Pentref gwledig wedi'i 'gau i ffwrdd' rhag y byd modern

Mae John Bowler yn ddibynnol ar e-byst er mwyn gallu cysylltu gyda'i ddoctoriaid
- Cyhoeddwyd
Mae trigolion pentref yn y de-ddwyrain yn dweud eu bod wedi eu "cau i ffwrdd" rhag y byd modern oherwydd diffyg cysylltiad gyda'r we.
Mae rhai sy'n byw yn Llan-gwm ger Brynbuga hefyd yn dweud bod signal ffôn gwael yn golygu ei bod hi'n anodd gweithio o adref a chadw mewn cysylltiad â phobl.
Yn ôl un dyn byddar sy'n derbyn triniaeth am ganser, mae wedi methu apwyntiadau ysbyty gan nad oedd e-byst wedi ei gyrraedd mewn pryd.
Mae Voneus, y cwmni sy'n darparu cysylltiad â'r we i nifer yn y pentref, wedi cael cais am ymateb.
- Cyhoeddwyd28 Mehefin 2024
- Cyhoeddwyd29 Awst 2022
- Cyhoeddwyd11 Ionawr 2022
Mae rhai trigolion wedi dweud wrth BBC Cymru eu bod nhw wedi gorfod dringo i ben bryn cyfagos er mwyn derbyn signal ffôn digonol.
Ond mae John Bowler, 74, yn fyddar ac felly yn ddibynnol ar e-byst er mwyn gallu cysylltu gyda'i ffrindiau a doctoriaid.
"Mae'r we yn ofnadwy o bwysig i mi," meddai.
"Mae fy nghlyw i yn gwaethygu ac mae gen i broblemau iechyd eraill felly dwi'n dueddol o fod angen nifer o apwyntiadau, a dwi'n trefnu mwyafrif y rhain ar e-bost.
"Ond os nad ydw i'n ofalus, fe fydda i'n methu apwyntiadau. Dwi wedi methu sawl un yn barod."
'Pethau wedi gwaethygu'
Roedd cwmni Broadway yn darparu cysylltiad band-eang i nifer o bentrefwyr Llan-gwm, ond maen nhw bellach yn cael eu rheoli gan gwmni arall o'r enw Voneus.
Ar eu gwefan mae Voneus yn dweud mai eu "ffocws yw gwella'r cysylltiad band-eang mewn cymunedau anghysbell".
"Mi gawsom ni broblemau pan mai Broadway oedd y cyflenwr, ond mae pethau wedi gwaethygu ers i Voneus gymryd drosodd," meddai Mr Bowler.
"Ry'n ni'n cael ein cau i ffwrdd oherwydd mae'r cymdogion agosaf yn byw hanner milltir i ffwrdd, ac ry'n ni 300 lath i ffwrdd o unrhyw ffordd, felly 'ych chi'n gallu mynd dyddiau heb weld unrhyw un.
"Rydw i wedi cael sawl trawiad ar y galon, a fyswn i methu troi at gymydog pe bawn i yma ar ben fy hun."
Ychwanegodd ei fod yn teimlo'n "fregus" yn sgil yr holl ansicrwydd.

Roedd plant Keri Williams yn cael trafferth gwneud gwaith ysgol yn ystod y pandemig oherwydd problemau gyda'r we
Yn ôl Keri Williams, fe wnaeth hi brynu dysgl loeren arbennig er mwyn cysylltu â'r we, gan ei bod wedi cael digon o anghysondeb y cyflenwad.
"Ro'n i'n gweithio gartref, roedd y ferch yn y coleg a doedd yr un ohonom yn gallu cysylltu gyda'r we - roedd yn hunllef," meddai.
"Ro'n i'n gorfod cerdded i ben pella'r ardd, neu yrru i'r dref er mwyn cael signal 4G."
Ychwanegodd bod ei phlant wedi ei chael yn anodd cael mynediad at waith ysgol yn ystod y pandemig, a hyd yn oed ar ôl prynu'r ddysgl loeren newydd, mae'r teulu yn dal i gael trafferthion o dro i dro.
"Roedden ni wedi cyrraedd y pwynt lle doedd y mab methu chwarae gemau ar yr Xbox a doedd y ferch methu cysylltu â'i ffrindiau," meddai Ms Williams.

Mae Jay Coleman wedi disgrifio'r sefyllfa fel "ffars"
Mae Jay Coleman, sydd hefyd yn byw yn y pentref, yn dweud ei fod yn cael trafferth rhedeg ei fusnes oherwydd yr heriau cysylltedd.
"Mae o'n araf ofnadwy. Mae'r holl bentref yn colli cysylltiad - ac mae hi'n gallu bod yn amhosib gweithio yma bron," meddai.
"O ddydd Iau tan ddydd Llun 'da ni heb gysylltiad â'r we, a heb unrhyw ffordd o gysylltu â'r byd."
Ychwanegodd fod y genhedlaeth hŷn yn y pentref yn aml yn "styc" o ganlyniad.
Mae Mr Coleman, sy'n berchen ar gwmni llety gwyliau ac asiantaeth dai, yn dweud ei fod wedi gorfod ad-dalu rhai cwsmeriaid oherwydd cwynion am ansawdd y cysylltiad â'r we yn y pentref.
Dywedodd ei bod hi "bron yn amhosib" cael gafael ar Voneus i drafod y broblem.
Mae Voneus wedi cael cais am ymateb gan BBC Cymru.