Ffans Oasis wedi talu cannoedd am docynnau na chawson nhw

Mr Stephens
Disgrifiad o’r llun,

Dyweddodd Neil Stephens ei fod yn "ddig", ond bod "dim modd cysuro" ei wraig

  • Cyhoeddwyd

Mae ffans y band Oasis oedd yn credu eu bod wedi talu am seddi mewn bocs preifat ar gyfer gig yng Nghaerdydd yn dweud eu bod wedi talu cannoedd o bunnoedd am docynnau na chawson nhw.

Mae sawl un wedi dweud wrth BBC Cymru eu bod yn "ddig" ar ôl talu dyn busnes o Sir Benfro, David Gray, am docynnau y mae'n ymddangos nad oedd yn bodoli.

Maen nhw'n honni bod Mr Gray wedi gadael hyd at 100 o bobl heb docynnau.

Mae BBC Cymru wedi ceisio cysylltu â Mr Gray sawl gwaith, ond nid yw wedi gwneud sylw.

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys ei bod yn ymchwilio i adroddiadau o dwyll tocynnau, ond heb enwi Mr Gray.

'Dim larwm yn fy mhen'

Fe wnaeth Neil Stephens o Grymlyn dalu £500 am docynnau iddo ef a'i wraig, gan ei disgrifio fel "ffan mwyaf Oasis yn y byd".

"Pan ddaeth y sïon y llynedd fod y band am ddod yn ôl at ei gilydd, roedd hi wedi cynhyrfu i ddweud y lleiaf.

"Ces i alwad gan ffrind oedd yn dweud ei fod yn adnabod rhywun oedd â bocs ac wedi gofyn a oedd diddordeb gyda ni.

"Dywedodd mai dyn o'r enw David Gray oedd o. Roedd yn gleient i Stadiwm Principality ac wedi cynnal sawl digwyddiad corfforaethol yno."

Dywedodd Mr Stephens fod ganddo "ffrindiau a aeth i weld y Foo Fighters a'r rygbi, i gyd yn westeion i Mr David Gray".

"Doedd dim larwm yn fy mhen. Doedd dim rheswm i beidio'i gredu, doedd wir ddim byd."

Ar ôl i Mr Gray gadarnhau eu tocynnau haf diwethaf, dywedodd Mr Stephens mai dim ond wythnos cyn y gyngerdd y gwnaethon nhw gychwyn poeni.

Diwrnod cyn y gig, fe wnaeth Mr Stephens a'i ffrindiau benderfynu gyrru i dafarn yn Sir Benfro sy'n berchen i deulu Mr Gray - er mwyn ei wynebu.

"Fe wnes i gyflwyno fy hun, a dywedodd bod problem wedi bod gyda'i ffon, y ffon a oedd yn cynnwys yr holl docynnau," meddai Mr Stephens.

"Yn ystod ein cyfnod yn y dafarn fe gymrodd alwad gan ddyn oedd yn hedfan o Gibraltar i'r gig.

"Dywedodd y byddai'n cyfarfod ni y tu allan i giât 3 am 16:30 ac y byddai'n datrys y broblem."

The Speculation Inn yn Sir Benfro
Disgrifiad o’r llun,

Aeth Mr Stephens i dafarn sy'n berchen i deulu Mr Gray er mwyn ceisio cael atebion

Ar eu ffordd i Gaerdydd fore Sadwrn, fe wnaeth Mr Stephens ffonio rheolwr lletygarwch y stadiwm, i geisio canfod a oedd ei docynnau yn bodoli.

"Fe dorrodd y newyddion anffodus nad oedd archeb yn ei enw," meddai.

Mae BBC Cymru wedi holi Undeb Rygbi Cymru a yw Mr Gray erioed wedi bod yng ngofal bocs yn Stadiwm Principality.

"Roeddwn i'n ddig, doedd dim modd cysuro fy ngwraig. Roedd hi'n edrych ymlaen gymaint," meddai Mr Stephens.

"Wrth i'r diwrnod fynd yn ei flaen, fe ddaeth yn amlwg ar Facebook ei fod nid yn unig wedi gwerthu'r bocs 33 sedd, ond ei fod wedi ei werthu dro ar ôl tro.

"Roedd y ffigwr yn 87 fore Llun. Nifer o bobl crac iawn."

Rhwng £900 a £1,000 y tocyn

Roedd y galw am docynnau Oasis yn enfawr pan aethant ar werth, ac fe honnodd Mr Stephen bod Mr Gray yn gofyn am rhwng £900 a £1,000 y tocyn.

Dywedodd ei fod yn credu bod ffans wedi colli allan o "ddegau a degau o filoedd o bunnoedd".

"Rwy'n credu mai'r broblem fwyaf yw, fod yr holl ffans yma heb gael gweld Oasis", meddai.

"Ac am ei fod wedi gwerthu allan, ni fydden nhw'n cael gweld Oasis.

"Mae'n fwy na'r arian i mi."

Er gwaethaf eu profiad, mae Mr Stephens a'i wraig yn parhau i fod yn benderfynol o fynd i gyngerdd Oasis eleni ac maent wedi archebu tocynnau ers hynny i weld y band yn Los Angeles.

"Gobeithio bod y rhai yma'n ddilys", meddai.

Pynciau cysylltiedig