Saith yn pledio'n ddieuog yn achos saethu Rhondda Cynon Taf

Bu farw Joanne Penney ar ôl cael ei saethu yn ei brest yn Nhonysgubioriau fis Mawrth
- Cyhoeddwyd
Mae saith o bobl wedi pledio'n ddi-euog i gyhuddiadau'n ymwneud â marwolaeth dynes a gafodd ei saethu yn Rhondda Cynon Taf.
Bu farw Joanne Penney o'i hanafiadau ar ôl cael ei darganfod mewn fflat yn Llys Illtud yn ardal Green Park yn Nhonysguboriau ar 9 Mawrth.
Roedd cwest ym mis Mawrth wedi clywed bod y ddynes 40 oed wedi marw ar ôl cael ei saethu yn ei brest, gydag anafiadau i'w chalon a'i hysgyfaint.
Mae wyth o bobl i gyd wedi cael eu cyhuddo mewn cysylltiad â'r achos, ac roedd saith yn cyflwyno eu ple yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Llun.

Fe ddigwyddodd y saethu mewn cyfeiriad yn Llys Illtyd, meddai'r heddlu
Mae Jordan Mills-Smith, 33 o Bentwyn yng Nghaerdydd, Marcus Huntley, 20 o Laneirwg, Caerdydd, Joshua Gordon, 27 o Oadby yn Sir Gaerlŷr, Tony Porter, 68, o Braunstone Town, Sir Gaerlŷr a Kristina Ginova, 21 o Oadby, i gyd yn gwadu cyhuddiad o lofruddiaeth ac o gymryd rhan mewn gweithgareddau gang troseddol.
Mae Melissa Quailey-Dashper, 39, o Gaerlŷr yn wynebu'r un cyhuddiadau ond doedd hi ddim yn bresennol yn y gwrandawiad.
Mae Sai Raj Manne, 25 ac sydd heb gyfeiriad sefydlog, a wedi gwadu bod â gwn yn ei feddiant a chymryd rhan mewn gweithgareddau gang troseddol.
Mae Molly Cooper, 33 o Gaerlŷr, wedi gwadu cael gafael ar fwledi heb drwydded a chymryd rhan mewn gweithgareddau gang troseddol.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Mawrth
- Cyhoeddwyd11 Mawrth
- Cyhoeddwyd10 Mawrth