Anghysondeb o ran cysylltiad cyflym â'r we yn 'annheg'
- Cyhoeddwyd
Mae gwahaniaethau mawr yng nghyflymder band-eang o un rhan o Gymru i'r llall yn “annheg”, yn ôl rhai sy'n byw yn yr ardaloedd sydd â'r cysylltiadau gwanaf.
Tra bod rhai ardaloedd yng nghanol Caerdydd yn gallu hawlio cysylltiadau i’r we yn gyflymach na 200mbps (megabit yr eiliad), mewn mannau eraill mae’r cysylltiad yn arafach o lawer.
Gogledd Abertyleri a Chwmtyleri yn y de-ddwyrain sydd â'r cysylltiad gwaethaf yng Nghymru ar hyn o bryd.
Gyda'r etholiad cyffredinol ar y gweill, mae'r gwahanol bleidiau yn addo gwella’r ddarpariaeth.
Mae gan ardal Tonypandy yn Rhondda Cynon Taf un o'r cysylltiadau arafaf yn y wlad, gan gyrraedd 53mbps ar gyfartaledd.
“Dwi’n gweld e’n annheg, achos ma’r we nawr, ma' fe’n beth pwysig,” meddai Geraint Parfitt.
Mae Mr Parfitt yn 53 oed ac yn byw yn Nhonypandy gyda’i wraig a dau blentyn, gyda’r teulu cyfan yn dibynnu ar gysylltiad cyflym â'r we.
“Os ydych chi’n trio am swyddi neu am gael unrhyw fath o wybodaeth, neu os bydd eisiau i ti neud unrhyw beth gyda’r banc, ma' raid i ti fynd ar y wefan.
“Os does dim cysylltiad da gyda ti, mae e’n effeithio’r ffordd mae e’n mynd i weithio.”
Ers symud i’w dŷ presennol, mae Mr Parfitt wedi talu’n ychwanegol am gysylltiad ffeibr, ac mae’n dweud mai araf iawn fyddai’r cysylltiad heb iddo dalu mwy.
“Os wyt ti’n gwylio stwff ar y teledu, catch-up neu beth bynnag, ma' rhaid i ti gael broadband gloi," meddai.
“Yn enwedig gyda’r teulu, achos mae’r ferch lan lofft yn gwylio rhywbeth ar YouTube, mae’r mab yn gêman, dwi’n fan hyn yn watcho rhyw ffilm, mae’r wraig yn 'neud rhywbeth arall.
“Ar chwech meg neu dau meg neu be' bynnag, elli di ddim cael hynny.”
Mae data’n dangos bod Geraint yn byw yn un o’r ardaloedd sydd â’r cysylltiadau arafaf yng Nghymru.
Ble yng Nghymru mae'r cysylltiadau gwaethaf?
Yn ôl data Ofcom, dyma'r cymunedau gyda'r cysylltiadau arafaf yng Nghymru:
Gogledd Abertyleri a Chwmtyleri - 47.3mbps
Ystrad a Llwynypia - 52.8mbps
De Abertyleri a Llanhiledd - 52.9mbps
Gorllewin Tonypandy a Chwm Clydach - 53.2mbps
Dwyrain Tonypandy - 53.3mbps
Mae gan gymunedau o amgylch Tonypandy yn Rhondda Cynon Taf ac Abertyleri ym Mlaenau Gwent gyflymder cyfartalog o rhwng 47 a 53mbps.
Ond mae gan rai cartrefi gysylltiadau arafach fyth.
O amgylch Caerdydd, Casnewydd ac Abertawe mae’r cyflymderau cyflymaf yn y de, tra bod rhannau o Sir y Fflint a Sir Ddinbych yn y gogledd-ddwyrain hefyd yn gymharol gyflym.
Mae gan ardal gogledd Cathays yng Nghaerdydd gyflymder cyfartalog o 252mbps, yn ôl data'r rheoleiddiwr Ofcom.
Mae Ogi yn un o’r cwmnïau cyfathrebu sy’n gosod gwifrau ffeibr mewn cymunedau o amgylch de Cymru.
Yn ddiweddar mae’r cwmni wedi cwblhau’r gwaith o wella’r cysylltiad yn Nhonypandy, ac fe ddylai’r gymuned symud o fod ymhlith y gwaethaf i fod ag un o’r cysylltiadau cyflymaf i’r we yng Nghymru.
Y gobaith wrth osod rhwydwaith newydd o wifrau ffeibr yw helpu gwella cyflymder a dibynadwyedd y we mewn ardaloedd a oedd wedi dioddef gyda chysylltiadau araf yn y gorffennol.
'Gwneud gwahaniaeth'
“Mae yn gwneud gwahaniaeth massive a dweud y gwir,” meddai Wyn Innes, prif swyddog ariannol Ogi.
