Hunangofiant 'gonest a phwerus' yn ennill Llyfr y Flwyddyn 2025
Cip tu ôl i'r llen yng ngwobrau Llyfr y Flwyddyn 2025
- Cyhoeddwyd
Mae Iola Ynyr wedi cipio gwobr Llyfr y Flwyddyn 2025 a Gwobr Ffeithiol Greadigol gyda'i hunangofiant.
Dywedodd y beirniaid bod Camu wedi eu "cynnal o'r llinell gyntaf" a'i bod yn "neges i ni gyd, dim ots faint oed ydan ni, i weld gwerth yn ein hunain".
Yn siarad gyda Cymru Fyw y llynedd, dywedodd Iola mai rhaglen adferiad 12 cam wnaeth achub ei bywyd ar ôl cyfnodau tywyll o ddibyniaeth ar alcohol.
Dywedodd ddydd Gwener ei bod "wedi mopio" ac "yn dal mewn sioc" ar ôl ennill prif wobr categorïau Cymraeg y seremoni flynyddol, a gafodd ei chynnal yn Theatr y Sherman yng Nghaerdydd nos Iau.

Enillydd y Wobr Farddoniaeth eleni oedd Meleri Davies gyda Rhuo ei distawrwydd hi, a Gwenno Gwilym enillodd Gwobr Barn y Bobl Golwg360 am ei llyfr V + Fo.
Prif enillydd y wobr Saesneg eleni oedd Carys Davies am ei nofel Clear.

Yn y llyfr yma mae Iola Ynyr yn ceisio perchnogi ei bywyd drwy wynebu pynciau dwys o'i gorffennol
Mewn cyfweliad ar raglen Dros Frecwast ddydd Gwener, dywedodd Iola Ynyr bod yr ysgrifau hunangofiannol yn Camu yn amlinellu "fy mhroses i o drio 'neud heddwch efo fi'n hun a'n hanes i yn dod i adferiad o'n alcoholiaeth".
Roedd yn awyddus, meddai, i wneud hynny mewn ffordd greadigol "fel bod o'n saff i fi ac i bobol sydd 'di ca'l eu heffeithio gan fy salwch i, a trio ffeindio y goleuni sy'n dod o bob her 'dan ni'n wynebu mewn bywyd".
"Oedd 'na betha' o'n i'n gw'bod o'n i isio'i dd'eud ac o'n i wedi rhoid rheol bach i fy hun bo' fi ddim yn mynd i 'neud o'n boenus.
"O'n i jyst yn mynd i ddilyn fy nhrywydd a gweld lle oedd unrhyw syniad yn mynd â fi."
Ond fe gyfaddefodd bod y bennod am ei mam "yn anodd iawn achos o'n i'n gw'bod gymaint o boen o'n i 'di achosi i'n rhieni.
"Dyna oedd yn anodd - trio peidio 'neud mwy o niwed na be' 'dw i 'di 'neud yn barod, ond hefyd trio mynegi'r cariad a'r diolchgarwch at bobol sydd wedi 'nghefnogi."

Mae Iola Ynyr yn awdur, dramodwr a chyfarwyddwr sy'n angerddol dros hyrwyddo llesiant drwy greadigrwydd a chysylltu gyda'r byd naturiol
Mae dod i'r brig yng ngwobrau Llyfr y Flwyddyn yn "hwb aruthrol - do'n i 'rioed 'di dychmygu fysa hyn yn digwydd".
Mae'r gwobrau, meddai, "yn dangos pa mor bwysig ydi 'sgwennu a bod yna statws iddo.
"Yn aml iawn, mae'n gallu bod yn waith unig iawn felly mae'n dda bod ni'n cael ein cydnabod, bod ni'n sylweddoli bod yna gymuned ohonan ni."
Hunangofiant 'greadigol, grefftus'
Y beirniaid eleni oedd Menna Elfyn, Gwenllian Ellis, Miriam Elin Jones a Hammad Rind.
Fe ddywedon nhw bod cyfrol Iola Ynyr yn "greadigol, grefftus" a bod gan yr awdures "feistrolaeth dros yr iaith ac mae'r dweud yn ysgytwol".
Ychwanegodd Gwenllian Ellis fod Iola yn "dinoethi ei hun yn llwyr wrth drafod ei dibyniaeth alcohol, ond mae o'n daith at wellhad ac yn neges i ni gyd, dim ots faint oed ydan ni, i weld gwerth yn ein hunain".
"Er fod 'na dywyllwch, er fod 'na dristwch, ma' 'na dynerwch a chariad yn bodoli rhwng y cloria'," meddai.
Fe gafodd gwobr Llyfr y Flwyddyn ei chreu yn y 1960au, ac mae Llenyddiaeth Cymru wedi bod yn ei threfnu ers 2004.
Dywedodd Cyfarwyddwr Artistig Llenyddiaeth Cymru, Leusa Llewelyn ei bod hi'n "fraint ac anrhydedd cael cyd-ddathlu" yn y seremoni yng Nghaerdydd.
Aeth ymlaen i longyfarch Iola am ei "chyfrol ddirdynnol, gonest a phwerus".
Mae Manon Steffan Ros, Caryl Lewis a Llwyd Owen i gyd ymhlith enillwyr blaenorol Llyfr y Flwyddyn.
Enillwyr y categorïau Cymraeg

Meleri Davies, Gwenno Gwilym ac Angie Roberts gyda'u gwobrau yn dilyn seremoni nos Iau
Gwobr Ffeithiol Greadigol: Camu, Iola Ynyr (Y Lolfa)
Gwobr Farddoniaeth: Rhuo ei distawrwydd hi, Meleri Davies (Cyhoeddiadau'r Stamp)
Gwobr Ffuglen: V + Fo, Gwenno Gwilym (Gwasg y Bwthyn)
Gwobr Plant a Phobl Ifanc: Arwana Swtan a'r Sgodyn Od, Angie Roberts a Dyfan Roberts (Gwasg y Bwthyn)
Gwobr Barn y Bobl Golwg360: V + Fo, Gwenno Gwilym (Gwasg y Bwthyn)
Enillwyr y categorïau Saesneg
Gwobr Ffuglen: Clear, Carys Davies (Granta)
Gwobr Farddoniaeth: Girls etc, Rhian Elizabeth (Broken Sleep Books)
Gwobr Ffeithiol Greadigol: Nightshade Mother: A Disentangling, Gwyneth Lewis (Calon Books)
Gwobr Plant a Phobl Ifanc: A History of My Weird, Chloe Heuch (Firefly Press)
Gwobr People's Choice nation.cymru: Girls etc, Rhian Elizabeth (Broken Sleep Books)
Y beirniaid ar gyfer y categorïau Saesneg eleni oedd Eloise Williams, Ned Thomas, Carole Burns a Jason Camilleri.
Mae pob enillydd yn cael gwobr gwerth £1,000 ac enillwyr y prif wobrau Cymraeg a Saesneg yn cael £3,000 ychwanegol.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Mehefin 2024
- Cyhoeddwyd11 Mai
- Cyhoeddwyd4 Gorffennaf 2024