y llun, Cyngor Celfyddydau Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Eluned Morgan a'r Gweinidog Celfyddydau Jack Sargeant yn troelli platiau yn ystod ymweliad â chwmni NoFit State Circus

Daw'r sylwadau wrth i'r llywodraeth gyhoeddi £157m yn ychwanegol ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus Cymru, sy'n cynnwys £1m i Gyngor Celfyddydau Cymru.

Dywedodd eu cadeirydd na fyddai'n gwneud yn iawn am yr holl arian a gollwyd wedi'r gyllideb ddiwethaf pan gafodd sefydliadau celfyddydol eu taro'n galed wrth i'r llywodraeth flaenoriaethau gwariant ar y gwasanaeth iechyd a threnau.

Dywedodd Eluned Morgan wrth BBC Cymru bod ei chabinet wedi trafod y gyllideb ddydd Llun.

"Wrth gwrs mi fydd rhaid i ni gael help llaw gan rywun o blaid arall," meddai.

"Dwi'n meddwl ei fod yn rili pwysig bod pobl yn deall, os na allwn ni gael y gyllideb yma drwodd, ni fyddwn ni'n gweld y biliwn ychwanegol yna yn dod i goffrau y llywodraeth.

"Hynny yw, fydd 'na ddim codiad cyflog i'r bobl sydd yn gweithio yn ein gwasanaethau cyhoeddus ni.

"Mae'n rhaid i bobl ystyried o ddifri' os ydyn nhw'n mynd i'n cefnogi neu beidio."

Ffynhonnell y llun, Cyngor Celfyddydau Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y Gweinidog Celfyddydau a'r Prif Weinidog yn wên i gyd wrth gwrdd â pherfformwyr syrcas ddydd Llun

Roedd Eluned Morgan wedi gwahodd Plaid Cymru i'w helpu i basio'r gyllideb.

Ar y pryd dywedodd ffynhonnell ym Mhlaid Cymru nad oedd "unrhyw drafodaethau ar gytundeb cyllidebol".

Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi dweud fodd bynnag nad eu gwaith nhw yw helpu Llafur Cymru i basio eu cyllideb.

Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ei chyllideb ddrafft ar 10 Rhagfyr, gyda'r bleidlais allweddol yn cael ei chynnal yn y flwyddyn newydd.

Mae gan Lywodraeth Cymru £157m yn ychwanegol i'w wario eleni yn sgil penderfyniadau a wnaed yng nghyllideb y canghellor Rachel Reeves ym mis Hydref.

Bydd £21m yn cael ei ddefnyddio i brynu offer diagnostig i'r gwasanaeth iechyd i helpu lleihau amseroedd aros, ac £20m ar gyfer gwaith atgyweirio mewn ysgolion a cholegau.

Mae £1m yn cael ei roi i Gyngor Celfyddydau Cymru, sydd yn ychwanegol i'r £1.5m roddwyd ym mis Medi, a hynny i helpu sefydliadau sy'n wynebu problemau ariannol ac i warchod swyddi.

Bydd 60 sefydliad celfyddydol o hyd a lled Cymru yn elwa o'r gronfa gwerth £3.6m.

Dywedodd Eluned Morgan ei fod "wedi torri ein calon ni i weld y toriadau yna y llynedd - roedd rhaid i ni wneud penderfyniadau anodd, ac roedd rhaid i ni flaenoriaethu'r NHS".

"'Dan ni'n falch iawn ein bod yn gallu rhoi'r arian yna yn ôl i mewn i'r system, i helpu mudiadau fel NoFit State Circus, fel y Welsh National Opera ac fel Blackwood Miners, fel eu bod nhw i gyd yn cael chwarae teg."

Dywedodd bod Llywodraeth Cymru wedi wynebu toriadau llym ers 14 mlynedd, ond "yr hyn sydd gennym ni nawr yw llywodraeth sy’n awyddus iawn i fuddsoddi yn y sector cyhoeddus".

'Mwy o sefydlogrwydd' yw'r gobaith

Ymysg y grwpiau eraill fydd yn derbyn arian mae Theatr Glan yr Afon yng Nghasnewydd, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth ac Eisteddfod Ryngwladol Llangollen.

Dywedodd cadeirydd y Cyngor Celfyddydau Maggie Russell bod "derbyn toriad o 10.5% wedi bod yn anodd iawn".

"Mae'r sector gelfyddydol yn dal yn gorfod darparu gwaith o safon dan amgylchiadau anodd iawn.

"Felly na, dyw o ddim yn gwneud yn iawn am yr holl arian yna, ond 'dan ni wir yn gobeithio mai dyma ddechrau i'r sector allu cynllunio, a chael mwy o sefydlogrwydd ariannol wrth symud ymlaen."