“Mae pobl yn Nhonypandy, lle ry’n ni nawr, yn gallu cael hyd at 1gig o gyflymder.
"Mae ein pecynnau ni yn cychwyn ar 200mbps, mae hynny’n gyflymach na’r cyfartaledd cenedlaethol ac mae’n wirioneddol ffantastig bod cymunedau fel hyn ar flaen y gad yn hytrach na bod nhw ar ei hôl hi."
Fel cwmni preifat mae Ogi yn dweud eu bod yn targedu cymunedau gyda digon o gwsmeriaid posib, ond eu bod wedi “estyn mas i’r llywodraeth” am arian cyhoeddus er mwyn helpu gwella’r cysylltiadau we mewn ardaloedd sydd ddim yn gwneud synnwyr masnachol.
Dywedodd Mr Innes fod cysylltiadau cyflym “yn rhoi iddyn nhw, am y tro cyntaf erioed, yr adnodd i gael y connectivity cyflym yna sy'n fendith i ni gyd” yn y Gymru gyfoes.
Tra bod rhai yn dechrau derbyn cysylltiadau cyflym, mae Coleg y Cymoedd yn pryderu am fyfyrwyr sydd yn dal i orfod delio â chysylltiad araf.
Bellach mae’r coleg wedi gwella'r cysylltiad eu hunain, gan wario £30,000 i gyflymu’r gwasanaeth ar gyfer myfyrwyr a staff.
“Mae lot o waith y myfyrwyr [yn digwydd] ar draws y coleg i gyd - mae rhaid iddyn nhw wneud ymchwiliadau ar-lein, ma' rhaid iddyn nhw wneud rhan o'u gwaith nhw ar-lein,” meddai Lois Moreman o’r coleg.
“Heb gysylltiad da i’r we, mae e’n neud e’n rili galed iddyn nhw.
“Ac mae lot fawr o'n myfyrwyr ni yn gwario trwy’r dydd yma’n barod. Dy’n nhw ddim eisiau aros yma am oriau yn y nos yn neud eu gwaith.
“So mae e’n broblem enfawr i’n myfyrwyr ni.”
Mae cyllid gan lywodraethau’r DU a Chymru wedi cyfrannu at y gost o osod cysylltiadau cyflym iawn mewn cymunedau lle nad yw wedi apelio’n fasnachol i’r cwmnïau preifat.
Beth yw barn y pleidiau?
Wrth i’r etholiad agosáu, mae’r pleidiau gwleidyddol yn trafod y pwnc wrth ymgyrchu.
Dywedodd llefarydd ar ran y Ceidwadwyr fod y blaid wedi darparu “biliynau mewn cyllid ar gyfer band eang gigabit” a bod “llywodraeth Lafur Cymru ar ei hôl hi”.
Ychwanegodd fod “angen i weinidogion Llafur ehangu a chyflymu eu cyllid ar gyfer offer a chostau gosod” yr isadeiledd fel mater o flaenoriaeth.
Dywedodd Llafur fod buddsoddiad y Ceidwadwyr mewn 5G “ar ei hôl hi o gymharu â gwledydd eraill, a bod y broses o gyflwyno band eang gigabit wedi bod yn araf”.
Nododd y blaid hefyd fod “llywodraeth Lafur Cymru wedi pontio’r bwlch” ac wedi darparu “mynediad i fand eang gigabit i fwy na 121,000 o adeiladau”.
Dywedodd Plaid Cymru mai ardaloedd gwledig sy’n “dioddef fwyaf gyda chysylltiadau band eang gwael”, ac y byddai’n galw ar Lywodraeth y DU i “ryddhau mwy o arian Prosiect Gigabit” i wella cysylltiadau mewn ardaloedd sydd ag ychydig neu ddim mynediad i fand eang cyflym, neu signal 4G.
Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol yn dweud fod mynediad cyflym i’r rhyngrwyd yn “hollbwysig yn y byd sydd ohoni, yn enwedig gan fod rhai cymunedau gwledig eisiau manteisio ar newid patrymau gwaith”.
Maen nhw'n addo cyflwyno ffurf unigryw o sicrhau bod pob cartref yn gallu cael mynediad at gysylltiad cyflym iawn.
Dywedodd Reform fod cysylltiadau cyflym iawn yng nghefn gwlad Cymru yn “warthus” ar hyn o bryd.
Mae’r blaid yn addo y byddai’n “annog cydweithio” rhwng y llywodraeth a chwmnïau cyfathrebu i ariannu gwell cysylltiadau “i unrhyw gymuned sy’n mynnu hynny erbyn 2029”.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Awst 2022
- Cyhoeddwyd4 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd30 Medi 2020